Elinor Jones
Elinor Jones | |
---|---|
Ganwyd | Mawrth 1946 Llanwrda |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Galwedigaeth | cyflwynydd teledu |
Plant | Heledd Cynwal |
Cyflwynydd teledu o Gymraes yw Elinor Jones (ganwyd Mawrth 1946). Cyflwynodd nifer o raglenni teledu yn Gymraeg ac yn Saesneg ers y 1970au.
Bywyd cynnar
Ganwyd Rachel Elinor Jones yn Llanwrda. Fel plentyn, cystadlodd mewn eisteddfodau yn canu ac adrodd, gan ymddangos ar deledu sawl gwaith. Aeth i'r coleg i astudio diwynyddiaeth.
Gyrfa
Cychwynnodd Elinor ei gyrfa fel athrawes, yn dysgu mewn ysgolion cynradd ym Margoed a Rhiwbeina, Caerdydd. Yn y 1970au cynnar, gwelodd rhywun hi'n rhoi darlith ar addysg plant a chafodd ei chrybwyll i Dorothy Williams, cynhyrchydd yn HTV Cymru. Fe'i gwahoddwyd i gyflwyno cyfres o raglenni i ysgolion, gan gymryd ambell ddiwrnod i ffwrdd o'i gwaith fel athrawes. Cafodd gynnig gwaith llawn-amser fel cyhoeddwraig rhaglenni gyda HTV a rhoddodd y gorau i ddysgu.
Wedi blwyddyn o wneud y gwaith, ganwyd ei merch Heledd Cynwal yn 1975 a'i bwriad oedd dod yn fam lawn-amser. Yna cynigiwyd swydd iddi fel cyflwynydd newyddion ar raglen Y Dydd. Aeth i weithio ar y rhaglen am dri diwrnod yr wythnos gan ddibynnu ar gymydog i edrych ar ôl ei phlentyn. Yn yr un cyfnod, roedd yn cyflwyno rhai rhaglenni plant a'r rhaglen gylchgrawn prynhawn i ferched - Hamdden.
Wedi dyfodiad S4C, aeth y contract rhaglenni newyddion i BBC Cymru felly daeth ei swydd yn HTV i ben. Er hynny, cynigiodd HTV waith iddi yn cyflwyno sioeau eraill. Cychwynnodd gyda rhaglen deithio. Yn ddiweddarach cyflwynodd sioe sgwrsio ei hun, Elinor. Darlledwyd y fersiwn Cymraeg ar S4C a'r un Saesneg ar HTV Wales, lle cyfwelodd nifer o enwogion fel Geraint Evans, Humphrey Lyttelton, Kenneth Williams, Anthony Hopkins, Jeff Banks a Ruth Madoc. Yn y 1990au, cyflwynodd raglenni eraill yn Saesneg fel On The Road With Elinor.
Ar S4C, daeth yn gyflwynydd ar y rhaglen gylchgrawn Heno. Yn 1988, daeth yn gyflwynydd ar y rhaglen newydd P'nawn Da (a ail-enwyd yn Wedi 3 yn 2006). Penderfynodd adael y rhaglen yn 2011 pan oedd yn 65 mlwydd oed. Cyflwynodd ei rhaglen olaf ar ddydd Gwener, 2 Medi 2011.[1]
Bywyd personol
Mae'n byw yn Llangadog gyda'i gŵr Dr Lyn Davies, cyn-bennaeth cerddoriaeth yng Ngholeg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru.
Ar 6 Ebrill 2014, cafodd ei gwneud yn Uchel Siryf Dyfed gyda'r seremoni yn gyfan gwbl yn Gymraeg am y tro cyntaf. [2]
Cyfeiriadau
- ↑ Elinor Jones on her life as a TV presenter , WalesOnline, 2 Medi 2011. Cyrchwyd ar 10 Ebrill 2021.
- ↑ Y ddarlledwraig Elinor Jones yn dod yn Uchel-Siryf Dyfed , BBC Cymru Fyw, 7 Ebrill 2014. Cyrchwyd ar 10 Ebrill 2021.