Baner Ewrop
Gwedd
Enghraifft o'r canlynol | symbols of Europe, baner, Logo |
---|---|
Lliw/iau | glas, aur |
Dechrau/Sefydlu | 8 Rhagfyr 1955 |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Mae Baner Ewrop yn cynnwys cylch o ddeuddeg seren aur ar gefndir glas. Mae'n fwyaf cysylltiedig â'r Undeb Ewropeaidd (UE), gynt y Cymunedau Ewropeaidd, a fabwysiadodd y faner yn y 1980au. Er hynny, fe'i mabwysiadwyd yn gyntaf gan Gyngor Ewrop, a grëodd hi ym 1955.
Sefydliadau ar wahân ydy'r UE a Chyngor Ewrop; mae gan yr UE 27 o aelodau, tra bod gan Gyngor Ewrop 47 o aelodau a 5 sylwedydd, sy'n cynnwys nid yn unig y 27 o aelodau o'r UE, ond bron holl wledydd Ewrop ac eithrio Belarws, Casachstan a Dinas y Fatican. Pan fabwysiadwyd y faner gan Gyngor Ewrop, roedd i fod i gynrychioli nid yn unig y Cyngor ei hun, ond Ewrop gyfan.