Neidio i'r cynnwys

Banwen

Oddi ar Wicipedia
Banwen
Mathpentref Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirCastell-nedd Port Talbot Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Cyfesurynnau51.7724°N 3.6608°W Edit this on Wikidata
Cod OSSN855095 Edit this on Wikidata
Gwleidyddiaeth
AS/au CymruJeremy Miles (Llafur)
AS/au y DUChristina Rees (Llafur)
Map

Pentref yng nghymuned Onllwyn, bwrdeisdref sirol Castell-nedd Port Talbot, Cymru, yw Banwen (hefyd: Banwen Pyrddin). Saif yn rhan uchaf Cwm Dulais, ychydig i'r de o gyffordd y priffyrdd A4109 ac A4221, i'r de-ddwyrain o bentref mwy Dyffryn Cellwen.

Cynrychiolir yr ardal hon yn Senedd Cymru gan Jeremy Miles (Llafur)[1] ac yn Senedd y DU gan Christina Rees (Llafur).[2]

Awgrymwyd y pentref fel man geni Sant Padrig, ar sail cofnod iddo ef gael ei eni mewn lle o'r enw banavem taburniae, rywle ar arfordir gorllewinol Ynys Prydain. Roedd ar y ffordd Rufeinig rhwng Castell Nedd ac Aberhonddu, ac mae olion gwersyll Rhufeinig gerllaw.

Ar un adeg roedd mwyngloddio glo, haearn a chopr yn bwysig yn yr ardal.

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1. "Gwefan Senedd Cymru". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2021-11-10. Cyrchwyd 2021-12-23.
  2. Gwefan Senedd y DU
Eginyn erthygl sydd uchod am Gastell-nedd Port Talbot. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato