Grŵp gweithredol
Gwedd
O fewn i gemeg organig, y grŵp gweithredol yw'r grŵp o atomau o fewn moleciwl sy'n gyfrifol am ymddygiad a nodweddion y moleciwl. Mae'r grŵp gweithredol gan amlaf yn ymddwyn yn debyg beth bynnag yw maint y moleciwl mae'n rhan ohono. Fodd bynnag, gall adweithedd ac ymddygiad y moleciwl newid gyda grwpiau gweithredol cyfagos.
Ychwanegir enwau'r grŵpiau gweithredol at enwau'r rhiant-alcanau er mwyn enwi cyfansoddion organig.
Grŵp gweithredol cyffredin
[golygu | golygu cod]Mae'r canlynol yn rhestr o grŵpiau gweithredol cyffredin. Yn y fformiwlâu, mae'r symbolau R a R', fel arfer, yn cynrychioli hydrogen neu ochr-gadwyn hydrocarbon, ond weithiau mae'r symbol yn cyfeirio at unrhyw grŵp o atomau.
Hydrocarbonau
[golygu | golygu cod]Dosbarth cemegol | Grŵp | Fformiwla | Fformiwla adeileddol | Rhagddodiad | Olddodiad | Enghraifft |
---|---|---|---|---|---|---|
Alcan | Alcyl | R(CH2)nH | alcyl- | -an | Ethan | |
Alcen | Alcenyl | R2C=CR2 | alcenyl- | -en | Ethen | |
Alcyn | Alcynyl | RC≡CR' | alcynyl- | -yn | Asetylen (Ethyn) | |
Deilliad bensen | Ffenyl | RC6H5 RPh |
ffenyl- | -bensen | Cumen (2-ffenylpropan) | |
Deilliad tolwen | Bensyl | RCH2C6H5 RBn |
bensyl- | 1-(grŵp neu atom ynghlwm)tolwen | Bensyl bromid (α-Bromotolwen) |
Grŵpiau gyda halogenau
[golygu | golygu cod]Dosbarth cemegol | Grŵp | Fformiwla | Fformiwla adeileddol | Rhagddodiad | Olddodiad | Enghraifft |
---|---|---|---|---|---|---|
halogenoalcan | halo | RX | halo- | alcyl halid | Cloroethan (Ethyl clorid) | |
fflworoalcan | fflworo | RF | fflworo- | alcyl fflworid | Fflworomethan (Methyl fflworid) | |
cloroalcan | cloro | RCl | cloro- | alcyl clorid | Cloromethan (Methyl clorid) | |
bromoalcan | bromo | RBr | bromo- | alcyl bromid | Bromomethan (Methyl bromid) | |
ïodoalcan | ïodo | RI | ïodo- | alcyl ïodid | Ïodomethan (Methyl ïodid) |
Grŵpiau gyda ocsigen
[golygu | golygu cod]Dosbarth cemegol | Grŵp | Fformiwla | Fformiwla adeileddol | Rhagddodiad | Olddodiad | Enghraifft |
---|---|---|---|---|---|---|
Alcohol | Hydrocsyl | ROH | hydrocsi- | -ol | Methanol | |
ceton | Carbonyl | RCOR' | -oyl- (-COR') neu ocso- (=O) |
-on | Bwtanon (Methyl ethyl ceton) | |
Aldehyd | Aldehyd | RCHO | fformyl- (-COH) neu ocso- (=O) |
-al | Asetaldehyd (Ethanal) | |
Asyl halid | Haloformyl | RCOX | carbonofflworidoyl- carbonocloridoyl- carbonobromidoyl- carbonoïodidoyl- |
-oyl halid | Asetyl clorid (Ethanoyl clorid) |
Grŵpiau gyda nitrogen
[golygu | golygu cod]Dosbarth cemegol | Grŵp | Fformiwla | Fformiwla adeileddol | Rhagddodiad | Olddodiad | Enghraifft |
---|---|---|---|---|---|---|
Amid | Carbocsamid | RCONR2 | carbocsamido- or carbamoyl- |
-amid | Asetamid (Ethanamid) | |
Amin | Amin cynradd | RNH2 | amino- | -amin | Methylamin (Methanamin) | |
Amin eilaidd | R2NH | amino- | -amin | Deumethylamin | ||
Amin trydyddol | R3N | amino- | -amin | Trimethylamin | ||
ïon amoniwm 4° | R4N+ | amonio- | -amoniwm | Colin |