Achos llys arweinwyr Llywodraeth Catalwnia, 2019
Delwedd:Tribunal Supremo, Madrid.jpg, Endavant Cuixart 10.jpg | |
Enghraifft o'r canlynol | trial |
---|---|
Rhan o | Catalan independence process |
Dechreuwyd | 30 Hydref 2017 |
Daeth i ben | 14 Hydref 2019 |
Rhagflaenwyd gan | Trial 9-N of Artur Mas, Joana Ortega and Irene Rigau |
Lleoliad | Palacio de Justicia |
Prif bwnc | refferendwm ynghylch annibyniaeth Catalwnia 2017 |
Gwladwriaeth | Sbaen |
Rhanbarth | Madrid |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Achos llys yn Uwch Lys Sbaen yw achos llys arweinwyr Llywodraeth Catalwnia a ddechreuodd ar 12 Chwefror 2019. Mae'r 18 diffynnydd bron i gyd yn gyn-aelodau o gabined Llywodraeth Catalwnia ac yn cynnwys Carme Forcadell (Arlywydd Senedd Catalwnia), Jordi Sànchez (Llywydd Cyngres Genedlaethol Catalwnia) a Jordi Cuixart (Llywydd yr Òmnium Cultural). Cânt eu herlyn am nifer o droseddion honedig gan gynnwys hybu annibyniaeth y wlad, gwrthryfela a chamddefnydd o arian cyhoeddus (neu 'embeslad') a wariwyd pan drefnodd Llywodraeth Catalwnia Refferendwm ynghylch annibyniaeth yn Hydref 2017.
Barnwr yr achos yw Manuel Marchena.[1][2] Yn y cyfamser, mae Carles Puigdemont yn parhau yn alltud yng Ngwlad Belg, lle mae'n rhydd i wneud sylwadau ar faterion gwleidyddol Catalwnia, gan gynnwys yr achos hwn.
Mae Amnest Rhyngwladol, y Cenhedloedd Unedig a nifer o gyrff a sefydliadau eraill wedi mynegi eu pryder fod Sbaen wedi torri hawliau dynol yr amddiffynion.[3][4].
Mae'r Erlynydd yn ymgorffori erlynwyr y cyrff canlynol:
- Swyddfa Erlynydd Gwladwriaeth Sbaen
- Erlynydd y Wladwriaeth
- Plaid asgell-dde Sbaen, Vox
Galwad yn erbyn triniaeth Sbaen o'r diffynyddion
[golygu | golygu cod]- Amnest Rhyngwladol: 15 Hydref 2018, galwodd Amnes i Lywodraeth Sbaen ryddhau'r amddiffynwyr gan fod eu dal mewn carchar yn "anghyfiawn ac eithafol".[5] Gwrthododd Sbaen roi caniatad i Amnest fod yn bresenol yn y llys i fonitro a sicrhau tegwch.[6]
- Ar 21 Tachwedd 2018, cyhoeddodd 120 o athrawon prifysgol lythyr yn y papur Eldiario.es y cyhuddiad o wrthryfela yn dal dŵr.[7] A group of MEPs stated that they wanted to attend the trial as observers.[8]
- Y Cenhedloedd Unedig: "pre-trial detention should be considered a measure of last resort", 7 Mawrth 2018.[9]
- Yn Nhachwedd 2018, galwodd y American Political Science Association, sy'n cynrychioli 10,000 o athrawon prifysgol lythyr yn galw ar Prif Weinidog Sbaen Pedro Sánchez i "roi'r gorau i bryfocio'r amddiffywyr.[10]
Y diffynyddion
[golygu | golygu cod]Trosedd | Article Cod Penyd Sbaen | Diffynyddion |
---|---|---|
Gwrthryfela | Erthygl 472 Sbaen | Oriol Junqueras, Joaquim Forn, Jordi Turull, Raül Romeva, Josep Rull, Dolors Bassa, Carme Forcadell, Jordi Sánchez a Jordi Cuixart |
Embeslad | Erthygl 432 | Oriol Junqueras, Joaquim Forn, Jordi Turull, Raül Romeva, Josep Rull, Dolors Bassa, Meritxell Borràs, Carles Mundó a Santi Vila |
Anufudd-dod sifil | Erthygl 410 | Lluís María Corominas, Lluís Guinó, Anna Isabel Simó, Ramona Barrufet, Joan Josep Nuet, Mireia Boya, Meritxell Borràs, Carles Mundó a Santi Vila |
Achosion eraill
[golygu | golygu cod]Ceir chwe diffynnydd arall a fydd ymddangos mewn llys gwahanol, sef Uwch Lys Cyfiawnder Catalwnia: Ramona Barrufet, Mireia Boya Busquet, Lluís Corominas, Lluís Guinó, Joan Josep Nuet a Anna Simó. Bwriedir hefyd erlyn pedwar pennaeth y Mossos, sef heddlu Catalwnia, am gydweithio gyda Llywodraeth Catalwnia, sef Josep Lluís Trapero Álvarez, Pere Soler, César Puig i Casañas a Teresa Laplana. Mae'r erlynydd yn galw am ddedfryd o garchar i'r pedwar: 11 mlynedd yr un.
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ "The trial of Catalan referendum leaders casts a long shadow over the EU's credibility". www.euronews.com. Cyrchwyd 2019-02-09.
- ↑ Congostrina, Alfonso L. (2019-02-01). "Catalan independence leaders moved to Madrid jails ahead of trial". El País (yn Saesneg). ISSN 1134-6582. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2019-02-03. Cyrchwyd 2019-02-09.
- ↑ https://www.amnesty.org/en/documents/eur41/7308/2017/en/
- ↑ http://www.ohchr.org/en/NewsEvents/Pages/DisplayNews.aspx?NewsID=22772&LangID=E
- ↑ author, global. "Amnistia Internacional reitera la petició de llibertat immediata per als Jordis, un any després del seu ingrés a presó". Amnistia Internacional Catalunya - Drets Humans (yn Catalaneg). Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2019-02-09. Cyrchwyd 2019-02-09.
- ↑ "Amnistía Internacional pide al Supremo plaza de observador en el juicio del 'procés'". El Confidencial (yn Sbaeneg). 2019-01-17. Cyrchwyd 2019-02-09.
- ↑ Portilla, Guillermo; García, Nicolás; Maqueda, María Luisa; Br, José Ángel; Mira, ariz y Javier. "La banalización de los delitos de rebelión y sedición". eldiario.es (yn Sbaeneg). Cyrchwyd 2019-02-09.
- ↑ Redacció. "Eurodiputats volen fer d'observadors en el judici de l'1-O - 06 nov 2018". El Punt Avui (yn Catalaneg). Cyrchwyd 2019-02-09.
- ↑ "High Commissioner's global update of human rights concerns". OHCHR. 2018-03-07. Cyrchwyd 2018-03-08.
- ↑ Catalunya, eldiario es. "Más de 13.000 académicos de EE.UU y Reino Unido piden el archivo de la causa contra la Sindicatura Electoral del 1-O". eldiario.es (yn Sbaeneg). Cyrchwyd 2019-02-09.