Knut Hamsun
Llenor Norwyaidd yn yr iaith Norwyeg oedd Knut Hamsun (4 Awst 1859 – 19 Chwefror 1952) a fu'n unigolydd pybyr ac yn un o brif ladmeryddion neo-Ramantiaeth a realaeth newydd yn llên Norwy. Bu'n enwog yn bennaf am ei nofelau, gan gynnwys Markens Grøde (1917), yr hon a enillai Wobr Lenyddol Nobel iddo ym 1920.[1] Ysgrifennodd hefyd ddramâu, barddoniaeth, straeon byrion, ac ysgrifau a rhyddiaith ffeithiol.
Knut Hamsun | |
---|---|
Ffotograff o Knut Hamsun ym 1927. | |
Ganwyd | Knut Pedersen Hamsun 4 Awst 1859 Vågå, Norwy, Lom Municipality |
Bu farw | 19 Chwefror 1952 Grimstad |
Dinasyddiaeth | Norwy |
Galwedigaeth | llenor, bardd, nofelydd, dramodydd, critig, llenor |
Adnabyddus am | Hunger, Growth of the Soil |
Prif ddylanwad | Arthur Schopenhauer, Bjørnstjerne Bjørnson, George Gordon Byron, August Strindberg, Friedrich Nietzsche, Fyodor Dostoievski |
Plaid Wleidyddol | Nasjonal Samling |
Mudiad | rhamantiaeth-newydd |
Priod | Marie Hamsun, Bergljot Bech |
Plant | Arild Hamsun, Ellinor Hamsun, Tore Hamsun, Victoria Hamsun Charlesson |
Gwobr/au | Gwobr Lenyddol Nobel, Medal Goethe ar gyfer Celf a Gwyddoniaeth |
Gwefan | https://hamsunsenteret.no/en/ |
llofnod | |
Ganed Knud Pedersen yn Lom, yn rhanbarth Gudbrandsdalen, Norwy, a oedd ar y pryd yn rhan o Deyrnasoedd Unedig Sweden a Norwy. Gwerinwyr oedd ei deulu, a chafodd ei fagu yn Hamarøy, tref anghysbell yn Nordland o fewn Cylch yr Arctig. Prin y cafodd unrhyw addysg ffurfiol yn ystod blynyddoedd ei fachgendod a'i arddegau, ond câi cyfoeth naturiol ac harddwch y dirwedd argraff barhaol ar ei ysbryd. Aeth yn brentis i grydd yn Bodø, Nordland, ac yno, yn 19 oed, dechreuodd ysgrifennu yn ei amser rhydd. Yn ystod y ddeng mlynedd ddilynol, enillodd ei damaid fel llafurwr ysbeidiol, ac ar ei deithiau i Unol Daleithiau America gweithiodd mewn sawl swydd dros dro yn Chicago, Gogledd Dakota, a Minneapolis.[2]
Ym 1888 cyhoeddwyd, yn ddi-enw, y rhan gyntaf o Sult, nofel seicolegol a lled-hunangofiannol a fyddai'n cael ei chyhoeddi yn ei chyfanrwydd ym 1890. Daeth i'r amlwg yn syth ar draws gwledydd Llychlyn am yr ymdrech gynnar hon, nofel sydd yn nodi troad yn hanes llên Norwy oddi ar yr hen realaeth gymdeithasol a thra-naturiolaeth. Llwyddiant ariannol a beirniadol ydoedd, a dilynodd Hamsun gyda chyfres o ddarlithoedd llenyddol, yn mynegi ei edmygedd o August Strindberg a'i feirniadaeth o Henrik Ibsen a Leo Tolstoy. Byddai cymeriadau llais-cyntaf ei nofelau cynnar eraill, gan gynnwys ei weithiau amlycaf, Mysterier (1892), Pan (1894), a Victoria (1898), o'r un farn â'r awdur yn nhermau ei ddiffyg ymddiriedaeth mewn datblygiadau technolegol a chynnydd cymdeithasol yr oes. Nodwedd hollbresennol yn ei waith yw'r unigolyddiaeth danbaid a argraffid ar ei feddwl gan Friedrich Nietzsche a Strindberg.
Tua 1913, cychwynnodd yr ail gyfnod o awduraeth Hamsun a gydnabuwyd gan y beirniaid. Wedi hynny, traethir ei nofelau yn y trydydd llais, gan ymwneud â nifer o gymeriadau.[3] Yn ei gampwaith Markens Grøde (1917), mynegir ei athroniaeth gyntefig dros ddychwelyd i natur a'r bywyd amaethyddol, gan droi cefn ar fodernedd. Ymhlith ei nofelau eraill o'i gyfnod diweddarach mae triawd y cymeriad August: Landstrykere (1927), August (1930), a Men Livet lever (1933).
Yn ystod yr Ail Ryfel Byd, datganodd Hamsun ei gefnogaeth i'r Almaen Natsïaidd, a fu'n meddiannu Norwy o 1940 i 1945. Wedi'r rhyfel, cafodd ei gyhuddo o deyrnfradwriaeth a'i garcharu, ond lleihawyd ei gosb oherwydd ei oedran. Fe'i cafwyd yn euog o gydweithio â'r Natsïaid, a derbyniodd ddirwy a fyddai'n ei ddifetha yn ariannol.[2]
Gwnaethpwyd difrod mawr i enw Hamsun yn ei famwlad o ganlyniad i'w weithredoedd yn ystod y rhyfel. Er gwaethaf, derbyniodd glod yn ei flynyddoedd olaf am ei gyfrol Paa gjengrodde Stier (1949), nofel hunangofiannol fer sydd yn cyfuno dyddiadur natur ag atgofion o'i achos llys, gan gyfleu rhyw fath o amddiffyniad o'i daliadau. Bu farw Knut Hamsun ym maenordy Nørholm, ar gyrion Grimstad, yn 92 oed.
Llyfryddiaeth ddethol
golyguNofelau
golygu- Sult (1890).
- Mysterier (1892).
- Redaktør Lynge (1893).
- Ny Jord (1893).
- Pan (1894).
- Victoria. En kjærlighedshistorie (1898).
- Sværmere (1904).
- Stridende Liv. Skildringer fra Vesten og Østen (1905).
- Den sidste Glæde (1912).
- Børn av Tiden (1913).
- Segelfoss By (1915).
- Markens Grøde (1917).
- Konerne ved (1920).
- Siste Kapitel (1923).
- Landstrykere (1927).
- August (1930).
- Men Livet lever (1933).
- Ringen sluttet (1936).
- Paa gjengrodde Stier (1949).
Dramâu
golygu- Ved Rigets Port (1895).
- Livets Spil (1896).
- Aftenrøde. Slutningspil (1898).
- Munken Vendt (1902).
- Dronning Tamara (1903).
- Livet i Vold (1910).
Casgliadau o straeon byrion
golygu- Siesta (1897).
- Kratskog (1903).
Llythyrau
golygu- Knut Hamsuns brev, 6 chyfrol (1994–2001).
Cyfeiriadau
golygu- ↑ (Saesneg) "The Nobel Prize in Literature 1920", Sefydliad Nobel. Adalwyd ar 29 Tachwedd 2021.
- ↑ 2.0 2.1 (Saesneg) Knut Hamsun. Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 29 Tachwedd 2021.
- ↑ (Saesneg) "Knut Hamsun" yn Encyclopedia of World Biography. Adalwyd ar wefan Encyclopedia.com ar 29 Tachwedd 2021.
Darllen pellach
golygu- Robert Ferguson, Enigma: The Life of Knut Hamsun (Efrog Newydd: Farrar, Straus & Giroux, 1987).