Afon Marne: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
TXiKiBoT (sgwrs | cyfraniadau) B robot yn ychwanegu: fy:Marne |
B robot yn ychwanegu: ca:Riu Marne |
||
Llinell 51: | Llinell 51: | ||
[[br:Marne (stêr)]] |
[[br:Marne (stêr)]] |
||
[[bs:Marna]] |
[[bs:Marna]] |
||
[[ca:Riu Marne]] |
|||
[[cs:Marna]] |
[[cs:Marna]] |
||
[[cv:Марна (юханшыв)]] |
[[cv:Марна (юханшыв)]] |
Fersiwn yn ôl 07:15, 10 Medi 2010
- Erthygl am yr afon yn Ffrainc yw hon. Gweler hefyd Afon Marne (Awstralia).
Afon weddol fawr yn Ffrainc sy'n un o ledneintiau Afon Seine yw Afon Marne. Mae'n llifo trwy'r ardal i'r dwyrain a'i de-ddwyrain o ddinas Paris. Ei hyd yw 514 km (319 milltir). Rhydd yr afon ei henw i départements Haute-Marne, Marne, Seine-et-Marne, a Val-de-Marne.
Ymladdwyd dwy frwydr fawr ar lan Afon Marne River yn y Rhyfel Byd Cyntaf, yn 1914 a 1918.
Mae Afon Marne yn tarddu ar lwyfandir Langres, ac yn llifo i gyfeiriad y gogledd cyn troi i'r gorllewin rhwng Saint-Dizier a Châlons-en-Champagne, i ymuno ag Afon Seine yn Charenton fymryn i fyny'r afon o Baris.
Celf
Mae'r afon wedi ysbrydoli sawl arlunwr enwog yn y ddwy ganrif diwethaf, yn cynnwys:
- Camille Corot
- Paul Cézanne
- Camille Pissarro
- Henri Rousseau, neu " Le Douanier Rousseau"
- Albert Marquet
- Raoul Dufy
- André Dunoyer de Ségonzac
- Louis Vuillermoz
- Maurice Boitel
- Daniel du Janerand
Y Cysylltiad Celtaidd
Uniaethir Modron, mam Mabon fab Modron ym mytholeg Cymru, a'r fam-dduwies Matrona, oedd yn dduwies Afon Marne yng Ngâl yn amser y Celtiaid ac yn dduwies ffrwythlondeb a'r cynhaeaf.
Départements a phrif drefi ar ei glannau
- Haute-Marne (52): Chaumont, Saint-Dizier
- Marne (51): Châlons-en-Champagne, Épernay
- Aisne (02): Château-Thierry
- Seine-et-Marne (77): Meaux
- Seine-Saint-Denis (93): Neuilly-sur-Marne, Noisy-le-Grand
- Val-de-Marne (94): Nogent-sur-Marne, Créteil, Charenton-le-Pont, Champigny-sur-Marne, Saint-Maur-des-Fossés, Joinville-le-Pont, Saint-Maurice