Gemau'r Gymanwlad 2022
Gemau'r Gymanwlad 2022 oedd yr ail dro ar hugain i Gemau'r Gymanwlad gael eu cynnal. Cafodd y gemau eu cynnal yn Birmingham, Lloegr rhwng 28 Gorffennaf a 8 Awst 2022.[1] Dyma oedd y trydydd tro i'r Gemau cael eu cynnal yn Lloegr.
22in Gemau'r Gymanwlad | |||
---|---|---|---|
Seremoni agoriadol | 27 Gorffennaf | ||
Seremoni cau | 7 Awst | ||
|
Roedd y gemau i fod i'w cynnal yn Durban, De Affrica ond ym mis Chwefror 2017 cyhoeddwyd na fyddai'r ddinas yn gallu cynnal y Gemau wedi'r cwbwl oherwydd problemau ariannol[2] ac ym mis Mawrth 2017 agorwyd y broses o geisio dod o hyd i leoliad newydd ar gyfer Gemau'r Gymanwlad 2022[3]
Chwaraeon
golyguYm mis Ionawr 2018 cyhoeddwyd na fyddai saethu yn rhan o'r Gemau yn 2022 - y tro cyntaf ers Gemau'r Gymanwlad 1970 i'r gamp peidio a chael ei chynnwys[4][5]. Cyflwynwyd pêl-fasged 3x3 a phêl-fasged 3x3 cadair olwyn am y tro cyntaf erioed[6] a cafodd criced ei gynnwys am y tro cyntaf ers Gemau'r Gymanwlad 1998 yn Kuala Lumpur, Malaysia gyda twrnament Ugain Pelawd i Ferched yn rhan o'r Gemau.[7]
Uchafbwyntiau'r Gemau
golyguAlex Yee o Loegr enillodd fedal aur cyntaf y gemau yn y triathlon i ddynion cyn i Flora Duffy o Bermuda amddiffyn ei choron yn y triathlon i ferched.[8]
Llwyddodd Duken Tutakitoa-Williams i ennill medal cyntaf yn hanes ynys Nuie yng Ngemau'r Gymanwlad wrth gipio medal efydd yn adran pwysau trwm y bocsio tra bod Alastair Chalmers wedi sicrhau medal cyntaf erioed i Guernsey ar y trac athletau wrth gipio medal efydd yn y 400m dros y clwydi.[9][10]
Y chwaraewr tenis bwrdd o Singapore, Feng Tianwei, enillodd fedal aur yn y senglau, dyblau ac fel aelod o dîm merched Singapore, gafodd ei gwobrwyo â Gwobr David Dixon yn ystod y seremon i cloi[11].
Tabl medalau
golyguSafle | CGA | Aur | Arian | Efydd | Cyfanswm |
---|---|---|---|---|---|
1 | Awstralia | 67 | 57 | 54 | 178 |
2 | Lloegr | 57 | 66 | 53 | 176 |
3 | Canada | 26 | 32 | 34 | 92 |
4 | India | 22 | 16 | 23 | 61 |
5 | Seland Newydd | 20 | 12 | 17 | 49 |
6 | Yr Alban | 13 | 11 | 27 | 51 |
7 | Nigeria | 12 | 9 | 14 | 35 |
8 | Cymru | 8 | 6 | 14 | 28 |
9 | De Affrica | 7 | 9 | 11 | 27 |
19 | Maleisia | 7 | 8 | 8 | 23 |
Cyfanswm (29 o wledydd) | 280 | 282 | 315 | 877 |
Enillwyr o Gymru
golyguCyfeiriadau
golygu- ↑ "Commonwealth Games: Birmingham announced as host of 2022 event". BBC Sport. 2017-12-21.
- ↑ "Commonwealth Games 2022: Durban 'may drop out as host'". BBC News. 2017-02-28.
- ↑ "Durban stripped of 2022 Commonwealth Games". The Sydney Morning Herald. 2017-03-14.
- ↑ "Optional Sports at 2022 Commonwealth Games". Around the Rings. 2018-01-18. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2018-01-23. Cyrchwyd 2018-01-20.
- ↑ "Birmingham 2022: Shooting dropped from Commonwealth Games" (yn Saesneg). BBC. 19 Ionawr 2018.
- ↑ "3x3 basketball set to make Commonwealth Games debut at Birmingham 2022" (yn Saesneg). Inside the Games.
- ↑ "Two years to go for Commonwealth Games, with women's cricket making debut". International Cricket Council. Cyrchwyd 28 July 2020.
- ↑ "Commonwealth Games 2022: Alex Yee wins triathlon gold in Birmingham's first medal event" (yn Saesneg). BBC Sport. 2022-07-29.
- ↑ "Boxer wins first Commonwealth Games medal for tiny island nation of Niue" (yn Saesneg). The Independent. 2022-08-05.
- ↑ "Chalmers secures Guernsey's first athletics medal at the Commonwealth Games" (yn Saesneg). ITV News. 2022-08-07.
- ↑ "Birmingham 2022 goes out on a wonderful wall of sound as Black Sabbath provide coup de theatre" (yn Saesneg). Inside the Games.
Dolenni allanol
golygu- (Saesneg) Gwefan swyddogol Gemau'r Gymanwlad Archifwyd 2008-07-23 yn y Peiriant Wayback
- (Saesneg) Cyngor Gemau Gymanwlad Cymru
Rhagflaenydd: Arfordir Aur |
Gemau'r Gymanwlad Birmingham |
Olynydd: I'w gadarnhau |