Biotin
Enghraifft o'r canlynol | math o endid cemegol |
---|---|
Math | fitamin B, alkaloid, heterocyclic compound, asid carbocsylig |
Màs | 244.088163372 uned Dalton |
Fformiwla gemegol | C₁₀h₁₆n₂o₃s |
Clefydau i'w trin | Inherited metabolic disorder |
Rhan o | response to biotin, cellular response to biotin, biotin transmembrane transporter activity, biotin import across plasma membrane |
Yn cynnwys | nitrogen, sylffwr, carbon, ocsigen, hydrogen |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Fitamin o deulu fitamin B yw biotin neu fitamin B7. Fel pob fitamin, mae ei angen ar y corff er mwyn gweithio'n iawn. Fel gweddill teulu fitamin B gall biotin hydoddi mewn dŵr. Mae'n cynnwys cylch iwreido (sef tetrahydroimidizalone) wedi ei uno gyda chylch tetrahydrothiophene. Mae asid falerig yn sownd wrth un o atomau carbon y cylch hwn.
Ei bwrpas
Mae biotin yn angenrheidiol ar gyfer twf celloedd, creu asid brasterog (fatty acids) a metaboledd brasder ac asidau amino. Mae'n cynorthwyo gyda nifer o adweithiau metaboledd ac yn cynorthwyo i symud carbon deuocsid. Cynorthwya hefyd gyda'r broses o gadwraeth lefelau siwgwr. Mae'n dda ar gyfer greu ewinedd a gwallt cryf ac o'r herwydd fe ddown ar ei draws mewn llawer o gosmetics masnachol ar gyfer y gwallt a'r croen.
Anamal iawn y down ar draws rhywun â diffyg biotin, gan fod bacteria yn y bol fel arfer yn creu digonedd ohono.