Jeanne d’Arc
Jeanne d’Arc | |
---|---|
Ganwyd | Unknown c. 6 Ionawr 1412 Domrémy-la-Pucelle |
Bu farw | 30 Mai 1431 o marwolaeth drwy losgi Rouen |
Dinasyddiaeth | Teyrnas Ffrainc |
Galwedigaeth | person milwrol |
Dydd gŵyl | 30 Mai |
Tad | Jacques d'Arc |
Mam | Isabelle Romée |
Gwobr/au | Gwobr Ysgol Filwrol Saint-Cyr |
llofnod | |
Merch o blith gwerin Ffrainc a gafodd ddylanwad mawr ar gwrs y Rhyfel Can Mlynedd rhwng Ffrainc a Lloegr oedd Jeanne d'Arc, weithiau Siwan o Arc (c. 1412 - 30 Mai, 1431).
Bywgraffiad
[golygu | golygu cod]Yn 1428, roedd y Saeson yn gwarchae ar ddinas Orléans yng nghanolbarth Ffrainc. Yn 1429, perswadiodd merch ieuanc o blith y werin, Jeanne d’Arc, y Dauphin, Siarl VII, i’w gyrru i godi’r gwarchae, gan ddweud ei bod wedi cael gweledigaeth gan Dduw yn gorchymyn iddi yrru’r Saeson allan. Llwyddodd i godi’r gwarchae o fewn naw diwrnod, ac ysbrydolodd y Ffrancwyr i gipio nifer o gaerau’r Saeson ar hyd Afon Loire. Yn fuan wedyn, cafodd y Ffrancwyr fuddugoliaeth dros y Saeson ym Mrwydr Patay. Coronwyd y Dauphin yn Reims fel Siarl VII, gyda Jeanne yn ei arwain i'w goroni.
Cymerwyd Jeanne d’Arc yn garcharor gan y Bwrgwyniaid mewn ysgarmes ger Compiègne yn 1430, a’i gwerthu i’r Saeson. Rhoddasant hwy hi ar ei phrawf o flaen llys eglwysig, a'i chafodd yn euog o heresi. Dienyddiwyd hi trwy losgi. Pum mlynedd ar hugain yn ddiweddarach, cyhoeddodd Pab Calistus III ei bod yn ddieuog.
Gwaddol
[golygu | golygu cod]Ysbrydolodd Jeanne d'Arc loedd Ffrainc Rydd yn ystod yr Ail Ryfel Byd pan fabwysiadodd y mudiad i wrthsefyll Llywodraeth Vichy Ffrainc a lluoedd yr Almaen Natsiaidd. symbol Jeanne, Croes Lorraine fel eu arwyddlun.