Gwain
Tiwb sy'n arwain o'r organau cenhedlu allanol i'r groth mewn mamal benywaidd yw'r wain neu'r fagina (o'r Lladin uāgīna). Ar lafar: 'cont'.
Anatomeg
[golygu | golygu cod]Mae gwain dynes oddeutu 10cm o hir, a 25mm mewn diamedr (er fod llawer o amrywiaeth o berson i berson). Sylwer fod hyn yn fyrrach ac yn deneuach na'r phidyn cyfartalog. Mae'r wain yn hynod o hyblyg, sy'n galluogi genedigaeth a chyfathrach rywiol. Mae'n cysylltu gyda'r fwlfa ar y tu allan, a cheg y groth ar y tu fewn. Pan fo dynes yn sefyll mae'r fagina a'r groth yn ffurfio ongl o tua 45°. Lleolir agoriad y wain yn rhan ôl y fwlfa, islaw'r clitoris ac agoriad yr wrethra. Tu allan i'r wain, mae'r labia a churn frasderog a elwir Mwnt Gwener. Cochbinc yw lliw'r wain, yn debyg i bilenni mwcws mewnol eraill megis tu fewn y geg.
Mae'r chwarennau Bartholin a lleolir yn nau ben y wain yn gwlychu neu'n iro'r wain rhyw ychydig, ac mae rhywfaint o hylif yn croesi'r mur faginaidd yn ogystal (er nad oes chwarennau arno).
Mewn merched ifanc, mae'r hymen yn gorchuddio rhan o agoriad y wain, nes iddi gael ei rhwygo drwy gyfathrach rywiol, ymarfer corff brwysg, neu rhyw weithgaredd arall megis marchogaeth. Dylid nodi nad yw cyfathrach rywiol yn rhwygo'r hymen o reidrwydd, felly mae'r cysylltiad traddodiadol rhwng yr hymen a gwyryfdod (e.e. yr hen enw Cymraeg, pilen forwyn) yn ofergoel.
Organau cenhedlu benywaidd |
---|
Swyddogaeth
[golygu | golygu cod]O safbwynt biolegol, mae'r swyddogaethau canlynol gan y wain:
- Galluogi i'r hylifau mislifol adael y corff
- Cyfathrach rywiol
- Genedigaeth
Gweithgaredd Rhywiol
[golygu | golygu cod]Fe all y crynhoad o derfyniadau nerfol o gwmpas agoriad y wain darparu ymdeimlad pleserus yn ystod gweithgareddau rhywiol. Gall gweithgaredd o'r fath fod yn gyfathrach anghyfunrhyw, symyliad gyda'r dwylo neu gyda ffugbidlen. Lleolir ardal a gelwir y man-G ar fur blaen y wain, oddeutu 5cm o'r agoriad; gall rhai merched brofi pleser angerddol wrth i'r man-G cael ei gosi. Honir fod orgasm man-G yn gallu arwain at alldafliad benywaidd.
Iechyd a hylendid faginaidd
[golygu | golygu cod]Mae'r wain yn organ sy'n llnau ei hun, ac nid oes angen triniaeth arbennig arni.
Archwilir y wain weithiau am resymau meddygol.
Ymysg yr afiechydon a all effeithio'r wain mae cancr y wain a heintiad burum.
Gweler hefyd
[golygu | golygu cod]
|