Gutun Owain
Bardd ac uchelwr o Gymro a gyfrifir yn un o'r mwyaf o Feirdd yr Uchelwyr yn y 15g oedd Gutun Owain neu Gruffydd ap Huw ab Owain[1] (fl. tua 1425 - 1498). Roedd yn frodor o blwyf Llandudlyst-yn-y-Traean yn argwlyddiaeth Croesoswallt (Swydd Amwythig), ardal Gymraeg ei hiaith a fu'n rhan o deyrnas Powys ar un adeg.
Gutun Owain | |
---|---|
Ganwyd | 1420s |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Galwedigaeth | bardd, achrestrydd |
Blodeuodd | 1460 |
Gwaith llenyddol
golyguMae'r cerddi cynharaf ganddo sydd ar glawr i'w dyddio i ddechrau'r 1460au, ond ceir tystiolaeth iddo fod yn bresennol yn Eisteddfod Caerfyrddin tua 1450 gyda'i athro barddol Dafydd ab Edmwnd. Mae'r testunau cynharaf o'r gramadegau barddol sy'n cynnwys trefniant newydd ei athro ar y pedwar mesur ar hugain yn llaw Gutun Owain ei hun.
Copïodd Gutun sawl testun rhyddiaith Cymraeg Canol, yn cynnwys copïau o'r croniclau Brenhinedd y Saeson a Brut Tysilio a geir rhwng cloriau Llyfr Du Basing. Ceir yn ogystal sawl testun achyddiaeth ac roedd yn cael ei ystyried yn un o'r awdurdodau pennaf y cyfnod ar herodraeth ac achau'r Cymry.
Mewn un o lawysgrifau Mostyn, a adnabyddir fel 'Mostyn 88', ceir y testun cynharaf o Fuchedd Sant Martin, o waith John Trefor II, Esgob Llanelwy, efallai, a gopïwyd gan Gutun Owain yn 1488 neu 1489. Ceir bucheddau eraill yn llaw Gutun hefyd, ynghyd â sawl testun meddygol a seryddol.
Mae'r gweithgarwch hwn yn dyst i ddysg a diddordebau eang Gutun Owain, ond fel bardd y cofir amdano yn bennaf heddiw. Cadwyd dros hanner cant o gerddi ganddo, yn gywyddau, awdlau ac englynion. Cerddi mawl a marwnadau i uchelwyr ym Maelor (Maelor Gymraeg a Maelor Saesneg) a Swydd y Waun ydynt yn bennaf. Fe'i cysylltir yn anad dim â dau o abadau llengar Abaty Glynegwestl, sef Siôn ap Rhisiart a Dafydd ab Ieuan ab Iorwerth. Roedd ei gyd-fardd Guto'r Glyn yn ymwelydd cyson â Glynegwestl hefyd, a cheir marwnad deimladwy iddo gan Gutun.
Llyfryddiaeth
golyguMae gan Wicidestun destun sy'n berthnasol i'r erthygl hon: |
Testunau
golygu- Edouard Bachellery (gol.), L'Œuvre poétique de Gutun Owain, 2 gyfrol (Paris, 1950, 1957)
- Evan John Jones (gol.), Buchedd Sant Martin (Caerdydd, 1945)
Astudiaethau
golygu- Saunders Lewis, 'Gutun Owain', yn Meistri a'i grefft (Caerdydd, 1981)
Cyfeiriadau
golyguBedo Hafesb · Bleddyn Ddu · Cadwaladr Cesail · Casnodyn · Rhisiart Cynwal · Wiliam Cynwal · Dafydd ab Edmwnd · Dafydd Alaw · Dafydd ap Gwilym · Dafydd ap Siencyn · Dafydd Benwyn · Dafydd Ddu o Hiraddug · Dafydd Gorlech · Dafydd Llwyd o Fathafarn · Dafydd Nanmor · Dafydd y Coed · Edward Dafydd · Deio ab Ieuan Du · Lewys Dwnn · Edward Maelor · Edward Sirc · Edward Urien · Einion Offeiriad · Gronw Ddu · Gronw Gyriog · Gruffudd ab Adda ap Dafydd · Gruffudd ab Ieuan ap Llywelyn Fychan · Gruffudd ap Dafydd ap Tudur · Gruffudd ap Llywelyn Lwyd · Gruffudd ap Maredudd ap Dafydd · Gruffudd ap Tudur Goch · Gruffudd Fychan ap Gruffudd ab Ednyfed · Gruffudd Gryg · Gruffudd Hiraethog · Gruffudd Llwyd · Gruffudd Llwyd ap Llywelyn Gaplan · Guto'r Glyn · Gutun Owain · Gwerful Fychan · Gwerful Mechain · Gwilym Ddu o Arfon · Gwilym Tew · Hillyn · Huw Cae Llwyd · Huw Ceiriog · Huw Cornwy · Huw Llŷn · Huw Pennant (I) · Huw Pennant (II) · Hywel ab Einion Lygliw · Hywel ap Mathew · Hywel Cilan · Hywel Ystorm · Ieuan ap Huw Cae Llwyd · Ieuan ap Hywel Swrdwal · Ieuan Brydydd Hir · Ieuan Du'r Bilwg · Ieuan Dyfi · Ieuan Gethin · Ieuan Llwyd ab y Gargam · Ieuan Tew Ieuanc · Iocyn Ddu ab Ithel Grach · Iolo Goch · Iorwerth ab y Cyriog · Iorwerth Beli · Iorwerth Fynglwyd · Ithel Ddu · Lewis ab Edward · Lewys Daron · Lewys Glyn Cothi · Lewys Môn · Lewys Morgannwg · Llywarch Bentwrch · Llywelyn ab y Moel · Llywelyn ap Gwilym Lygliw · Llywelyn Brydydd Hoddnant · Llywelyn Ddu ab y Pastard · Llywelyn Fychan ap Llywelyn Foelrhon · Llywelyn Fychan ap Llywelyn Goch · Llywelyn Goch ap Meurig Hen · Llywelyn Goch y Dant · Llywelyn Siôn · Mab Clochyddyn · Madog Benfras · Maredudd ap Rhys · Meurig ab Iorwerth · Morus Dwyfech · Owain Gwynedd · Owain Waed Da · Prydydd Breuan · Tomos Prys · Gruffudd Phylip · Phylip Siôn Phylip · Rhisiart Phylip · Rhys Cain · Rhys Nanmor · Siôn Phylip · Siôn Tudur · Raff ap Robert · Robert ab Ifan · Robin Ddu ap Siencyn · Rhisierdyn · Rhisiart ap Rhys · Rhys ap Dafydd ab Einion · Rhys ap Dafydd Llwyd · Rhys ap Tudur · Rhys Brydydd · Rhys Goch Eryri · Sefnyn · Simwnt Fychan · Siôn ap Hywel ap Llywelyn Fychan · Siôn ap Hywel Gwyn · Siôn Brwynog · Siôn Cent · Siôn Ceri · Sypyn Cyfeiliog · Trahaearn Brydydd Mawr · Tudur Aled · Tudur ap Gwyn Hagr · Tudur Ddall · Wiliam Llŷn · Y Mab Cryg · Y Proll · Yr Ustus Llwyd