Abu Bakr al-Baghdadi
Abu Bakr al-Baghdadi | |
---|---|
Ganwyd | إبراهيم عواد إبراهيم علي البدري السامرائي 28 Gorffennaf 1971 Samarra |
Bu farw | 27 Hydref 2019 o cyrch awyr Barisha |
Dinasyddiaeth | Ba'athist Iraq, di-wlad |
Alma mater | |
Galwedigaeth | Imam, arweinydd milwrol, treisiwr, condottieri, terfysgwr |
Swydd | Leader of the Islamic State |
Rhagflaenydd | Abu Abdullah al-Rashid al-Baghdadi |
Plaid Wleidyddol | Gwladwriaeth Islamaidd |
Mudiad | Salafi jihadism |
Ysgolhaig Islamaidd Swnni o Irac ac arweinydd gwrthryfelwyr a therfysgwyr oedd Abu Bakr al-Baghdadi (Ibrahim Awad Ibrahim al-Badri al-Samarrai; 1971 – 27 Hydref 2019) a fu'n bennaeth ar y Wladwriaeth Islamaidd ac yn galiff hunanbenodedig.
Ganed Ibrahim Awad Ibrahim Ali al-Badri al-Samarrai yn Samarra yn Nhalaith Saladin, Irac. Mae rhywfaint o dystiolaeth yn awgrymu iddo ymladd yn Affganistan yn niwedd y 1990au gyda Grŵp Ishaq, un o sawl grŵp filwriaethus a frwydrai dros y Taleban yn erbyn Cynghrair y Gogledd, ac o bosib yn adnabod Abu Musab al-Zarqawi yno ac yn gwneud cysylltiadau â rhwydwaith Haqqani a mudiadau Islamaidd eraill.[1]
Derbyniodd radd meistr o Brifysgol Saddam (bellach Prifysgol Nahrain) yn Baghdad yn 2002. Mae'n bosib yr oedd yn gweithio mewn mosg adeg Rhyfel Irac yn 2003. Cafodd ei arestio yn nechrau 2004 mewn tŷ un o'i gyfeillion yn Fallujah, ar sail amheuaeth ei fod yn rhan o'r gwrthryfel Swnni, a threuliodd naw mis yn garcharor yng Ngwersyll Bucca, dalfa a weinyddid gan Luoedd Arfog yr Unol Daleithiau yn Nhalaith Basra. Mae'r union fanylion ynglŷn â thröedigaeth Baghdadi yn wrthryfelwr yn ddadleuol. Dywed iddo gael ei radicaleiddio'n jihadydd yn 2004 dan ddylanwad ei gyd-garcharorion yng Ngwersyll Bucca, ac enillodd eu parch drwy gyflafareddu ar faterion crefyddol.[2] Os yw'r stori amdano yn brwydro yn Affganistan yn y 1990au yn wir yna mae'n sicr iddo ymuno â mudiadau Islamaidd milwriaethus rhyw ddeng mlynedd cyn i'r gwrthryfel Swnni gychwyn yn Irac.
Wedi iddo gael ei ryddhau o Wersyll Bucca yn Rhagfyr 2004, treuliodd ddwy flynedd naill ai yn Syria neu yn Qaim, tref yn Nhalaith Anbar ar y ffin â Syria, yn rhan o rwydwaith Zarqawi. Credir iddo weithio'n bropagandydd neu yn arteithiwr. Dan arweiniad Baghdadi, ymunodd Byddin y Bobl Swnni â phum grŵp jihadaidd arall, gan gynnwys al-Qaeda yn Irac, ar ffurf y Cyngor Shura Mujahideen yn Ionawr 2006. Esgynnodd Baghdadi yn gyflym drwy rengoedd y mudiad cyfunol newydd, ac yn Hydref 2006 fe'i penodwyd yn aelod o'r prif gorff penderfynu y Cyngor ac yn Oruchwyliwr Cyffredinol y Pwyllgorau Sharia. Dychwelodd i Brifysgol Nahrain ac enillodd ei ddoethuriaeth mewn astudiaethau Islamaidd yn 2006 neu 2007.
Mabwysiadodd y rhyfel-enw Abu Bakr al-Baghdadi al-Huseini al-Qurayshi: mae Abu Bakr yn cyfeirio at y califf cyntaf yn ôl y traddodiad Swnni, al-Baghdadi at ddinas ei haddysg, a'r elfen al-Qurayshi yn nodi iddo hawlio llinach o'r Proffwyd Muhammad. Wrth i'r gwrthryfel Swnni helaethu, newidiodd y Cyngor Shura Mujahideen ei enw yn y Wladwriaeh Islamaidd yn Irac. Yn 2010 bu farw arweinydd cyntaf y Wladwriaeth Islamaidd yn Irac, Omar al-Baghdadi, ynghyd â 80% o brif arweinwyr y grŵp. Datganwyd Baghdadi yn arweinydd newydd y Wladwriaeth Islamaidd yn Irac ar 16 Mai 2010. Aeth Baghdadi ati i'w atgyfnerthu yn fudiad trefnus ac hynod o ddirgel. Yn 2012, manteisiodd ar y gwrthryfel yn Syria gan ddanfon brwydrwyr ac arian i Jabhat al-Nusra er mwyn sefydlu'r grŵp honno yn gangen al-Qaeda yn Syria. Ar 9 Ebrill 2013 datganodd Baghdadi ddiwedd y Wladwriaeth Islamaidd yn Irac a Jabhat al-Nusra, gan sefydlu'r Wladwriaeth Islamaidd yn Irac a Syria.
Ym Mehefin 2014 cychwynnodd ymgyrch lwyddiannus gan wrthryfelwyr y Wladwriaeth Islamaidd i gipio tir yng ngogledd a chanolbarth Irac ac yng ngogledd a dwyrain Syria, gan gynnwys dinas Mosul. Yn ogystal â throseddau rhyfel a chamdriniaethau hawliau dynol ar raddfa eang, cychwynnodd hil-laddiadau yn erbyn y Cyrdiaid, y Cristnogion, yr Yazidi, a'r Shia. Ar 4 Gorffennaf 2014 datganodd Baghdadi y galiffiaeth newydd ac enwodd ei hun yn Galiff Ibrahim.
Ar 27 Hydref 2019, bu farw Baghdadi trwy hunanfomio mewn cyrch yn ei erbyn gan luoedd Americanaidd ym mhentref Barisha yn Nhalaith Idlib, Syria, ger y ffin â Thwrci.[3] Taniodd Baghdadi fest ffrwydrol gan ladd ei hun, a dau o'i blant, wedi i gŵn yr Americanwyr ei hel i mewn i dwnnel.
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ (Saesneg) Musa Khan Jalalzai, "Abu Bakr al-Baghdadi in Afghanistan Archifwyd 2019-11-02 yn y Peiriant Wayback", The Daily Times (19 Ionawr 2015). Adalwyd ar 2 Tachwedd 2019.
- ↑ (Saesneg) Martin Chulov, "Abu Bakr al-Baghdadi obituary", The Guardian (27 Hydref 2019). Adalwyd ar 2 Tachwedd 2019.
- ↑ (Saesneg) "Abu Bakr al-Baghdadi: IS leader 'dead after US raid' in Syria", BBC (28 Hydref 2019). Adalwyd ar 2 Tachwedd 2019.