Gemau'r Gymanwlad 2014
Gemau'r Gymanwlad 2014 oedd yr ugeinfed tro i Gemau'r Gymanwlad gael eu cynnal. Glasgow, Yr Alban, oedd cartref y Gemau am y trydydd tro yn eu hanes gyda'r Gemau'n digwydd rhwng 23 Gorffennaf a 3 Awst. Cafwyd cyfarfod i ddewis y ddinas fyddai'n cynnal y Gemau yn ystod Cyfarfod Ffederasiwn Gemau'r Gymanwlad yn Colombo, Sri Lanca ym mis Tachwedd 2007 gyda Glasgow yn ennill y bleidlais gyda 47 pleidlais i 24 Abuja, Nigeria.
20ed Gemau'r Gymanwlad | |||
---|---|---|---|
Campau | 17 | ||
Seremoni agoriadol | 23 Gorffennaf | ||
Seremoni cau | 3 Awst | ||
|
Enghraifft o'r canlynol | digwyddiad aml-chwaraeon |
---|---|
Dyddiad | 2014 |
Dechreuwyd | 23 Gorffennaf 2014 |
Daeth i ben | 3 Awst 2014 |
Cyfres | Gemau'r Gymanwlad |
Lleoliad | Glasgow |
Rhanbarth | Strathclyde |
Gwefan | http://www.glasgow2014.com/ |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Diflanodd Saethyddiaeth a Tenis o'r rhestr chwaraeon gyda Triathlon yn dychwelyd am y tro cyntaf ers 2006 a Jiwdo am y tro cyntaf ers 2002.
Seremoni Agoriadol
golyguUn o nodweddion fwyaf y seremoni agoriadol, ac un oedd ychydig yn heriol, oedd dewis y gân Freedom Come-All-Ye yn drefn. O gofio hanes Y Gymanwlad a rôl y frenhiniaeth ynddi, roedd perfformio cân weriniaethol a gwrth-imperialaidd a chenedlaetholgar Albanaidd gref, gan Hamish Henderson yn ddewis annisgwyl. Perfformiwyd y gân gan y soprano o Dde Affrica, Pumeza Matshikiza.[1] Dewisiwyd Matshikiza gan fod cyfeiriad at dreflan Nyanga yn y gân - treflan ddu a fu'n ymladd yn erbyn effeithiau apartheid.
Uchafbwyntiau'r Gemau
golyguLlwyddodd Ciribati i gipio ei medal cyntaf erioed yn Ngemau'r Gymanwlad wrth i David Katoatau ennill medal aur yng nghategori 105 kg y Codi pwysau[2] a casglodd Kirani James fedal aur cyntaf Grenada yn y 400m i ddynion ar y trac Athletau. Y nofiwr o Dde Affrica, Chad le Clos, gasglodd y nifer fwyaf o fedalau wrth iddo ennill dwy fedal aur, un arian a phedair efydd[3]. Patricia Bezzoubenko o Ganada gafodd y nifer fwyaf o fedalau aur wrth iddi gipio pum medal aur ac un medal efydd yn y gystadleuaeth Gymnasteg rhythmig[4].
Daeth perfformiad gorau Cymru yn y gystadleuaeth Gymnasteg rhythmig hefyd wrth i Francesca Jones gipio un medal aur a phum medal arian yn ogystal â Gwobr David Dixon am y perfformiad a chyfraniad gorau gan unrhyw athletwr yn ystod y Gemau[5].
Chwaraeon
golyguTimau yn cystadlu
golyguRoedd 70 o'r 71 o wledydd yn y Gymanwlad yn Ngemau'r Gymanwlad 2014 gyda Gambia yn tynnu yn ôl o'r Gemau ac o'r Gymanwlad ym mis Hydref 2013[6]
Medalau'r Cymry
golyguRoed 233[7] aelod yn nhîm Cymru a gyda 36 medal, dyma oedd y perffromiad gorau erioed gan Gymru yn nhermau'r nifer o fedalau enillwyd.
Cyfeiriadau
golygu- ↑ https://www.heraldscotland.com/news/13171590.the-games-opens-a-ceremony-of-gallusness-with-a-powerful-charity-theme/
- ↑ "Glasgow 2014: David Katoatau claims first ever Ciribati medal published=BBC Sport". 2014-07-30.
- ↑ "Chad le Clos reaches seven medal target". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2015-10-22. Cyrchwyd 2014-08-10. Unknown parameter
|published=
ignored (help) - ↑ "Patricia Bezzoubenko wins 6th medal at Commonwealth Games". 2014-07-26. Unknown parameter
|published=
ignored (help) - ↑ "Gwobr olaf y gemau yn mynd i Frankie Jones". 2014-08-04. Unknown parameter
|Published=
ignored (help) - ↑ "The Gambia withdraw from Glasgow 2014". 2013-10-07. Unknown parameter
|published=
ignored (help) - ↑ "Commonwealth Games 2014 team has been finalised". 2014-07-04. Unknown parameter
|Published=
ignored (help)
Gweler hefyd
golyguDolenni allanol
golygu- (Saesneg) Gwefan swyddogol Gemau'r Gymanwlad Archifwyd 2008-07-23 yn y Peiriant Wayback
- (Saesneg) Cyngor Gemau Gymanwlad Cymru
Rhagflaenydd: Delhi Newydd |
Gemau'r Gymanwlad Lleoliad y Gemau |
Olynydd: Gold Coast,Queensland |