Gemau'r Gymanwlad 2018
Gemau'r Gymanwlad 2018 oedd yr unfed tro ar hugain i Gemau'r Gymanwlad gael eu cynnal. Arfordir Aur, Queensland, Awstralia oedd cartref y Gemau gafodd eu cynnal rhwng 4 - 15 Ebrill 2018. Cafwyd cyfarfod i ddewis y ddinas fyddai'n cynnal y Gemau yn ystod Cyfarfod Ffederasiwn Gemau'r Gymanwlad yn Basseterre, Sant Kitts-Nevis ym mis Tachwedd 2011 gyda Dinas Gold Coast yn ennill y bleidlais gyda 43 pleidlais a 27 pleidlais i Hambantota, Sri Lanca a ddaeth yn ail.
21in Gemau'r Gymanwlad | |||
---|---|---|---|
Campau | 19 | ||
Seremoni agoriadol | 4 Ebrill | ||
Seremoni cau | 14 Ebrill | ||
Agorwyd yn swyddogol gan | Y Tywysog Siarl, Tywysog Cymru | ||
|
Enghraifft o'r canlynol | digwyddiad aml-chwaraeon |
---|---|
Dyddiad | 2018 |
Dechreuwyd | 4 Ebrill 2018 |
Daeth i ben | 15 Ebrill 2018 |
Cyfres | Gemau'r Gymanwlad |
Lleoliad | Gold Coast |
Rhanbarth | Queensland |
Gwefan | http://www.gc2018.com/ |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Dyma oedd y pumed tro i Awstralia gynnal Gemau'r Gymanwlad.
Uchafbwyntiau'r Gemau
golyguFlora Duffy o Bermuda gipiodd fedal aur cyntaf y Gemau yn y Triathlon i ferched. Dyma oedd medal aur cyntaf Bermuda yng Ngemau'r Gymanwlad ers i Nick Saunders gipio aur yn y naid uchel yn Auckland ym 1990[1][2].
Llwyddodd Fanwatw, Ynysoedd Cook, Ynysoedd Solomon, Dominica, Ynysoedd Morwynol Prydain a Sant Lwsia i ennill medal am y tro cyntaf yn hanes Gemau'r Gymanwlad.
Daeth medalau Fanwatw, Dominica, Ynysoedd Morwynol Prydain a Sant Lwsia yn yr athletau wrth i Kyron McMaster ennill aur yn y 400m dros y clwydi i'r Ynysoedd Morwynol Prydain[3] a cipiodd Levern Spencer o Sant Lwsia yr aur yn y naid uchel[4]. Cafwyd medalau efydd i Friana Kwevira o Fanwatw yn y gwaywffon T36[5], Thea Lafond o Dominica yn y naid driphlyg i ferched[6].
Llwyddodd Aidan Zittersteijn a Taiki Paniani o Ynysoedd Cook i drechu'r pâr o Malta er mwyn ennill medal efydd yng nghystadleuaeth parau bowlio lawnt a cipiodd Jenly Wini fedal efydd yng nghategori 58 kg codi pwysau i Ynysoedd Solomon[7].
Y codwr pwysau o Seland Newydd, David Liti, gafodd ei urddo â Gwobr David Dixon yn ystod y Seremoni Cloi.[8].
Chwaraeon
golyguDychwelodd Pêl-fasged i'r gemau ar draul Jiwdo gyda Rygbi Saith-bob-ochr a Pel-foli Traeth yn cael eu cyflwyno am y tro cyntaf[9]
Timau yn cystadlu
golyguRoedd pob un o 71 o wledydd y Gymanwlad yn gyrru tîm i Gemau'r Gymanwlad, 2018 gyda Gambia yn dychwelyd i'r Gymanwlad ym mis Mawrth 2018[10] ond ni fu y Maldives yn cystadlu ar ôl gadael y Gymanwlad yn 2016[11].
Tabl medalau
golyguRoedd 275 o wahanol gampau yn y Gemau a llwyddodd 43 o wledydd gwahanol i gipio medal gyda'r tîm cartref, Awstralia, yn gorffen ar frig y tabl medalau[12]
Safle | CGA | Aur | Arian | Efydd | Cyfanswm |
---|---|---|---|---|---|
1 | Awstralia* | 80 | 59 | 59 | 198 |
2 | Lloegr | 45 | 45 | 46 | 136 |
3 | India | 26 | 20 | 20 | 66 |
4 | Canada | 15 | 40 | 27 | 82 |
5 | Seland Newydd | 15 | 16 | 15 | 46 |
6 | De Affrica | 13 | 11 | 13 | 37 |
7 | Cymru | 10 | 12 | 14 | 36 |
8 | Yr Alban | 9 | 13 | 22 | 44 |
9 | Nigeria | 9 | 9 | 6 | 24 |
10 | Cyprus | 8 | 1 | 5 | 14 |
11 | Jamaica | 7 | 9 | 11 | 27 |
12 | Maleisia | 7 | 5 | 12 | 24 |
13 | Singapôr | 5 | 2 | 2 | 9 |
14 | Cenia | 4 | 7 | 6 | 17 |
15 | Wganda | 3 | 1 | 2 | 6 |
16 | Botswana | 3 | 1 | 1 | 5 |
17 | Samoa | 2 | 3 | 0 | 5 |
18 | Trinidad a Tobago | 2 | 1 | 0 | 3 |
19 | Namibia | 2 | 0 | 0 | 2 |
20 | Gogledd Iwerddon | 1 | 7 | 4 | 12 |
21 | Bahamas | 1 | 3 | 0 | 4 |
22 | Papua Gini Newydd | 1 | 2 | 0 | 3 |
23 | Ffiji | 1 | 1 | 2 | 4 |
24 | Pacistan | 1 | 0 | 4 | 5 |
25 | Grenada | 1 | 0 | 1 | 2 |
26 | Bermiwda | 1 | 0 | 0 | 1 |
Gaiana | 1 | 0 | 0 | 1 | |
Ynysoedd Morwynol Prydain | 1 | 0 | 0 | 1 | |
Sant Liwsia | 1 | 0 | 0 | 1 | |
30 | Bangladesh | 0 | 2 | 0 | 2 |
31 | Sri Lanca | 0 | 1 | 5 | 6 |
32 | Camerŵn | 0 | 1 | 2 | 3 |
33 | Dominica | 0 | 1 | 1 | 2 |
34 | Ynys Manaw | 0 | 1 | 0 | 1 |
Mawrisiws | 0 | 1 | 0 | 1 | |
Nawrw | 0 | 1 | 0 | 1 | |
37 | Malta | 0 | 0 | 2 | 2 |
Fanwatw | 0 | 0 | 2 | 2 | |
39 | Ynysoedd Cook | 0 | 0 | 1 | 1 |
Ghana | 0 | 0 | 1 | 1 | |
Ynys Norfolk | 0 | 0 | 1 | 1 | |
Seychelles | 0 | 0 | 1 | 1 | |
Ynysoedd Solomon | 0 | 0 | 1 | 1 | |
Cyfanswm (43 o wledydd) | 275 | 276 | 289 | 840 |
Medalau'r Cymry
golyguLlwyddodd athletwyr Cymru i ennill 36 o fedalau - 10 medal aur, 12 medal arian a 14 medal efydd - cyfanswm medalau sydd gystal â'r nifer uchaf erioed o'r Gemau yn Glasgow yn 2014, ond yr adeg hynny dim ond pum medal aur gafodd y tîm. Gyda 10 medal aur yn cael eu hennill yn 2018, mae'r Gemau yn cael eu hystyried fel y Gemau gorau erioed i Gymru[13].
Cyfeiriadau
golygu- ↑ "Flora Duffy of Bermuda wins 1st Commonwealth Games gold". The Washington Post. 2018-04-04.[dolen farw]
- ↑ "Bermuda Gold medals Auckland 1990". Commonwealth Games Federation. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2020-06-25. Cyrchwyd 2018-04-06.
- ↑ "A year after Hurricane Irma, Kyron McMaster wins BVI's first Commonwealth medal". CNN. 2018-04-12.
- ↑ "Levern Spencer wins gold at Commonwealth Games". St Lucia Times. 2018-04-14.[dolen farw]
- ↑ "Simbine stuns Blake to win Commonwealth Games 100 metres". Insidethegames.biz. 2018-4-09. Check date values in:
|date=
(help) - ↑ "Thea Lafond wins bronze for Dominica at Commonwealth Games". Dominica News Online. 2018-0410. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2018-04-11. Cyrchwyd 2018-04-14. Check date values in:
|date=
(help) - ↑ "Cook Islands, Solomon Islands and Vanuatu win medals at games". Asia Pacific report.
- ↑ "David Liti recieves the David Dixon Award for outstanding sporting spirit". Stuff.co.nz. 2018-04-15.
- ↑ "Beach volleyball to be played at the 2018 Gold Coast Commonwealth Games". 2016-03-08. Unknown parameter
|published=
ignored (help) - ↑ "Gambia to compete at Gold Coast 2018 after readmitted as CGF member". 2018-03-31. Unknown parameter
|published=
ignored (help) - ↑ "Maldives set to miss Gold Coast 2018 after resigning from Commonwealth". 2016-10-14. Unknown parameter
|published=
ignored (help) - ↑ "Official medal table". GC2018. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2018-04-24. Cyrchwyd 2018-04-15.
- ↑ "Cymu yn gorffen yn y seithfed safle ar yr Arfordir Aur". BBC Cymru Fyw. 2018-04-15.
Dolenni allanol
golygu- (Saesneg) Gwefan swyddogol Gemau'r Gymanwlad Archifwyd 2008-07-23 yn y Peiriant Wayback
- (Saesneg) Cyngor Gemau Gymanwlad Cymru
Rhagflaenydd: Glasgow |
Gemau'r Gymanwlad Arfordir Aur |
Olynydd: Birmingham |