Carnedd Ugain
Math | mynydd, copa |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Ardal warchodol | Parc Cenedlaethol Eryri |
Rhan o'r canlynol | Yr Wyddfa a'i chriw |
Sir | Llanberis, Beddgelert, Betws Garmon |
Gwlad | Cymru |
Uwch y môr | 1,065 metr |
Cyfesurynnau | 53.07552°N 4.07518°W |
Cod OS | SH6108255158 |
Manylion | |
Amlygrwydd | 72 metr |
Cyfnod daearegol | Ordofigaidd |
Rhiant gopa | Yr Wyddfa |
Cadwyn fynydd | Eryri |
Un o'r copaon ar yr Wyddfa yn Eryri yw Carnedd Ugain, Garnedd Ugain neu Crib y Ddysgl.
Enw
[golygu | golygu cod]Adnabyddir y mynydd yn gyffredinol fel Crib y Ddysgl ond a bod yn hollol gywir, mae Crib y Ddysgl yn cyfeirio'n unig at barhad Y Grib Goch.[1]
Lleoliad ac uchder
[golygu | golygu cod]Saif copa Carnedd Ugain copa tua cilometr i'r gogledd o gopa'r Wyddfa ei hun ac fe'i ystyrir yn gopa ar wahân i'r Wyddfa gan Alan Dawson, sy'n ei alw'n Hewitt; dyma'r ail gopa uchaf yng Nghymru.
Llwybrau
[golygu | golygu cod]Mae llwybr Pedol yr Wyddfa yn cynnwys copa Garnedd Ugain, ac mae'r llwybr o Lanberis i gopa'r Wyddfa yn mynd heibio iddo, ond heb fynd tros y copa. I'r de o'r copa mae clogwyni serth gyda Llyn Glaslyn islaw, tra i'r gogledd mae Cwm Glas.
-
Garnedd Ugain o'r Elidir Fawr
Y pedwar copa ar ddeg |
---|
Yr Wyddfa a'i chriw:
Yr Wyddfa (1085m) · Garnedd Ugain (1065m) · Crib Goch (923m) |
Y Glyderau:
Elidir Fawr (924m) · Y Garn (947m) · Glyder Fawr (999m) · Glyder Fach (994m) · Tryfan (915m) |
Y Carneddau:
Pen yr Ole Wen (978m) · Carnedd Dafydd (1044m) · Carnedd Llywelyn (1064m) · Yr Elen (962m) · Foel Grach (976m) · Carnedd Gwenllian (Garnedd Uchaf) (926m) · Foel-fras (942m) |
- ↑ Crolla, Rachel; McKeating, Carl (2022-08-15). Scrambles in Snowdonia: 80 of the Best Routes - Snowdon, Glyders, Carneddau, Eifionydd and Outlying Areas (yn Saesneg). Cicerone Press Limited. t. 198. ISBN 978-1-78362-925-1.