Conwy (sir)
Math | prif ardal |
---|---|
Prifddinas | Conwy |
Poblogaeth | 117,181 |
Sefydlwyd | |
Daearyddiaeth | |
Gwlad | Cymru |
Arwynebedd | 1,125.835 km² |
Gerllaw | Môr Iwerddon |
Yn ffinio gyda | Sir Ddinbych, Gwynedd |
Cyfesurynnau | 53.1406°N 3.7706°W |
Cod SYG | W06000003 |
GB-CWY | |
- Am y dref o'r un enw, gweler Conwy (tref). Gweler hefyd Conwy (gwahaniaethu).
Bwrdeistref sirol yng ngogledd Cymru yw Conwy. Mae'n cynnwys rhan o'r hen sir Gwynedd (Sir Gaernarfon cyn hynny) i'r gorllewin o afon Conwy, a rhan o'r hen sir Clwyd (yr hen Sir Ddinbych cyn hynny) i'r dwyrain o'r afon honno. Lleolir pencadlys y sir ym Modlondeb, Conwy, ac mae'n cael ei gweinyddu gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Conwy. Mae ganni boblogaeth o 109,596 yn ôl Cyfrifiad y Deyrnas Unedig 2001.[1]
Hanes
[golygu | golygu cod]Er bod Bwrdeistref Sirol Conwy yn greadigaeth gymharol ddiweddar, mae gan yr ardal a gynhwysir ynddi hanes hir a chyfoethog. Yn y cyfnodau cynhanesyddol, cynhyrchid bwyeill carreg yn y Graiglwyd ar lethrau mynydd Penmaenmawr. Cawsant eu hallforio i rannau mor bell â de Prydain. Ar lethrau Pen y Gogarth roedd mwynglawdd copr gyda'r mwyaf yn Ewrop gyfan. Codwyd sawl adeiladwaith yn cynnwys cylch cerrig y Meini Hirion, Penmaenmawr.
Yng nghyfnod y Celtiaid, bu'r rhan fwyaf o'r ardal yn rhan o diriogaeth yr Ordovices ond mae'n bosibl fod tiriogaeth y Deceangli yn ymestyn hyd at lan ddwyreiniol afon Conwy. Daeth yr ardal dan reolaeth yr Ymerodraeth Rufeinig yn y ganrif 1af OC. Sefydlwyd caer ganddynt ger pentref Caerhun i reoli croesfan strategol ar afon Conwy. Roedd gan y brodorion sawl bryngaer yn cynnwys Braich-y-Dinas a Pen-y-gaer.
Am y rhan fwyaf o'r Oesoedd Canol roedd yr ardal yn rhan o Deyrnas Gwynedd. Gorweddai'r tir i'r gorllewin o afon Conwy, yn fras, yn rhanbarth Gwynedd Uwch Conwy; roedd hyn yn cynnwys cymydau Arllechwedd Uchaf, Arllechwedd Isaf a Nant Conwy, yng nghantref Arllechwedd. I'r dwyrain o'r afon ceid cantref Rhos (Uwch Dulas ac Is Dulas) a gorllewin cantref Rhufoniog, sef Uwch Aled. Eithriad hanesyddol i'r drefn oedd y Creuddyn, sef yr ardal sy'n cynnwys Llandudno a'r cylch heddiw, a orweddai yng Ngwynedd Uwch Conwy. Bu Rhos a Rhufoniog yn deyrnasoedd annibynnol am gyfnod byr yn yr Oesoedd Canol Cynnar. Bu gan y Brenin Maelgwn Gwynedd gaer a llys ar safle Castell Degannwy ac fe'i cysylltir hefyd ag eglwys Llanrhos gerllaw. Daeth y castell yn un o gadarnleoedd brenhinoedd Gwynedd a newidiodd ddwylo sawl gwaith yn y brwydro rhwng Gwynedd a'r Normaniaid a'r Saeson. Roedd Abaty Aberconwy yn ganolfan bwysig; claddwyd Llywelyn Fawr ynddo.
Ar ôl goresgyniad Tywysogaeth Cymru yn 1282–83, aeth gorllewin y sir, yn cynnwys y Creuddyn, yn rhan o'r Sir Gaernarfon newydd. Roedd Rhos a Rhufoniog, ar y llaw arall, yn nwylo arglwyddi'r Mers hyd y 1540au pan ffurfiwyd Sir Ddinbych.
Pan adrefnwyd llywodraeth leol yn 1974, daeth y rhan o'r sir bresennol oedd yn yr hen Sir Ddinbych yn rhan o'r sir Clwyd newydd, ond aeth y gweddill, yn cynnwys y Creuddyn, yn rhan o sir Gwynedd (yr hen sir). Ad-drefnwyd llywodraeth leol unwaith eto yn 1996 a chrëwyd sir Conwy.
Daearyddiaeth
[golygu | golygu cod]Mae'r prif drefi yn y sir yn cynnwys Llandudno, Cyffordd Llandudno, Llanrwst, Betws-y-Coed, Conwy, Bae Colwyn, Abergele, Penmaenmawr a Llanfairfechan ac mae ganddi boblogaeth o tua 110,000.
Gorwedd Afon Conwy (yr enwir y sir ar ei hôl) yn gyfan gwbl o fewn yr ardal gan redeg trwy ei chanol: mae'n llifo o'i tharddle yn Llyn Conwy ger Ysbyty Ifan i lawr drwy Ddyffryn Conwy i'r môr ger tref Conwy.
Mae'n sir amrywiol iawn o ran ei thirwedd. Gellid ei rhannu'n sawl ardal ddaearyddol: ardal y Creuddyn ac arfordir Rhos yn y gogledd, bryniau isel a chymoedd Rhos ei hun yn y dwyrain, Dyffryn Conwy a Nant Conwy yn y canol, arfordir Arllechwedd a mynyddoedd y Carneddau yn Eryri yn y gorllewin a phentref bychan Llangwm yn y de.
Gorwedd traean o ardal y sir ym Mharc Cenedlaethol Eryri, ac mae'r cyngor yn apwyntio 18 aelod i Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri.
Y Gymraeg
[golygu | golygu cod]Yn ôl Cyfrifiad 2001, mae 39.7% o'r boblogaeth yn medru "un neu ragor o sgiliau" yn y Gymraeg,[2] sy'n ei gwneud y 5ed allan o 22 awdurdod unedol Cymru o ran nifer y siaradwyr Cymraeg.[3]
Ond mae nifer y siaradwyr Cymraeg yn amrywio'n fawr o ardal i ardal, gyda llai o lawer ar yr arfordir, o ganlyniad i'r Seisnigeiddio dybryd yno wrth i nifer o bobl wedi ymddeol symud i mewn, o Loegr yn bennaf.
Enghreifftiau o nifer y siaradwyr Cymraeg yn ôl lle:[2]
- Llandudno – 19.7%
- Bae Colwyn – 22.6%
- Conwy – 33%
- Trefriw – 50%
- Eglwysbach – 63%
- Dyffryn Conwy (rhan uchaf) – 66.8%
- Llangernyw – 69.3%
- Cerrigydrudion – 76%
Trefi a phrif bentrefi
[golygu | golygu cod]Cymunedau
[golygu | golygu cod]Ceir 34 cymuned yn y sir:
Prif hynafiaethau
[golygu | golygu cod]- Bryngaerau
- Cestyll
- Plasdai
Addysg
[golygu | golygu cod]Addysg uwch
[golygu | golygu cod]Gwasanaethir yr ardal gan Goleg Llandrillo Cymru sydd â'i brif gampws ar safle yn Llandrillo-yn-Rhos.
Ysgolion uwchradd
[golygu | golygu cod]Enw'r ysgol | Lleoliad | Awdurdod addysg lleol | Math o ysgol |
---|---|---|---|
Ysgol Aberconwy | Conwy | Conwy | Cyfun, Saesneg |
Ysgol Bryn Eilian | Bae Colwyn | Conwy | Cyfun, Saesneg |
Ysgol Dyffryn Conwy | Llanrwst | Conwy | Cyfun, Dwyieithog |
Ysgol Emrys ap Iwan | Abergele | Conwy | Saesneg |
Ysgol John Bright | Llandudno | Conwy | Saesneg |
Ysgol Uwchradd Eirias | Bae Colwyn | Conwy | Cyfun, Saesneg |
Ysgol Y Creuddyn | Bae Penrhyn | Conwy | Cymraeg |
Oriel
[golygu | golygu cod]-
Llandudno o'r Gogarth
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ Y Swyddfa Ystadegau Gwladol. Census 2001 - Profiles - Conwy. Y Swyddfa Ystadegau Gwladol. Y Goron. Adalwyd ar 15 Hydref 2010.
- ↑ 2.0 2.1 Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy. Cyfrifiad 2001 yr iaith Gymraeg. Y Goron. Adalwyd ar 15 Hydref 2010.
- ↑ Y Swyddfa Ystadegau Gwladol. Census 2001 - Profiles - Conwy. Y Swyddfa Ystadegau Gwladol. Y Goron. Adalwyd ar 15 Hydref 2010.
Dolenni allanol
[golygu | golygu cod]- Gwefan Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy Archifwyd 2008-12-19 yn y Peiriant Wayback
Trefi
Abergele · Bae Colwyn · Betws-y-Coed · Conwy · Cyffordd Llandudno · Degannwy · Hen Golwyn · Llandudno · Llanfairfechan · Llanrwst · Penmaenmawr · Tywyn
Pentrefi
Bae Cinmel · Bae Penrhyn · Betws-yn-Rhos · Bryn-y-maen · Bylchau · Caerhun · Capel Curig · Capel Garmon · Cefn Berain · Cefn-brith · Cerrigydrudion · Craig-y-don · Cwm Penmachno · Dawn · Dolgarrog · Dolwen · Dolwyddelan · Dwygyfylchi · Eglwys-bach · Esgyryn · Gellioedd · Glanwydden · Glasfryn · Groes · Gwytherin · Gyffin · Henryd · Llanbedr-y-cennin · Llandrillo-yn-Rhos · Llanddoged · Llanddulas · Llanefydd · Llanelian-yn-Rhos · Llanfair Talhaearn · Llanfihangel Glyn Myfyr · Llangernyw · Llangwm · Llangystennin · Llanrhos · Llanrhychwyn · Llan Sain Siôr · Llansanffraid Glan Conwy · Llansannan · Llysfaen · Maenan · Y Maerdy · Melin-y-coed · Mochdre · Nebo · Pandy Tudur · Penmachno · Pensarn · Pentrefelin · Pentrefoelas · Pentre-llyn-cymmer · Pentre Tafarnyfedw · Pydew · Rowen · Rhydlydan · Rhyd-y-foel · Tal-y-bont · Tal-y-cafn · Trefriw · Tyn-y-groes · Ysbyty Ifan
|