69
Gwedd
1g CC - 1g - 2g
20au 30au 40au 50au 60au - 70au - 80au 90au 100au 110au 120au
64 65 66 67 68 - 69 - 70 71 72 73 74
Pwnc yr erthygl hon yw'r flwyddyn. Am y dull rhywiol, gweler 69 (safle rhyw).
Digwyddiadau
[golygu | golygu cod]- Blwyddyn y Pedwar Ymerawdwr. Mae'n dechrau gyda Galba yn ymerawdwr Rhufeinig.
- 15 Ionawr — Otho yn cael ei gyhoeddi'n ymerawdwr, wedi i filwyr yn ei gefnogi lofruddio Galba.
- 14 Ebrill — Brwydr Gyntaf Bedriacum: byddin Vitellius yn gorchfygu byddin Otho; mae Otho yn ei ladd ei hun.
- 17 Ebrill — Vitellius yn dod yn ymerawdwr.
- 24 Hydref — Ail Frwydr Bedriacum: byddin pleidwyr Vespasian dan Antonius Primus yn gorchfygu byddin Vitellius.
- 21 Rhagfyr — Vespasian yn dod yn ymerawdwr.
- Gwrthryfel y Batafiaid. Y Batafiaid, dan Gaius Julius Civilis, yn gwrthryfela yn erbyn Rhufain.
- Legio I Macriana liberatrix yn cael ei dirwyn i ben.
- Jeriwsalem dan warchae gan y Rhufeiniaid, dan Vespasian ar y cychwyn, wedyn dan ei fab Titus.
- Cartimandua, brenhines y Brigantes, yn cael ei diorseddu ac yn ffoi at y Rhufeiniaid.
Genedigaethau
[golygu | golygu cod]Marwolaethau
[golygu | golygu cod]- Ionawr — Locusta
- 15 Ionawr — Galba, ymerawdwr Rhufeinig
- 15 Ebrill — Otho, ymerawdwr Rhufeinig
- 29 Mehefin — Sant Pedr, Apostol ac esgob cyntaf Rhufain (dyddiad traddodiadol)
- 22 Rhagfyr — Vitellius - ymerawdwr Rhufeinig