Neidio i'r cynnwys

T. Llew Jones: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Wicipedia
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
B Wedi gwrthdroi golygiadau gan 212.219.245.4 (Sgwrs); wedi adfer y golygiad diweddaraf gan Craigysgafn.
Tagiau: Gwrthdroi
→‎top: Gwybodlen wd
Llinell 1: Llinell 1:
{{Gwybodlen person/Wicidata | fetchwikidata=ALL | onlysourced=no | suppressfields= dinasyddiaeth | nationality = {{banergwlad|Cymru}} | dateformat = dmy}}
{{Person | fetchwikidata=ALL | onlysourced=no | suppressfields= dinasyddiaeth | nationality = {{banergwlad|Cymru}} | dateformat = dmy}}
[[Nofelydd]] a [[bardd]] oedd '''Thomas Llewelyn Jones''' ([[11 Hydref]] [[1915]] – [[9 Ionawr]] [[2009]]), a ysgrifennai fel '''T. Llew Jones'''. Bu'n ysgrifennu am dros hanner canrif, ac mae'n un o awduron llyfrau plant mwyaf poblogaidd a chynhyrchiol [[Cymru]].
[[Nofelydd]] a [[bardd]] oedd '''Thomas Llewelyn Jones''' ([[11 Hydref]] [[1915]] – [[9 Ionawr]] [[2009]]), a ysgrifennai fel '''T. Llew Jones'''. Bu'n ysgrifennu am dros hanner canrif, ac mae'n un o awduron llyfrau plant mwyaf poblogaidd a chynhyrchiol [[Cymru]].



Fersiwn yn ôl 16:11, 14 Mawrth 2020

T. Llew Jones
Cadeirio T. Llew Jones yn Eisteddfod Genedlaethol 1958.
Ganwyd11 Hydref 1915 Edit this on Wikidata
Pentrecwrt Edit this on Wikidata
Bu farw9 Ionawr 2009 Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Alma mater
Galwedigaethysgrifennwr, bardd, awdur plant Edit this on Wikidata
PlantIolo Ceredig Jones, Emyr Llywelyn Edit this on Wikidata

Nofelydd a bardd oedd Thomas Llewelyn Jones (11 Hydref 19159 Ionawr 2009), a ysgrifennai fel T. Llew Jones. Bu'n ysgrifennu am dros hanner canrif, ac mae'n un o awduron llyfrau plant mwyaf poblogaidd a chynhyrchiol Cymru.

Bywgraffiad

Ganed ef ym Mhentre-cwrt, Sir Gaerfyrddin. Mynychodd Ysgol Gynradd Capel Graig ac Ysgol Ramadeg Llandysul. Bu'n athro ac yna'n brifathro am 35 mlynedd yn Ysgol Gynradd Tre-groes ac yna yn Ysgol Gynradd Coed-y-Bryn ger Llandysul. Daeth i amlygrwydd fel bardd pan enillodd Gadair yn Eisteddfod Glyn Ebwy (1958) ac eto y flwyddyn ganlynol yn Eisteddfod Genedlaethol Cymru Caernarfon 1959.

Er iddo barhau i farddoni, daeth yn fwyaf adnabyddus fel awdur nofelau plant. Mae ambell lyfr yn seiliedig ar gymeriadau hanesyddol fel Barti Ddu a Twm Siôn Cati. Cyhoeddodd dros 50 o lyfrau i gyd, y rhan fwyaf yn nofelau ond ambell un ffeithiol hefyd, megis Ofnadwy Nos, sef hanes llongddrylliad y Royal Charter. Addaswyd nifer o'i lyfrau ar gyfer teledu a chyfieithwyd nifer i'r Saesneg ac ambell un i ieithoedd eraill, megis Llydaweg.

Rhoddwyd gradd MA er anrhydedd iddo gan Brifysgol Cymru ym 1977, ac enillodd Wobr Mary Vaughan Jones am ei gyfraniad at lenyddiaeth blant. Ym mis Mawrth 2005, bron yn 90 oed, enillodd y gadair yn Eisteddfod Cymdeithas Ceredigion.

Roedd T. Llew Jones hefyd yn ymwneud â gwyddbwyll. Roedd yn un o'r rhai wnaeth arwain ymgyrch lwyddiannus i weld Undeb Gwyddbwyll Cymru yn torri'n rhydd o Ffederasiwn Gwyddbwyll Prydain (fel yr oedd bryd hynny) ac yn ymuno â FIDE fel aelod annibynnol ym 1970. Roedd hyn yn galluogi i Gymru gystadlu fel gwlad ar ei phen ei hun yn yr Olympiad Gwyddbwyll, a bu T. Llew yn rheolwr tîm Cymru yn Olympiad Nice, 1974.

Sefydlodd a rhedodd Gymdeithas Gwyddbwyll Dyfed, ei chynghrair, Clwb Gwyddbwyll Aberteifi, a Chyngres Agored Dyfed. Pan fu farw, yr oedd yn Is-lywydd Undeb Gwyddbwyll Cymru, ac yn Llywydd am Oes Cynghrair Gwyddbwyll Dyfed. Sefydlodd T. Llew hefyd gylchgrawn Y Ddraig, a bu'n olygydd ar y cylchgrawn wrth iddo dyfu o fod yn gylchlythyr Cymdeithas Gwyddbwyll Dyfed i fod yn gylchgrawn gwyddbwyll Cymru yn ystod y 1970au. Mae hefyd wedi ysgrifennu llyfr yn y Gymraeg ar wyddbwyll gyda'i fab, Iolo.

Roedd yn dad i'r gwleidydd Emyr Llewelyn, y chwaraewr gwyddbwyll rhyngwladol Iolo Ceredig Jones ac Eira Prosser.

Yn 2012, enwyd ysgol gynradd newydd, Ysgol T Llew Jones, ym Mrynhoffnant ger Llandysul, ar ei ôl. Roedd yr ysgol yn cymryd lle pedair ysgol Blaenporth, Glynarthen, Rhydlewis a Phontgarreg.[1]

Trysorfa T. Llew Jones (2012)
Trysorfa T. Llew Jones (2012) 
Trysor y Môr-ladron (1960)
Trysor y Môr-ladron (1960) 

Llyfryddiaeth

Llyfrau gan T. Llew Jones (anghyflawn)

Teitl Nodiadau Cyhoeddwyd Ail-gyhoeddwyd
Merched y Môr a Chwedlau Eraill 1958, Gwasg Aberystwyth
Trysor Plasywernen 1958 1991, Gwasg Christopher Davies &
Tachwedd 2005, Gwasg Gomer
Trysor y Môr-ladron 1960, Llyfrau'r Dryw Ionawr 1989, Gwasg Gomer
Y Merlyn Du 1960, Gwasg Aberystwyth Ionawr 1995, Gwasg Gomer
Anturiaethau Twm Siôn Cati:
Y Ffordd Beryglus
Ebrill 1963, CLC Mawrth 1994 & Gorffennaf 2000, Gwasg Gomer
Anturiaethau Twm Siôn Cati:
Ymysg Lladron
Tachwedd 1965, CLC Chwefror 1999, Gwasg Gomer
Anturiaethau Twm Siôn Cati:
Dial o'r Diwedd
1968, CLC Mehefin 1968, CLC, Tachwedd 1998 & Ionawr 2004, Gwasg Gomer
Ofnadwy Nos Llyfr ffeithiol 1971 31 Rhagfyr 1991 & Ionawr 1995, Gwasg Gomer
Barti Ddu o Gasnewy' Bach 1973 Odan y teitl Barti Ddu: Tachwedd 1995, Gwasg Christopher Davies & Chwefror 2004, Gwasg Gomer
Un Noson Dywyll 1973 Ionawr 2003 & Chwefror 2008, Gwasg Gomer
Cyfrinach y Lludw Ionawr 1975 Ionawr 1994, Gwasg Gomer
Tân ar y Comin Enillydd Gwobr Tir na n-Og Mehefin 1975 Rhagfyr 1993, Mehefin 2003, Gwasg Gomer
Arswyd y byd! Rhagfyr 1975, Gwasg Gomer
Rwy'i Am Fod Yn Ddoctor 1976, JD Lewis
Lawr ar Lan y Môr Ebrill 1977, JD Lewis
Dirgelwch yr Ogof Awst 1977, Gwasg Gomer Tachwedd 2002, Awst 2009 Gwasg Gomer
Dysgu Difyr Tachwedd 1977, JD Lewis
Cerddi 1979, JD Lewis
Slawer Dydd Rhagfyr 1979, Gwasg Gomer
A Chwaraei di Wyddbwyll? gyda Iolo Jones 31 Rhagfyr 1980, Gwasg Gomer
Dewi Emrys 1981, Cyhoeddiadau Barddas
Cyfoeth Awen Isfoel Mehefin 1981, Gwasg Gomer
Ynys y Trysor 1986, Gwasg Mynydd Mawr
Storm 1987, Gwasg Gomer
Popeth am Ysbrydion 1987, Gwasg Gomer
Canu'n Iach! 1987 Hydref 1988, Gwasg Gomer
Cri'r Dylluan 31 Rhagfyr 1988, Gwasg Gomer Mawrth 2005, Gwasg Gomer
Gwaed ar eu Dwylo 31 Rhagfyr 1988, Gwasg Gomer
Berw gwyllt yn Abergwaun:
Hanes rhyfedd glaniad y Ffrancod yn Abergwaun yn 1797
1986, Gwasg Carreg Gwalch
Y Corff ar y Traeth Chwefror 1989, Gwasg Gomer
Cerddi newydd i blant (o bob oed)
Ysbryd Plas Nant Esgob
Dirgelwch yr Ogof
Yr ergyd farwol
Gormod o Raff
Helicopter! help! : a storiau eraill
Hen Gof: Ysgrifau llên gwerin
Lleuad yn Olau Enillydd Gwobr Tir na n-Og 20 Ebrill 1989, Gwasg Gomer Mehefin 1999, Gwasg Gomer
One Moonlit Night Cyfieithiad gan Gillian Clarke o Lleuad yn Olau Medi 1991, Gwasg Gomer
Penillion y Plant Darluniwyd gan Jac Jones Ionawr 1990, Gwasg Gomer Mawrth 1992, Gwasg Gomer
Merched y môr a chwedlau eraill
Cyfrinach Wncwl Daniel:
Hanes Rhyfedd Hen Feddyginiaeth Lysieuol
gyda Dafydd Wyn Jones Ionawr 1992, Gwasg Gomer
Cancer Curers - Or Quacks?:
The Story of a Secret Herbal Remedy
gyda Dafydd Wyn Jones Cyfieithiad gan Dafydd Wyn Jones o Cyfrinach Wncwl Daniel Ionawr 1993, Gwasg Gomer
Corn, Pistol a Chwip 31 Rhagfyr 1992, Gwasg Gomer
Cân y Morfilod Cyfieithiad o lyfr gan Dyan Sheldon 1993, CLC
Santa Tachwedd 1993, CLC
Gipsy Fires Cyfieithiad o'i nofel Tân ar y Comin, gyda Carol Byrne Jones Ionawr 1994, Pont Books
Y Gelyn ar y Trên Ionawr 1994 Mehefin 2004, Gwasg Gomer
Jona Ym Mol y Morfil Ionawr 1994, Gwasg Cambria
Llyfrau Darllen Newydd: Llyfr 1 1994 Mehefin 2000, Gwasg Gomer
Llyfrau Darllen Newydd: Llyfr 2 ? Ionawr 1996, Gwasg Gomer
Trysorau T. Llew: Modrwy Aur y Bwda a Storïau Eraill Casgliad, darluniwyd gan Jac Jones Wedi eu cyhoeddi eisoes Tachwedd 1997, Gwasg Gomer
Trysorau T. Llew: Y Môr yn eu Gwaed Detholiad Siân Lewis o rannau o nofelau cyffrous T. Llew Jones Tachwedd 1997, Gwasg Gomer
Llyfrau Darllen Newydd: Llyfr 3 1997 Gorffennaf 2000, Gwasg Gomer
Llyfrau Darllen Newydd: Llyfr 4 Tachwedd 1998, Gwasg Gomer
Lladron Defaid Addasiad Cymraeg o The Wild Morgans gan Alison Morgan Mai 2001, Gwasg Gomer
Storïau Cwm-Pen-Llo Casgliad o bedair stori Ymddangosont yn Pethe Plant yn 1976 1 Tachwedd 2001, Gwasg Carreg Gwalch
Fy Mhobol I Hunangofiant Awst 2002, Gwasg Gomer Mawrth 2003, Gwasg Gomer
Trysorfa T. Llew Jones gol. Tudur Dylan Jones, darluniwyd gan Jac Jones Tachwedd 2004, Gwasg Gomer
Bocs Anrheg Hydref 2005, Gwasg Gomer
Geiriau a Gerais Tachwedd 2006, Gwasg Gomer

Cryno-ddisgiau

  • Lleuad yn Olau - Chwedlau Traddodiadol o Gymru, Tachwedd 2003, ail-gyhoeddwyd Chwefror 2005 (Tympan)

Llyfrau a olygwyd gan T. Llew Jones

Llyfrau ar T. Llew Jones

  • Siân Teifi, Cyfaredd y Cyfarwydd: Astudiaeth o Fywyd a Gwaith y Prifardd T. Llew Jones (Gwasg Cambria, 1982)
  • Cyfrol Deyrnged y Prifardd T. Llew Jones, gol. gan Gwynn ap Gwilym (Cyhoeddiadau Barddas, 1982)
  • Bro a Bywyd: T. Llew Jones, gol. Jon Meirion Jones (Cyhoeddiadau Barddas, 2010)
  • Idris Reynolds, Tua'r Gorllewin ... Cofiant T. Llew Jones (Cyhoeddiadau Barddas, 2011)

Cyfeiriadau

  1.  Enwi ysgol newydd ym Mrynhoffnant ar ôl T Llew Jones. BBC (7 Medi 2012). Adalwyd ar 7 Medi 2012.

Dolenni allanol