Asid carbocsylig
Enghraifft o'r canlynol | dosbarth strwythurol cyfansoddion cemegol |
---|---|
Math | carbon oxoacid, organic acid, carbonyl compound |
Rhan o | ATPase-coupled carboxylic acid transmembrane transporter activity, carboxylic acid transmembrane transporter activity, carboxylic acid transmembrane transport |
Yn cynnwys | carboxyl, carboacyl group |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Asid organig gyda'r grŵp carbocsyl a'r fformiwla gemegol: R-C(=O)OH, a fynegir fel arfer fel R-COOH neu R-CO2H [1] yw asid carbocsylig. Mae asidau carbocsylig yn asidau sy'n ffitio diffiniad Damcaniaeth Brønsted-Lowry; maent yn rhyddhau protonau. Mae halenau ac anionau asidau carbocsylig yn cael eu galw'n "carbocsyladau". Rhain yw'r asidau organig cryfaf o ganlyniad i sefydlogrwydd yr anion carbocsylad lle mae'r electronau (ac felly'r wefr negyddol) yn cael eu dadleoli rhwng y ddau atom ocsigen electronegyddol. Mae asidau carbocsylig mewn hydoddiant dyfrllyd felly'n sefydlu'r ecwilibriwm canlynol:
R-COOH + H2O ⇌ R-COO- + H3O+
Yr asidau carbocsylig symlaf yw'r asidau alcanoig, R-COOH, lle mae R yn cynrychioli hydrogen neu grŵp alcyl.
Enghreifftiai cyffredin
[golygu | golygu cod]Enw | R | Mr | pKa | Enghraifft
ffynhonnell naturiol |
---|---|---|---|---|
Monogarbocsylig | ||||
Fformig | H | 46.03 | 3.77 | Pigiad morgrug a danadl poethion |
Asetig | CH3 | 60.05 | 4.76 | Finegr |
Propionig | CH3CH2 | 74.08 | 4.88 | Caws a chwys |
Bwtyrig | CH3CH2CH2 | 88.11 | 4.82 | Menyn, Llaeth, Chwŷd |
Deugarbocsylig | ||||
Ocsalig | 90.03 | 1.25,4.14 | Suran y coed, Riwbob | |
Trigarbocsylig | ||||
Sitrig | 192.12 | 3.13,4.76,6.39 | Ffrwyth sitrws |
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ Compendium of Chemical Terminology, carboxylic acids
Dolenni allanol
[golygu | golygu cod]- (Saesneg)Synthesis asidau carbocsylig - Collection of links pertaining to synthesis of Carboxylic acid Archifwyd 2012-02-16 yn y Peiriant Wayback
- (Saesneg)pH asidau carbocsylig a thitradiad: - freeware for calculations, data analysis, simulation, and distribution diagram generation