Casnodyn
Casnodyn | |
---|---|
Ganwyd | 13 g |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Galwedigaeth | bardd |
Blodeuodd | 1320 |
Bardd Cymraeg yn hanner cyntaf y 14g oedd Casnodyn (cyn 1300 - tua 1350, fan bellaf). O ran ei arddull mae'n perthyn i do olaf y Gogynfeirdd ond yn ogystal mae'n cael ei ystyried yn un o'r cyntaf o Feirdd yr Uchelwyr. Ef yw'r bardd cynharaf o Forgannwg a wyddys.
Gyrfa
[golygu | golygu cod]Brodor o Gilfai (ger Abertawe) ym Morgannwg oedd Casnodyn. Rydym yn dibynnu bron yn llwyr ar dystiolaeth ei gerddi ei hun a chyfeiriadau ato yng ngwaith beirdd eraill am ein gwybodaeth amdano. Ceir cyfeiriadau ato mewn cerdd dychan o waith Trahaearn Brydydd Mawr (gweler isod) ac yn ffug-farwnad Gruffudd Gryg i Ddafydd ap Gwilym.
Enw barddol yw 'Casnodyn', ac mae'n bosibl mai Gruffudd oedd ei enw personol. Mae'r enw 'Casnodyn' yn enghraifft dda o'r enwau difrïol yr oedd y beirdd yn arfer rhoi ar ei gilydd. Mae'r union ystyr yn ansicr, ond gallai olygu naill ai "dyn bach cas ei natur" neu "dyn bach fel cudyn".
Dengys ei gerddi iddo ganu ym Morgannwg yn bennaf, ond canodd i noddwyr yng Ngheredigion a Gwynedd hefyd. Roedd ei noddwyr yn cynnwys Ieuan Llwyd o Lyn Aeron (Ceredigion), Madog Fychan o Dir Iarll, a Gruffudd Llwyd o Dregarnedd. Ymddengys yn dra debygol iddo dderbyn ei addysg farddol gan Ieuan Llwyd ab Ieuan ap Gruffudd Foel, tad y Rhydderch a gomisiynodd Lyfr Gwyn Rhydderch. Fe'i disgrifir ganddo fel,
- Llyw a'm dysgawdd hawdd hoddiaw—gerdd berffaith,
- Nid fal sothachiaeth beirdd caith Caeaw.[1]
Gwaith barddol
[golygu | golygu cod]Cedwir deuddeg o gerddi y gellir eu derbyn fel gwaith dilys y bardd yn y llawysgrifau, yn awdlau moliant seciwlar a chrefyddol, englynion a dwy gerdd ddychan, un ohonynt i'r bardd Trahaearn Brydydd Mawr. Ateb i gerdd ddychan gan Drahaearn yw'r gerdd hir honno sy'n gyfres o 45 englyn o naws ddeifiol iawn, er bod yr eirfa'n astrus i'r darllenydd diweddar.
Ceidwadol iawn oedd Casnodyn, mewn oes o newid yng ngwleidyddiaeth a diwylliant Cymru yn sgil cwymp y Gymru annibynnol. Glynai at ddulliau a geirwedd Beirdd y Tywysogion a chanmolai noddwyr am nad oeddent yn deall gair o Saesneg. Ar y llaw arall ymserchai'n llwyr yn y Gymraeg a cheir sawl cyfeiriad ganddo at dafodieithoedd fel Gwyndodeg a Gwenwyseg. Un o'i gerddi mwyaf adnabyddus yw ei awdl i Gwenllian, merch Cynan ap Dafydd o Wynedd. Fe'i disgrifir ganddo yn,
- Main firain riain gain Gymräeg,
- Mwyn forwyn hunddwyn, hoenddygn gysteg.[2]
Cedwir y testunau cynharaf o waith Casnodyn yn ail haen Llawysgrif Hendregadredd a cheir bron pob un o'r testunau sydd wedi goroesi yn Llyfr Coch Hergest.
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]Llyfryddiaeth
[golygu | golygu cod]Ceir testunau golygiedig gyda rhagymadrodd a nodiadau yn y gyfrol,
- R. Iestyn Daniel (gol.), Gwaith Casnodyn (Aberystwyth, 1999). 'Cyfres Beirdd yr Uchelwyr'.
Bedo Hafesb · Bleddyn Ddu · Cadwaladr Cesail · Casnodyn · Rhisiart Cynwal · Wiliam Cynwal · Dafydd ab Edmwnd · Dafydd Alaw · Dafydd ap Gwilym · Dafydd ap Siencyn · Dafydd Benwyn · Dafydd Ddu o Hiraddug · Dafydd Gorlech · Dafydd Llwyd o Fathafarn · Dafydd Nanmor · Dafydd y Coed · Edward Dafydd · Deio ab Ieuan Du · Lewys Dwnn · Edward Maelor · Edward Sirc · Edward Urien · Einion Offeiriad · Gronw Ddu · Gronw Gyriog · Gruffudd ab Adda ap Dafydd · Gruffudd ab Ieuan ap Llywelyn Fychan · Gruffudd ap Dafydd ap Tudur · Gruffudd ap Llywelyn Lwyd · Gruffudd ap Maredudd ap Dafydd · Gruffudd ap Tudur Goch · Gruffudd Fychan ap Gruffudd ab Ednyfed · Gruffudd Gryg · Gruffudd Hiraethog · Gruffudd Llwyd · Gruffudd Llwyd ap Llywelyn Gaplan · Guto'r Glyn · Gutun Owain · Gwerful Fychan · Gwerful Mechain · Gwilym Ddu o Arfon · Gwilym Tew · Hillyn · Huw Cae Llwyd · Huw Ceiriog · Huw Cornwy · Huw Llŷn · Huw Pennant (I) · Huw Pennant (II) · Hywel ab Einion Lygliw · Hywel ap Mathew · Hywel Cilan · Hywel Ystorm · Ieuan ap Huw Cae Llwyd · Ieuan ap Hywel Swrdwal · Ieuan Brydydd Hir · Ieuan Du'r Bilwg · Ieuan Dyfi · Ieuan Gethin · Ieuan Llwyd ab y Gargam · Ieuan Tew Ieuanc · Iocyn Ddu ab Ithel Grach · Iolo Goch · Iorwerth ab y Cyriog · Iorwerth Beli · Iorwerth Fynglwyd · Ithel Ddu · Lewis ab Edward · Lewys Daron · Lewys Glyn Cothi · Lewys Môn · Lewys Morgannwg · Llywarch Bentwrch · Llywelyn ab y Moel · Llywelyn ap Gwilym Lygliw · Llywelyn Brydydd Hoddnant · Llywelyn Ddu ab y Pastard · Llywelyn Fychan ap Llywelyn Foelrhon · Llywelyn Fychan ap Llywelyn Goch · Llywelyn Goch ap Meurig Hen · Llywelyn Goch y Dant · Llywelyn Siôn · Mab Clochyddyn · Madog Benfras · Maredudd ap Rhys · Meurig ab Iorwerth · Morus Dwyfech · Owain Gwynedd · Owain Waed Da · Prydydd Breuan · Tomos Prys · Gruffudd Phylip · Phylip Siôn Phylip · Rhisiart Phylip · Rhys Cain · Rhys Nanmor · Siôn Phylip · Siôn Tudur · Raff ap Robert · Robert ab Ifan · Robin Ddu ap Siencyn · Rhisierdyn · Rhisiart ap Rhys · Rhys ap Dafydd ab Einion · Rhys ap Dafydd Llwyd · Rhys ap Tudur · Rhys Brydydd · Rhys Goch Eryri · Sefnyn · Simwnt Fychan · Siôn ap Hywel ap Llywelyn Fychan · Siôn ap Hywel Gwyn · Siôn Brwynog · Siôn Cent · Siôn Ceri · Sypyn Cyfeiliog · Trahaearn Brydydd Mawr · Tudur Aled · Tudur ap Gwyn Hagr · Tudur Ddall · Wiliam Llŷn · Y Mab Cryg · Y Proll · Yr Ustus Llwyd