Amman
Math | dinas, dinas fawr |
---|---|
Enwyd ar ôl | Ammon |
Poblogaeth | 4,007,526 |
Pennaeth llywodraeth | Yousef Shawarbeh |
Cylchfa amser | EET |
Gefeilldref/i | Cairo, Muscat, Baku, Sylhet, Sana'a, Islamabad, Beijing, Ankara, Khartoum, Miami, Doha, Istanbul, São Paulo, Alger, Bwcarést, Nouakchott, Tiwnis, Sofia, Beirut, Pretoria, Tegucigalpa, Chicago, Genefa, Milan, Calabria, Sarajevo, Moscfa, Mostar, Central Governorate, Bishkek, San Francisco, Tokyo, Jeddah, Montréal, Astana, Baghdad, Damascus, Yerevan, Nalchik, Rabat, Bwrdeistref Paphos, Cincinnati |
Daearyddiaeth | |
Sir | Ardal Lywodraethol Amman |
Gwlad | Gwlad Iorddonen |
Arwynebedd | 1,680 km² |
Uwch y môr | 776 metr |
Cyfesurynnau | 31.95°N 35.93°E |
Cod post | 11110–17198 |
Pennaeth y Llywodraeth | Yousef Shawarbeh |
Amman yw prifddinas a dinas fwyaf Gwlad Iorddonen. Hi hefyd yw'r ddinas fwyaf boblog, a chanolfan economaidd, gwleidyddol a diwylliannol y wlad. Lleolir Amman i'r gogledd o ganol y wlad ac mae ganddi boblogaeth o 411,106.[1][2] Ceir arwynebedd o oddeutu 1,680 cilometr sgwâr (648.7 milltir sgwâr). Caiff ei hystyried yn un o'r dinasoedd Arabaidd mwyaf modern gyda'i diwydiant twristiaeth yn ffynnu, o Arabia ac Ewrop. Yn 2014 ymwelodd dros ddwy filiwn a'r ddinas, gan ei gwneud y bumed cyrchfan twristaidd fwyaf yn Arabia.[3][4][5]
Hanes
[golygu | golygu cod]Mae'r dystiolaeth gynharaf o anheddiad dynol yn Amman mewn safle Neolithig o'r enw 'Ain Ghazal, lle cafwyd hyd i rai o'r cerfluniau dynol hynaf ac sy'n dyddio i 7250 CC. Yn ystod Oes yr Haearn, roedd y ddinas yn cael ei hadnabod fel Ammon, yn gartref i Deyrnas yr Ammoniaid. Fe'i enwyd yn "Philadelphia" yn ystod ei chyfnodau Groegaidd a Rhufeinig, ac o'r diwedd fe'i galwyd yn Amman yn ystod y cyfnod Islamaidd. Mae'r ddinas fodern yn dyddio o ddiwedd y 19g pan ymsefydlodd mewnfudwyr yr Ymerodraeth yr Otomaniaid ym 1867. Sefydlwyd cyngor ddinesig cyntaf Amman cyntaf yn 1909.
Dinas Amman oedd prifddinas yr Ammoniaid y cyfeirir atynt yn y Beibl. Mae olion archaeolegol Groegaidd a Rufeinig i'w gweld hyd heddiw; yr enwocaf yw'r amffitheatr Rufeinig yng nghanol y ddinas.
Ar ôl y cyfnod Rhufeinig aeth Amman, nad oedd yn dref bwysig iawn dan yr ymerodraeth, yn bentref di-nod. Dan reolaeth Prydain yng ngwlad Iorddonen dechreuodd ffynnu eto ac yn 1946 daeth yn brifddinas y wlad annibynnol newydd.
Tyfodd y boblogaeth yn sylweddol o ganlyniad i'r rhyfeloedd rhwng Israel a'r gwledydd Arabaidd yn 1948, 1967, a 1973, wrth i nifer o ffoaduriaid Palesteinaidd gyrraedd y ddinas. Yn 1970 arweiniodd y tensiynau rhwng y ffoaduriaid a llywodraeth y wlad at ymladd yn y strydoedd.
Ers hynny mae nifer fawr o'r ffoaduriaid wedi dychwelyd i'r Lan Orllewinol.
Etymoleg
[golygu | golygu cod]Tarddiad y gair "Amman" yw "Rabbath Ammon", sef enw'r Ammoniaid arni yn y 13g, gyda "Rabbath" yn golygu 'prifddinas' neu brif le'r brenin'.[6] Yn y Beibl hebraeg, fe'i gelwir yn "Rabbat ʿAmmon", ond yn ôl y Groegwr Ptolemi II Philadelphus a deyrnasai rhwng 283 a 246 CC ac a oresgynnodd y wlad, "Philadelphia" oedd yr enw, gair a ddeilliodd o'i lysenw ef ei hun - Philadelphus.[7]
Daearyddiaeth
[golygu | golygu cod]Lleolir Amman ar Lwyfandir Boncyn y Dwyrain, ucheldir a nodweddir gan dair prif wadi (neu ddyffryn) sy'n rhedeg drwyddo.[8] Yn wreiddiol, adeiladwyd y ddinas ar saith bryn.[9] Nodweddir tir Aman gan ei fynyddoedd. [70] Mae'r ardaloedd pwysicaf yn y ddinas wedi eu henwi ar ôl y bryniau neu'r mynyddoedd y maent yn gorwedd arnynt.[10]
Mae drychiad yr ardal yn amrywio o 700 i 1,100 metr (2,300 i 3,600 troedfedd). Lleolir Al-Salt ac al-Zarqa i'r gogledd-orllewin a'r gogledd-ddwyrain, yn y drefn honno, ac mae Madaba wedi'i leoli i'r gorllewin, al-Karak a Ma'an i'r de-orllewin a'r de-ddwyrain o Amman, yn y drefn honno. Mae un o'r unig ffynhonnau sy'n weddill yn Amman bellach yn cyflenwi dŵr i Afon Zarqa.[11][12]
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ "Revealed: the 20 cities UAE residents visit most". Arabian Business Publishing Ltd. 2015-05-01. Cyrchwyd 2015-09-21.
- ↑ "Population stands at around 9.5 million, including 2.9 million guests". The Jordan Times. The Jordan News. 2016-01-22. Cyrchwyd 2016-01-22.
- ↑ "Top 100 International Tourist Destination Cities by Country" (PDF). Euromonitor. Euromonitor/. 2015-01-24. Cyrchwyd 2015-10-05.
- ↑ "Westernized media in Jordan breaking old taboos — RT". Rt.com. Cyrchwyd 2012-11-28.
- ↑ "Number of tourists dropped by 14% in 2013 — official report". The Jordan Times. The Jordan News. 2014-02-08. Cyrchwyd 2015-09-21.
- ↑ "About GAM => History". Greater Amman Municipality. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2015-10-02. Cyrchwyd 2015-09-22. Unknown parameter
|deadurl=
ignored (help) - ↑ "MISDAR". mansaf.org. Cyrchwyd 2015-09-22.
- ↑ Ham, Anthony; Greenway, Paul (2003). Jordan. Lonely Planet. t. 19.
- ↑ Donagan, Zechariah (2009). Mountains Before the Temple. Xulon Press. t. 236. ISBN 978-1615795307.
- ↑ Bou, Jean (2009). Light Horse: A History of Australia's Mounted Arm. Cambridge University Press. t. 159.
- ↑ "ارتفاعات مناطق عمان الكبرى عن سطح البحر – ارتفاع محافظات المملكة الاردنية عن سطح البحر". Aswaq Amman (yn Arabic). Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2016-01-26. Cyrchwyd 24 Medi 2015. Unknown parameter
|dead-url=
ignored (help)CS1 maint: unrecognized language (link) - ↑ "Jordan Basim-Geography, population and climate". Food and Agricultural Organization of the United Nations. FAO. 2009. Cyrchwyd 2015-09-24.