Aberllefenni
Mae Aberllefenni ( ynganiad ) yn bentref yn ne Gwynedd, yn nyffryn Afon Dulas ac ar y ffordd gefn sy'n gadael y briffordd A487 ym mhentref Corris; cyfeirnod OS: SH 77044 09940. Mae'r ffordd yma yn arwain tua'r gogledd-ddwyrain i Aberllefenni, yna'n troi tua'r dwyrain i Aberangell. Mae'r pentref yn rhan o gymuned Corris.
Math | pentref |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Sir | Gwynedd |
Gwlad | Cymru |
Cyfesurynnau | 52.6736°N 3.8197°W |
Cod OS | SH770097 |
Gwleidyddiaeth | |
AS/au Cymru | Mabon ap Gwynfor (Plaid Cymru) |
AS/au y DU | Liz Saville Roberts (Plaid Cymru) |
Hanes
golyguAr un adeg yr oedd y diwydiant llechi yn bwysig iawn yma, ac y mae olion hen chwareli o gwmpas y pentref. Roedd chwareli Foel Grochan, Hen Chwarel a Ceunant Ddu gyda'i gilydd yn ffurfio Chwarel Lechi Aberllefenni. Roedd Rheilffordd Corris yn gorffen yn Aberllefenni, ac yn cario llechi i Fachynlleth. Cysylltid y chwareli mwyaf pellennig a'r rheilffordd gan Dramffordd Ratgoed.
Credir fod y ffordd Rufeinig Sarn Helen yn mynd trwy'r pentref, ac efallai fod yr enw Pensarn am deras o dai yma yn cyfeirio ati. Ar un adeg gelwid Llyn Cob yn "Llyn Owain Lawgoch", er nad oes cofnod hanesyddol o Owain Lawgoch yn yr ardal yma. Ymhlith yr adeiladau diddorol mae Plas Aberllefenni. Roedd rhannau o hwn wedi eu hadeiladu yn y Canol Oesoedd, ond tynnwyd y rhan yma i lawr yn y 1960au, a dim ond rhannau mwy diweddar a gadwyd.
Pobl o Aberllefenni
golygu- Rhydderch Jones (1935 - 1987), dramodydd a chynhyrchydd teledu.
Gweler hefyd
golyguDolenni allanol
golyguDinas
Bangor
Trefi
Abermaw · Y Bala · Bethesda · Blaenau Ffestiniog · Caernarfon · Cricieth · Dolgellau · Harlech · Nefyn · Penrhyndeudraeth · Porthmadog · Pwllheli · Tywyn
Pentrefi
Aberangell · Aberdaron · Aberdesach · Aberdyfi · Aber-erch · Abergwyngregyn · Abergynolwyn · Aberllefenni · Abersoch · Afon Wen · Arthog · Beddgelert · Bethania · Bethel · Betws Garmon · Boduan · Y Bont-ddu · Bontnewydd (Arfon) · Bontnewydd (Meirionnydd) · Botwnnog · Brithdir · Bronaber · Bryncir · Bryncroes · Bryn-crug · Brynrefail · Bwlchtocyn · Caeathro · Carmel · Carneddi · Cefnddwysarn · Clynnog Fawr · Corris · Croesor · Crogen · Cwm-y-glo · Chwilog · Deiniolen · Dinas, Llanwnda · Dinas, Llŷn · Dinas Dinlle · Dinas Mawddwy · Dolbenmaen · Dolydd · Dyffryn Ardudwy · Edern · Efailnewydd · Fairbourne · Y Felinheli · Y Ffôr · Y Fron · Fron-goch · Ffestiniog · Ganllwyd · Garndolbenmaen · Garreg · Gellilydan · Glan-y-wern · Glasinfryn · Golan · Groeslon · Llanaber · Llanaelhaearn · Llanarmon · Llanbedr · Llanbedrog · Llanberis · Llandanwg · Llandecwyn · Llandegwning · Llandwrog · Llandygái · Llanddeiniolen · Llandderfel · Llanddwywe · Llanegryn · Llanenddwyn · Llanengan · Llanelltyd · Llanfachreth · Llanfaelrhys · Llanfaglan · Llanfair · Llanfihangel-y-Pennant (Abergynolwyn) · Llanfihangel-y-Pennant (Cwm Pennant) · Llanfihangel-y-traethau · Llanfor · Llanfrothen · Llangelynnin · Llangïan · Llangwnadl · Llwyngwril · Llangybi · Llangywer · Llaniestyn · Llanllechid · Llanllyfni · Llannor · Llanrug · Llanuwchllyn · Llanwnda · Llanymawddwy · Llanystumdwy · Llanycil · Llithfaen · Maentwrog · Mallwyd · Minffordd · Minllyn · Morfa Bychan · Morfa Nefyn · Mynydd Llandygái · Mynytho · Nantlle · Nantmor · Nant Peris · Nasareth · Nebo · Pant Glas · Penmorfa · Pennal · Penrhos · Penrhosgarnedd · Pen-sarn · Pentir · Pentrefelin · Pentre Gwynfryn · Pentreuchaf · Pen-y-groes · Pistyll · Pontllyfni · Portmeirion · Prenteg · Rachub · Y Rhiw · Rhiwlas · Rhos-fawr · Rhosgadfan · Rhoshirwaun · Rhoslan · Rhoslefain · Rhostryfan · Rhos-y-gwaliau · Rhyd · Rhyd-ddu · Rhyduchaf · Rhydyclafdy · Rhydymain · Sarnau · Sarn Mellteyrn · Saron · Sling · Soar · Talsarnau · Tal-y-bont, Abermaw · Tal-y-bont, Bangor · Tal-y-llyn · Tal-y-sarn · Tanygrisiau · Trawsfynydd · Treborth · Trefor · Tre-garth · Tremadog · Tudweiliog · Waunfawr