Amelia Earhart
Amelia Earhart | |
---|---|
Ganwyd | 24 Gorffennaf 1897 Atchison |
Bu farw | Howland Island |
Dinasyddiaeth | Unol Daleithiau America |
Alma mater |
|
Galwedigaeth | hedfanwr, bywgraffydd, awdur teithlyfrau, newyddiadurwr, ymgyrchydd dros hawliau merched, aviation writer |
Cyflogwr | |
Mudiad | first-wave feminism |
Tad | Edwin Stanton Earhart |
Mam | Amelia Otis |
Priod | George P. Putnam |
Gwobr/au | Y Groes am Hedfan Neilltuol, Gwobr Harmon, 'Hall of Fame' Cendlaethol Menywod, Gwobr Ryngwladol Menywod am Hedfan, Gwobr 'Hall of Fame' am Hedfan, Neuadd Enwogion California, Oriel Anfarwolion Hedfan ac Amgueddfa New Jersey, Medal Aur Cymdeithas y Daearyddwyr Benywaidd |
Gwefan | https://www.ameliaearhart.com/ |
llofnod | |
Awyrenwraig o'r Unol Daleithiau oedd Amelia Mary Earhart (24 Gorffennaf 1897 – 2 Gorffennaf 1937), ac un o'r merched cyntaf i hedfan pellteroedd maith mewn awyren. Hi oedd y ferch gyntaf i hedfan ar draws Cefnfor yr Iwerydd ar ben ei hunan. Torrodd sawl record, ac ysgrifennodd nifer o lyfrau am ei hanturiaethau yn yr awyr.
Diflannodd Amelia Earhart ar 2 Gorffennaf 1937 wrth geisio hedfan o gwmpas y byd. Mae pobl yn dal i ymddiddori yn hanes ei bywyd, ei gyrfa a’i diflaniad.
Taith trawsiwerydd yn 1928
[golygu | golygu cod]Ar ôl hedfaniad unigol Charles Lindbergh ar draws Cefnfor yr Iwerydd yn 1927, mynegodd Amy Guest (1873–1959) ddiddordeb mewn bod y fenyw gyntaf i hedfan (neu chael ei hedfan) ar draws yr Iwerydd. Wedi penderfynu fod y daith yn rhy beryglus iddi wneud, cynigiodd noddi'r cynllun gan awgrymu dod o hyd i ferch arall gyda'r "ddelwedd gywir". Wrth ei gwaith un prynhawn yn Ebrill 1928, cafodd Earhart alwad ffôn gan y Capten Hilton H. Railey, a ofynodd iddi a hoffai hedfan yr Iwerydd.
Fe wnaeth cydlynwyr y cynllun (yn cynnwys George P. Putnam, cyhoeddwr llyfrau a dyn cyhoeddusrwydd ) gyfweld Earhart a gofynnodd iddi cyd-deithio a'r peilot Wilmer Stultz a chyd-beilot/mecanic Louis Gordon ar yr hedfaniad, fel teithiwr, ond gyda'r gorchwyl ychwanegol o gadw cofnod o'r daith. Gadawodd y tîm o harbwr Trepassey, Newfoundland and Labrador|mewn Fokker F.VIIb/3m ar 17 Mehefin 1928, gan lanio yn Pwll ger Porth Tywyn, union 20 awr a 40 munud yn ddiweddarach.[1] Mae plac glas coffaol wrth y safle.[2] Gan fod rhan fwyaf o'r hedfaniad ar offer a nid oedd gan Earhart yr hyfforddiant ar gyfer y math yma o hedfan, ni beilotiodd yr awyren. Wrth ei chyfweld ar ôl glanio, dywedodd "Stultz did all the flying—had to. I was just baggage, like a sack of potatoes." Ychwanegodd, "... maybe someday I'll try it alone."[3]
Yn ôl y sôn cafodd Earheart groeso cynnes ar 19 Mehefin 1928, pan glaniodd yn Woolston, Southampton.[4] Hedfanodd yr Avro Avian 594 Avian III, SN: R3/AV/101 oedd yn berchen i Lady Mary Heath ac yn ddiweddarach fe brynodd yr awyren a'i anfon yn ôl i'r Unol Daleithiau (lle cafodd ei ddynodi gyda marc awyren heb drwydd 7083).[5]
Pan ddychwelodd y criw hedfan Stultz, Gordon a Earhart nôl i'r Unol Daleithiau, fe'i cyfarchwyd gyda gorymdaith tâp papur ar hyd y "Canyon of Heroes" yn Manhattan, wedi ei ddilyn gan dderbyniad gyda'r Arlywydd Calvin Coolidge yn y Y Tŷ Gwyn.
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ Bryan 1979, p. 132.
- ↑ Dorrell, Richard (4 Gorffennaf 2013). "Amelia Earhart memorial, Pwll". geograph.org.uk. Cyrchwyd 9 Gorffennaf 2017.
- ↑ Goldstein and Dillon 1997, p. 54.
- ↑ Southampton: A pictorial peep into the past. Southern Newspapers Ltd, 1980.
- ↑ "1927 Avro Avian". goldenwingsmuseum.com. Retrieved: 1 Gorffennaf 2013.