Llanfair, Gwynedd

pentref a chymuned yng Ngwynedd

Pentref, cymuned a phlwyf eglwysig yn Ngwynedd, Cymru, yw Llanfair ("Cymorth – Sain" ynganiad ). Saif ger y briffordd A496 tua milltir a hanner i'r de o Harlech, hanner ffordd rhwng y dref honno a phentref Llanbedr. Ar un adeg bu gwaith llechi yn bwysig i'r economi lleol.

Llanfair
Mathcymuned, pentref Edit this on Wikidata
Poblogaeth453, 380 Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirGwynedd Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Arwynebedd1,807.99 ha Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau52.8399°N 4.1133°W Edit this on Wikidata
Cod SYGW04000077 Edit this on Wikidata
Cod OSSH576291 Edit this on Wikidata
Gwleidyddiaeth
AS/au CymruMabon ap Gwynfor (Plaid Cymru)
AS/au y DULiz Saville Roberts (Plaid Cymru)
Map
Am bentrefi eraill sydd a "Llanfair" yn rhan o'r enw, gweler Llanfair (gwahaniaethu).

Mae'r pentref dafliad carreg o lan y môr gyda golygfa dros Fae Ceredigion i benrhyn Llŷn a bryniau Eryri. I'r gogledd mae Morfa Harlech yn dechrau ac yn ymestyn i'r Traeth Bach. Y tu ôl i'r pentref, i'r dwyrain, mae rhes o fryniau'n codi; ceir nifer o hynafiaethau arnynt, yn cynnwys siambrau claddu a meini hirion. I'r de-orllewin, hanner milltir i ffwrdd, ceir pentref bychan Llandanwg a'i eglwys hynafol. Mae nifer o dai ac adeiladau eraill y pentref yn enghreifftiau da o adeiladwaith lleol â cherrig mawr.

Eglwys Fair yw eglwys y plwyf. Ceir ysgrîn o'r 17g ynddi. Yno hefyd gellir gweld beddfaen y llenor Ellis Wynne, awdur Gweledigaethau y Bardd Cwsc, a gladdwyd yno yng Ngorffennaf 1734.

Cynrychiolir yr ardal hon yn Senedd Cymru gan Mabon ap Gwynfor (Plaid Cymru)[1] ac yn Senedd y DU gan Liz Saville Roberts (Plaid Cymru).[2]

Pobl Llanfair

golygu

Cyfrifiad 2011

golygu

Yng nghyfrifiad 2011 roedd y sefyllfa fel a ganlyn:[3][4][5]

Cyfrifiad 2011
Poblogaeth cymuned Llanfair (Gwynedd) (pob oed) (453)
  
100%
Y nifer dros 3 oed sy'n siarad Cymraeg (Llanfair (Gwynedd)) (201)
  
45%
:Y ganran drwy Gymru
  
19%
Y nifer sydd wedi'u geni yng Nghymru (Llanfair (Gwynedd)) (188)
  
41.5%
:Y ganran drwy Gymru
  
73%
Y nifer dros 16 sydd mewn gwaith (Llanfair (Gwynedd)) (132)
  
56.2%
:Y ganran drwy Gymru
  
67.1%

Cyfeiriadau

golygu
  1. Gwefan Senedd Cymru
  2. Gwefan Senedd y DU
  3. "Ystadegau Allweddol ar gyfer Cymru". Swyddfa Ystadegau Gwladol. Cyrchwyd 2012-12-12.. Poblogaeth: ks101ew. Iaith: ks207wa - noder mae'r canran hwn yn seiliedig ar y nier sy'n siarad Cymraeg allan o'r niferoedd sydd dros 3 oed. Ganwyd yng Nghymru: ks204ew. Diweithdra: ks106ew; adalwyd 16 Mai 2013.
  4. Canran y diwaith drwy Gymru; Golwg 360; 11 Rhagfyr 2012; adalwyd 16 Mai 2013
  5. Gwefan Swyddfa Ystadegau Gwladol; Niferoedd Di-waith rhwng 16 a 74 oed; adalwyd 16 Mai 2013.