Constance Lewcock
Constance Lewcock | |
---|---|
Ganwyd | 11 Ebrill 1894 Horncastle |
Bu farw | 11 Tachwedd 1980 Newcastle upon Tyne |
Dinasyddiaeth | Lloegr |
Galwedigaeth | swffragét, athro, cynghorydd |
Plaid Wleidyddol | Y Blaid Lafur Annibynnol |
Priod | William Lewcock |
Gwobr/au | OBE |
Ffeminist a swffragét o Loegr oedd Constance Lewcock (née Ellis; 11 Ebrill 1894 - 11 Tachwedd 1980).
Ganed Constance (Connie) Mary Ellis yn Horncastle, Swydd Lincoln ar 11 Ebrill 1894 a bu farw yn Newcastle upon Tyne.[1][2]
Ym 1913 ymunodd gyda'r Undeb Cymdeithasol a Gwleidyddol y Menywod (Women's Social and Political Union). Dysgodd am wleidyddiaeth trwy gadeirio a siarad yng nghyfarfodydd y WSPU ledled Swydd Durham.
Ceisiodd losgi rhan o Eglwys Gadeiriol Durham ond methodd. Yn ddiweddarach, ymrwymodd i'r hyn a alwodd yn "drosedd berffaith". Yn 1914 llosgodd i lawr adeilad rheilffordd yn Esh Winning, Swydd Durham. Roedd hi wedi dylunio system lle gosodwyd jar o hylif fflamadwy ar dân pan losgodd cannwyll i lawr. Roedd hyn yn golygu, erbyn i'r adeilad pren gael ei gynnau, ei bod filltiroedd i ffwrdd, ac alibi soled o dan ei belt. Roedd hi hefyd yn ffodus i gael cymorth gan löwr o'r enw Joss Craddock. Roeddent wedi gweithio gyda'i gilydd mewn cyfarfodydd lle gallai Joss ddal y stiwardiaid yn ôl, er mwyn iddi hi wneud ei phwynt. Roedd hyn yn golygu bod Lewcock yn osgoi'r cleisiau yr oedd hi'n arfer eu cael cyn iddynt gyfarfod.[3][4][5]
Llosgodd adeilad y rheilffordd yn Esh Winning yn ulw, ond ni allai'r Heddlu ei harestio'n ffurfiol gan fod ganddi dros dri-deg o dystion a allai dystio ei bod hi gyda nhw ar adeg y tân. Fodd bynnag, nid oedd angen prawf ar ei chyflogwyr a dywedwyd wrthi bod yn rhaid iddi roi'r gorau i'w gweithredoedd gwleidyddol neu roi'r gorau i addysgu. Rhoddodd y gorau i addysgu. Y flwyddyn honno daeth yr UGCG a Llywodraeth Lloegr i gytundeb ar gadoediad yn ystod y rhyfel. Trodd Lewcock hithau ei golygon a'i hamser gweithgareddau fel aelod o'r Blaid Lafur Annibynnol. [6][7][8]
Anrhydeddau
[golygu | golygu cod]- Dros y blynyddoedd, derbyniodd nifer o anrhydeddau, gan gynnwys: OBE[9] .
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ Lewcock [née Ellis], Constance Mary [Connie] : Oxford Dictionary of National Biography - oi (yn Saesneg). doi:10.1093/ref:odnb/89853. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2019-04-16. Cyrchwyd 2019-04-16.
- ↑ Pugh, M. (2005-05-26). Lewcock [née Ellis], Constance Mary [Connie] (1894–1980), suffragette and socialist. Oxford Dictionary of National Biography. Adalwyd 29 Tachwedd 2017, from http://www.oxforddnb.com/view/10.1093/ref:odnb/9780198614128.001.0001/odnb-9780198614128-e-89853.
- ↑ Dyddiad geni: Colin Matthew, ed. (2004) (yn en), Oxford Dictionary of National Biography, Rhydychen: Gwasg Prifysgol Rhydychen, Wikidata Q17565097, https://www.oxforddnb.com/
- ↑ Dyddiad marw: Colin Matthew, ed. (2004) (yn en), Oxford Dictionary of National Biography, Rhydychen: Gwasg Prifysgol Rhydychen, Wikidata Q17565097, https://www.oxforddnb.com/
- ↑ Man geni: Colin Matthew, ed. (2004) (yn en), Oxford Dictionary of National Biography, Rhydychen: Gwasg Prifysgol Rhydychen, Wikidata Q17565097, https://www.oxforddnb.com/
- ↑ Galwedigaeth: Colin Matthew, ed. (2004) (yn en), Oxford Dictionary of National Biography, Rhydychen: Gwasg Prifysgol Rhydychen, Wikidata Q17565097, https://www.oxforddnb.com/ Colin Matthew, ed. (2004) (yn en), Oxford Dictionary of National Biography, Rhydychen: Gwasg Prifysgol Rhydychen, Wikidata Q17565097, https://www.oxforddnb.com/
- ↑ Aelodaeth: Colin Matthew, ed. (2004) (yn en), Oxford Dictionary of National Biography, Rhydychen: Gwasg Prifysgol Rhydychen, Wikidata Q17565097, https://www.oxforddnb.com/
- ↑ Anrhydeddau: Colin Matthew, ed. (2004) (yn en), Oxford Dictionary of National Biography, Rhydychen: Gwasg Prifysgol Rhydychen, Wikidata Q17565097, https://www.oxforddnb.com/
- ↑ Colin Matthew, ed. (2004) (yn en), Oxford Dictionary of National Biography, Rhydychen: Gwasg Prifysgol Rhydychen, Wikidata Q17565097, https://www.oxforddnb.com/