Cambourne
Math | tref, plwyf sifil |
---|---|
Ardal weinyddol | Ardal De Swydd Gaergrawnt |
Poblogaeth | 12,081 |
Sefydlwyd | |
Daearyddiaeth | |
Sir | Swydd Gaergrawnt (Sir seremonïol) |
Gwlad | Lloegr |
Yn ffinio gyda | Knapwell |
Cyfesurynnau | 52.21814°N 0.06956°W |
Cod SYG | E04001856, E04012746 |
Cod OS | TL318598 |
Cod post | CB23 |
Tref a phlwyf sifil yn Swydd Gaergrawnt, Dwyrain Lloegr, ydy Cambourne.[1] Saif tua 9 milltir (14 km) i'r gorllewin o ddinas Caergrawnt. Fe'i lleolir yn ardal an-fetropolitan De Swydd Gaergrawnt. Dyma'r anheddiad mwyaf yr ardal an-fetropolitan, ac mae ei phencadlys i'w gael yma. Rhennir y dref yn dri phentref, sef Great Cambourne, Lower Cambourne ac Upper Cambourne.
Mae Cambourne yn anheddiad newydd a grëwyd o dan Ddeddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990 gan Cyngor Sir Swydd Gaergrawnt a thri chwmni adeiladu. Dechreuodd y gwaith adeiladu ym Mehefin 1998 ar safle maes glas. Mae'r anheddiad yn dal i ehangu'n gyflym. Yng Nhyfridiad 2001 roedd gan y plwyf sifil boblogaeth o 1,198; yng Nghyfrifiad 2011 roedd ganddo boblogaeth o 8,186; ac roedd ganddo boblogaeth o 10,390 yn ôl amcangyfrif cyfrifiad 2019.[2] Yn wreiddiol fe'i dynodwyd yn bentref, ond ym Mawrth 2019 pleidleisiodd y cyngor plwyf i ddod yn gyngor tref.[3]
-
Pencadlys Cyngor Ardal De Swydd Gaergrawnt
-
Parc Busnes Cambourne
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ British Place Names; adalwyd 11 Gorffennaf 2020
- ↑ City Population; adalwyd 11 Gorffennaf 2020
- ↑ "Cambourne becomes a town comprised of villages", Cambridge Independent; adalwyd 12 Gorffennaf 2020
Dinasoedd
Caergrawnt ·
Ely ·
Peterborough
Trefi
Cambourne ·
Chatteris ·
Godmanchester ·
Huntingdon ·
March ·
Ramsey ·
Soham ·
St Ives ·
St Neots ·
Whittlesey ·
Wisbech