Brogyntyn
Portico Neuadd Brogyntyn | |
Math | tŷ bonedd Seisnig |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Rhan o'r canlynol | stad Brogyntyn |
Sir | Swydd Amwythig (Sir seremonïol) |
Gwlad | Lloegr |
Cyfesurynnau | 52.8729°N 3.0723°W |
Cod OS | SJ2792431138 |
Statws treftadaeth | adeilad rhestredig Gradd II* |
Manylion | |
Plasdy ac ystad o darddiad Cymreig ym mhlwyf Selatyn ger Croesoswallt, Swydd Amwythig, Gorllewin Canolbarth Lloegr, yw Brogyntyn. Er iddo ddechrau fel ystad fechan ar ddiwedd yr Oesoedd Canol, tyfodd i fod yn un o ystadau mwyaf gogledd Cymru (er ei fod yn Lloegr roedd yr ardal o gwmpas Brogyntyn yn Gymreig iawn am ganrifoedd).
Hanes
[golygu | golygu cod]Sefydlwyd castell Cymreig ar dir Brogyntyn yn y 12g, efallai gan Owain Brogyntyn, un o dywysogion Teyrnas Powys. Castell mwnt a beili ydyw: dim ond ei olion sy'n goroesi heddiw, ym Mharc Brogyntyn.
Trwy gyd-briodas ymledodd cysylltiadau'r teulu ac ychwanegwyd i gyfoeth yr ystad. Tro mawr yn hanes yr ystad oedd y briodas rhwng Syr William Maurice, aer Clenennau, gydag aeres Brogyntyn yn yr 16g. Roedd teulu'r llenor Ellis Wynne yn perthyn iddi yn y 17g. Ar ddechrau'r 19g, trwy briodas eto, sefydlwyd llinach Arglwydd Harlech.
Dros y canrifoedd, casglwyd llyfrgell ym Mrogyntyn a oedd yn cynnwys nifer o lyfrau prin a chasgliad pwysig o lawysgrifau Cymreig. Daeth yr rhain, ynghyd â nifer fawr o bapurau a chofnodion yn ymwneud â Chymru, i feddiant Llyfrgell Genedlaethol Cymru yn yr 20g lle y'u cedwir heddiw fel 'Llawysgrifau Brogyntyn'.
Gweler hefyd
[golygu | golygu cod]- Fanny Mary Katherine Bulkeley-Owen, awdures
- Rhestr enwau Cymraeg ar drefi a llefydd eraill yn Lloegr
Darllen pellach
[golygu | golygu cod]Ceir cyfres o erthyglau gan E. D. Jones ar Lawysgrifau Brogyntyn a'u cefndir yng Nghylchgrawn Llyfrgell Genedlaethol Cymru (cyfrolau v-viii, 1948-53).
Dolenni allanol
[golygu | golygu cod]- (Saesneg) Castell Brogyntyn Archifwyd 2011-07-21 yn y Peiriant Wayback, yn cynnwys llun o'r safle.