Artaxerxes I, brenin Persia
Gwedd
Artaxerxes I, brenin Persia | |
---|---|
Ganwyd | 5 g CC |
Bu farw | 424 CC Susa |
Galwedigaeth | brenin neu frenhines |
Swydd | Uwch Frenin |
Rhagflaenydd | Xerxes I, brenin Persia |
Tad | Xerxes I, brenin Persia |
Mam | Amestris |
Priod | Damaspia |
Plant | Sogdianus, brenin Persia, Xerxes II, brenin Persia, Darius II, brenin Persia, Parysatis, Arsites |
Llinach | Brenhinllyn yr Achaemenid |
Brenin Ymerodraeth Persia rhwng 465 CC a 424 CC oedd Artaxerxes I (Hen Berseg: Artaxšacā, Perseg: اردشیر یکم (Ardeshir), Groeg: Ἀρταξέρξης; bu farw 424 CC).
Roedd yn fab i Xerxes I, brenin Persia, ac olynodd ef ar yr orsedd yn 465 CC. Ceisiodd wanhau Athen trwy ariannu ei gelynion yng Ngwlad Groeg. Hyn a achosodd i'r Atheniaid symud trysorfa Cynghrair Delos o ynys Delos i'r Acropolis yn Athen. Yn 449 CC, gwnaed cytundeb heddwch rhwng Athen, Argos a Persia.
Mae Artaxerxes yn ymddangos yn Llyfr Ezra yn y Beibl, lle mae'n rhoi llywodraeth ar yr Iddewon i Ezra. Gadawodd Ezra ddinas Babilon yn 457 CC a theithio i ddinas Jeriwsalem.
Olynwyd ef gan ei fab, Xerxes II.
Rhagflaenydd: Xerxes I |
Brenin Ymerodraeth Achaemenid Persia 464 CC – 424 CC |
Olynydd: Xerxes II |
Rhagflaenydd: Xerxes I |
Brenin yr Aifft 464 CC – 424 CC |
Olynydd: Xerxes II |