Ci Tarw Ffrengig
Enghraifft o'r canlynol | brîd o gi |
---|---|
Math | ci |
Màs | 9 ±0.5 cilogram, 14 ±0.5 cilogram, 8 ±0.5 cilogram, 13 ±0.5 cilogram |
Gwlad | Ffrainc |
Enw brodorol | Bouledogue Français |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Brîd o gi sy'n tarddu o Ffrainc yw'r Ci Tarw Ffrengig (Ffrangeg: Bouledogue Français). Mae'n gi cymar a gwarchotgi addas.[1]
Hanes
[golygu | golygu cod]Datblygodd y Ci Tarw Ffrengig yn Ffrainc ar ddiwedd y 19eg ganrif drwy groesfridio cŵn brodorol bychain gyda Chŵn Tarw arffed.[1]
Golwg ac iechyd
[golygu | golygu cod]Mae'r Ci Tarw Ffrengig yn debyg i Gi Tarw bychain, ond un wahaniaeth yw ei glustiau mawr sy'n sefyll i fyny a gyda blaenau crynion iddynt, yn debyg i glustiau'r ystlum. Mae ei benglog yn wastad rhwng ei glustiau ac yn grwm uwchben y llygaid, a gan amlaf mae ganddo olwg bywiog sy'n wahanol i olwg sarrug neu bwdlyd y Ci Tarw.[1] Mae'n tyfu i fod yn 28–33 cm (11–13 modfedd) o uchder ac yn pwyso 11–13 kg (24–29 o bwysau). Mae'n byw am dros 10 mlynedd.[2] Mae ganddo gôt fer a main, a all fod yn rhesog, melynllwyd, neu'n wyn.[1]
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ 1.0 1.1 1.2 1.3 (Saesneg) French bulldog. Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 14 Rhagfyr 2014.
- ↑ Hennessy, Kathryn (uwch-olygydd). The Dog Encyclopedia (Llundain, Dorling Kindersley, 2013), t. 267.