Neidio i'r cynnwys

Charles Conway

Oddi ar Wicipedia
Charles Conway
Ganwyd8 Chwefror 1820 Edit this on Wikidata
Pontnewydd Edit this on Wikidata
Bu farw11 Mehefin 1884 Edit this on Wikidata
Pontnewydd Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Galwedigaethartist, diwydiannwr, ysgythrwr, cerflunydd Edit this on Wikidata

Diwydiannwr, botanegydd, arlunydd ac ysgythrwr o Gymru oedd Charles Conway (8 Chwefror 182011 Mehefin 1884).[1]

Cefndir

[golygu | golygu cod]

Ganwyd Conway yn y Bontnewydd, Sir Fynwy, yn blentyn i Benjamin Conway, perchennog gwaith tunplat Pontnewydd ac Ann (neé Evans) ei wraig. Roedd ei ewyrth Charles Conway (1797-1860) hefyd yn fotanegydd a'i nai Charles Conway (bl 1870) hefyd yn arlunydd, ysgythrwr a botanegydd. Eitemau o gasgliadau'r tri Charles Conway rhoddodd cychwyn i gasgliad llysieueg yr Amgueddfa Genedlaethol.[2] Roedd y teulu Conway yn aelodau amlwg o'r Bedyddwyr yn Sir Fynwy. Bu cwyno gan Gymry Cymraeg yr enwad bod presenoldeb teulu uniaith Saesneg mor amlwg yn arwain at ormod o'r fain yn cael ei ddefnyddio yng nghyfarfodydd a gwasanaethau'r enwad.[3]

Roedd Conway yn gweithio fel un o gyfarwyddwyr cwmni tunplat Benjamin Conway, gan ddod yn rheolwr gyfarwyddwr y cwmni ar farwolaeth ei dad. Roedd yn Ynad Heddwch ar fainc ynadon Sir Fynwy [4] ac yn gadeirydd Bwrdd Lleol Llanfrechfa. Gwasanaethodd ar fwrdd gwarcheidwaid Undeb Tlodion Pont-y-pŵl. Roedd yn un o gyfarwyddwyr Cwmni Nwy Cwmbrân a'r Bontnewydd.[5]

Mae Conway yn cael ei gofio'n bennaf am ei weithgaredd hamdden yn bennaf. Roedd yn casglu ac yn astudio planhigion, adar, a chregyn. Roedd yn arlunydd galluog, roedd yn gerflunydd, roedd yn addurno llestri, arddangoswyd enghreifftiau o'i lestri yn Arddangosfa Celfyddyd Gain 1881. Yn bennaf oll roedd yn ysgythrwr penigamp. Defnyddiwyd ei ysgythriadau ar gyfer darlunio cyhoeddiadau gwyddonol, megis Fossil Flora gan John Lindley a Syr William Hooker, a Botany gan James Sowerby, a hefyd yn y cyhoeddiadau yn bennaf o dan gyfarwyddyd Sowerby sy'n ymwneud â darluniau o blanhigion tai gwydr. Roedd ganddo hefyd diddordeb mawr mewn llên gwerin Cymru gan gasglu a chyhoeddi rhai enghreifftiau. Enillodd wobr eisteddfodol yng Nghaerdydd am gyfres o ysgythriadau yn darlunio llên gwerin.[6] Ychydig cyn ei farwolaeth cafodd ei gomisiynu i ysgrifennu cyfres o straeon y tylwyth teg wedi eu darlunio gydag ysgythriadau ar gyfer y cylchgrawn Red Dragon.[7] Dechreuodd ysgythru cyfres o goed Sir Fynwy gyda'r bwriad o'u cyhoeddi o dan y teitl Silva Silurica ond bu farw cyn gorffen y gwaith.[1]

Marwolaeth

[golygu | golygu cod]

Bu farw yn di briod yn ei gartref yn y Bontnewydd yn 64 mlwydd oed, a chladdwyd ei weddillion ym mynwent y Bedyddwyr, Pont-rhyd-yr-ynn.[8]

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1. 1.0 1.1 "CONWAY, CHARLES (1820 - 1884), arlunydd ac ysgythrwr | Y Bywgraffiadur Cymreig". bywgraffiadur.cymru. Cyrchwyd 2021-01-30.
  2. "Planhigion Fasgwlaidd". Amgueddfa Genedlaethol Cymru. Cyrchwyd 2021-01-30.
  3. Y Traethodydd Cyf. CXLII (602-605), 1987 tud 217 "Iaith y Nefoedd Anghydffurfiaeth ar Gymraeg yn Sir Fynwy yn y Bedwaredd Ganrif ar Bymtheg" adalwyd 30 Ionawr 2021
  4. Y Bedyddiwr Cyf. VII Rhif. 73 - Ionawr 1848 tud 36 "CHARLES CONWAY, YSW. PONT- NEWYDD" adalwyd 30 Ionawr 2021
  5. "PONTYPOOL - Weekly Mail". Henry Mackenzie Thomas. 1884-06-14. Cyrchwyd 2021-01-30.
  6. "THE LATE MR CHARLES CONWAY JP OF PONTNEWYDD - Weekly Mail". Henry Mackenzie Thomas. 1884-06-21. Cyrchwyd 2021-01-30.
  7. The Red Dragon the national magazine of Wales Cyf VI Rhif. 1 Gorffennaf 1884 " LITERARY AND ART NOTES" adalwyd 30 Ionawr 2021
  8. "PONTNEWYDD - Monmouthshire Merlin". Charles Hough. 1884-06-20. Cyrchwyd 2021-01-30.