Tien Shan
Gwedd
Mynyddoedd o gwmpad y ffîn rhwng Kazakhstan, Kyrgyzstan a thalaith Sinkiang yng Ngweriniaeth Pobl Tseina yw'r Tien Shan neu Tian Shan (Sineëg: 天山; Tiān Shān).
Y copaon uchaf yn y Tien Shan yw Copa Jengish Chokusu ("Copa Buddugoliaeth", Pik Pobedy, Ğeňiš Čokusu 7439 m) a Chan Tengri (7010 m). Rhwng y ddau fynydd yma ceir rhewlif Eňilček, y mwyaf yn y Tien Shan.
Y Tien Shan sy'n gwahanu dalgylchoedd afonydd Tarim ar yr ochr ogledd-ddwyreiniol a'r Ili, y Syr Darja a'r Čüj (Şu) ar yr ochr ogledd-orllewinol. Yn y de-orllewin, mae'r Tien Shan yn parhau fel y Pamir, ac yn y gogledd-ddwyrain fel y Bogda Shan. Y prif fwlch trwy'r mynyddoedd yw Bwlch Torugart (3752 m.).