Donald Trump

45ed Arlywydd yr Unol Daleithiau rhwng 2017 a 2021

Gwleidydd a dyn busnes o'r Unol Daleithiau yw Donald Trump (ganwyd 14 Mehefin 1946), sy'n arlywydd-ethol yr Unol Daleithiau. Roedd e'n 45ed Arlywydd Unol Daleithiau America rhwng 2017 a 2021. Methodd gael ei ail-ethol yn 2020 ac roedd Joe Biden yn enillydd clir. Er hynny gwrthododd Trump ganlyniad yr etholiad gan geisio herio y pleidleisiau mewn sawl talaith. Ni ildiodd hyd y diwedd a gadawodd y Tŷ Gwyn heb gyfarfod ei olynydd, gan wrthod mynd i seremoni urddo Biden, er fod Is-Arlywydd Mike Pence yno.[1]

Donald Trump
FfugenwJohn Barron, John Miller, The Donald, David Dennison Edit this on Wikidata
GanwydDonald John Trump Edit this on Wikidata
14 Mehefin 1946 Edit this on Wikidata
Jamaica Hospital Medical Center Edit this on Wikidata
Man preswylTrump Tower, Mar-a-Lago, y Tŷ Gwyn, Manhattan, Efrog Newydd, Queens, Palm Beach, Jamaica Estates Edit this on Wikidata
DinasyddiaethUnol Daleithiau America Edit this on Wikidata
AddysgBaglor mewn Gwyddoniaeth Edit this on Wikidata
Alma mater
  • Prifysgol Fordham
  • Coleg Wharton
  • The Kew-Forest School
  • New York Military Academy
  • Prifysgol Pennsylvania Edit this on Wikidata
Galwedigaethentrepreneur busnes, buddsoddwr, perchennog bwyty, gwleidydd, game show host, entrepreneur eiddo tiriog, cynhyrchydd teledu, cynhyrchydd ffilm, llenor, actor, prif weithredwr, masnachwr, person busnes, entrepreneur Edit this on Wikidata
SwyddArlywydd yr Unol Daleithiau, Arlywydd-etholedig yr Unol Daleithiau, prif weithredwr, llywydd corfforaeth, cyfarwyddwr, Arlywydd-etholedig yr Unol Daleithiau, Arlywydd yr Unol Daleithiau Edit this on Wikidata
Adnabyddus amTrump: The Art of the Deal, Crippled America, The Apprentice Edit this on Wikidata
Arddullgwrywaidd Edit this on Wikidata
Taldra1.9 metr, 74 modfedd, 75 modfedd, 180.33 centimetr, 190 centimetr Edit this on Wikidata
Pwysau215 pwys Edit this on Wikidata
Plaid Wleidyddolplaid Weriniaethol, Reform Party of the United States of America, plaid Ddemocrataidd, plaid Weriniaethol, Annibynnwr, plaid Weriniaethol Edit this on Wikidata
Mudiadright-wing antiglobalism, isolationism, American patriotism, anti-gender movement, opposition to immigration, right-wing populism Edit this on Wikidata
TadFred Trump Edit this on Wikidata
MamMary Anne MacLeod Trump Edit this on Wikidata
PriodIvana Trump, Marla Maples, Melania Trump Edit this on Wikidata
PlantDonald Trump Jr., Ivanka Trump, Eric Trump, Tiffany Trump, Barron Trump Edit this on Wikidata
PerthnasauJohn G. Trump, Elizabeth Christ, Jared Kushner, Lara Trump, Vanessa Trump, Mary L. Trump, John Whitney Walter Edit this on Wikidata
Llinachfamily of Donald Trump Edit this on Wikidata
Gwobr/auseren ar Rodfa Enwogion Hollywood, Jewish National Fund Tree of Life Award, Ellis Island Medal of Honor, Person y Flwyddyn Time, Doublespeak Award, Gaming Hall of Fame, Neuadd Enwogion WWE, King Abdulaziz Medal, Presidential Order of Excellence, Gwobr Golden Raspberry i'r Actor Wrth Gefn Gwaethaf, Doublespeak Award, Gwobr Ig Nobel, Gwobr Time 100, Order of Mohammed, Order of Freedom, Urdd Abdulaziz al Saud, Person y Flwyddyn y Financial Times, Gwobr Time 100, Gwobr Time 100, Gwobr Time 100, Gwobr Time 100, Gwobr Time 100, Person y Flwyddyn Time Edit this on Wikidata
Gwefanhttps://donaldjtrump.com Edit this on Wikidata
Chwaraeon
llofnod
Delwedd:Donald Trump Signature.svg, Signatures of President Donald Trump, Rodney Scott and Brian Hastings on a piece of paper placed on the Texas-Mexico border wall on January 12, 2021 - (50849560102) (cropped).jpg

Enillodd yr etholiad ar 8 Tachwedd 2016 gan ddilyn yr arlywydd Obama, gan gynrychioli'r Gweriniaethwyr. Yn wahanol i bob arlywydd o'i flaen roedd yn siarad heb ymgynghori, yn ddi-flewyn ar dafod, yn aml mewn trydar, gan ddefnyddio iaith dyn y stryd e.e. ar 20 Medi 2017 galwodd arweinydd Gogledd Corea yn rocket man. Fe wnaeth Trump nifer fawr o ddatganiadau anghywir, a hynny'n gyhoeddus.[2][3][4] Yn ystod chwe mis cyntaf ei arlywyddiaeth, cafwyd llawer o gyhuddiadau ei fod ef a'i deulu'n defnyddio'r swydd i wneud arian, ei fod yn anwadal a'i fod wedi cydweithio gyda Rwsia i ddylanwadu ar yr etholiad ym yr arlywyddiaeth.[5]

Mae Trump hefyd yn ddyn busnes, yn awdur ac yn bersonoliaeth amlwg ar y teledu. Ef yw Cadeirydd a Phrif Weithredwr (CEO) y Trump Organization, sefydliad sy'n datblygu eiddo yn yr Unol Daleithiau. Ef hefyd yw sefydlydd y Trump Entertainment Resorts, sy'n gweithredu nifer o gasinos a gwestai ar draws y byd. Mae bywyd afradlon ac agwedd ddi-flewyn-ar-dafod Trump wedi'i wneud yn enwog yn llygad y cyhoedd am flynyddoedd, ac yn y 2010au bu'n gyflwynydd a chynhyrchydd gweithredol ei sioe realiti The Apprentice ar NBC. Yn ôl Forbes, roedd ganddo US$3.7 biliwn yn 2016 ac ef oedd 324fed person cyfoethocaf y byd. Cyn gynted ag y dyrchafwyd ef yn arlywydd, dirprwyodd rheolaeth o'i gwmnïau i'w feibion Donald Jr. ac Eric.

Trump oedd dewis y Blaid Weriniaethol ar gyfer arlywyddiaeth yr Unol Daleithiau yn 2016 gan gyd-redeg gyda llywodraethwr talaith Indiana, Mike Pence a benodwyd, wedi'r etholiad, yn ddirprwy iddo.[6]

Yn dilyn ei ethol yn arlywydd cafwyd protestiadau ledled y byd. Ychydig o bobl ddaeth i'r seremoni urddo ar 20 Ionawr 2017: llawer llai nad yn seremoni Obama. Yn ystod ei wythnos gyntaf yn ei swydd arwyddodd chwe gorchymyn: y cyntaf oedd gorchymyn i ddileu'r gofal am gymuned dlawd UDA o ran iechyd a gofal, a adnabyddid fel 'Obamacare'. Dileodd y Partneriaeth Masnach a Buddsoddiad TrawsIwerydd a lansiodd ei gynllun i godi wal rhwng yr UD a Mecsico.

Gwragedd a phlant

golygu
 
Melania Trump yn Chwefror 2011

Priododd Trump ei wraig cyntaf, Ivana, ym 1977, ond ysgarodd y ddau ym 1992. Mam Donald Trump, Jr., Ivanka Trump ac Eric Trump yw Ivana. Yna bu'n briod gyda'r actores Marla Maples (g. 1963) rhwng 1993 a 1999; mam Tiffany Trump. Priododd y fodel Melania Knauss (g. 1970) yn 2005; mam Barron Trump.

Ymgeisio am arlywyddiaeth yr UDA, 2016

golygu

Cyhoeddodd Trump ei fwriad i ymgeisio am arlywyddiaeth yr Unol Daleithiau ddiwrnod ar ôl ei ben-blwydd ar y 16ed o Fehefin 2015.[7][8] Lansiodd ei ymgyrch etholiadol gyda'r slogan "We are going to make our country great again".[8][9] Ar 3 Mai 2016 enillodd y bleidlais yn Indiana o fwyafrif sylweddol a phenderfynodd ei gystadleuwyr Ted Cruz a John Kasich dynnu allan o'r ras. Fe'i ddewiswyd fel ymgeisydd swyddogol y Gweriniaethwyr yng Nghynhadledd y Gweriniaethwyr ar 19 Gorffennaf 2016.

Ymladdodd y sedd gyda barn eithafol, ceidwadol, yn enwedig mewn materion ariannol a chrefyddol ac roedd yn llafar iawn ei gariad a'i wladgarwch tuag at America, ac yn llawdrwm tuag at tramorwyr, aml-ddiwylliant a "chywirdeb gwleidyddol".[10] [11][12][13] Cafwyd sawl rali ar gychwyn ei ymgyrch lle gwelwyd gwrthdaro a phrotestiadau yn ei erbyn, tu fewn a thu allan i'r man ymgynnull.[14][15]

Oherwydd ei farn eithafol derbyniodd mwy na'r arfer o sylw gan y cyfryngau. Gwnaeth lawer o sylwadau sy'n cael eu hamau e.e. dywed Politico (Gorsaf deledu, gwefan a chylchgrawn) iddo wneud sylwadau anghywir, gan gamarwain y gwrandawyr ("mischaracterizations, exaggerations, or simply false").[10] Defnyddion nhw'r gair 'celwydd' i ddisgrifio llawer o'i ddatganiadau, a defnyddiwyd y gair hwn hefyd gan The Washington Post, The New York Times, a'r Los Angeles Times.[16] Yn y byd gwerthu a phrynu tir ac eiddo y gwnaeth Trump ei arian, ac yno y daeth yn feistr o ddefnyddio gormodiaith, yn ôl y newyddiadurwyr James Oliphant ac Emily Flitter. Amddiffyniad Trump oedd mai "Gormodiaith gwir" ("truthful hyperbole") roedd yn ei ddefnyddio.[17][18]

Honiadau

golygu

Honiadau rhywiol

golygu

Ar 7 Hydref 2016, deuddydd cyn y ddadl arlywyddol rhyngddo a Hillary Clinton, ei wrthwynebydd, rhyddhawyd ffilm ohono a dynnwyd yn 2005; ar y ffilm, gwnaeth nifer o honiadau ac ensyniadau rhywiol yn erbyn merched, gan ddweud "I just start kissing them.... I don't even wait. And when you're a star, they let you do it, you can do anything ... grab them by the pussy."[19] Dywedodd hefyd ei fod wedi ceisio hud-ddenu merch briod i berthynas. Disgrifiwyd ei ymddygiad yn y wasg fel 'ymosodiad rhywiol llafar' a 'di-chwaeth'. Yn dilyn hyn, ymddiheurodd Trump.[20] Gwelwyd nifer o aelodau ei blaid yn ymddiswyddo neu'n galw ar Trump i ymddiswyddo.[21]

Yn dilyn rhyddhau'r ffilm gwnaeth 11 o ferched honiadau fod Trump wedi camymddwyn yn rhywiol tuag atynt.[22] Ymhlith yr honiadau yr oedd ei fod wedi cyffwrdd yn anweddus a chusanu heb gytundeb; roedd hyn yn ychwanegol i honiadau a wnaed cyn yr ymgyrch arlywyddol, rhai honiadau o dreisio rhywiol.[23][24] Ymateb Trump oedd fod yr honiadau yn "false smears" a bod yma gynllwyn yn ei erbyn ("a conspiracy against [...] the American people").[25]

Arlywyddiaeth

golygu

Ar 8 Tachwedd 2016 daeth Donald Trump yn 45ed arlywydd yr Unol Daleithiau, gan ddilyn yr arlywydd Obama. Ar 10 Tachwedd, yn dilyn ei ethol yn arlywydd, cyfarfu ag Obama i drafod y cyfnod o drosi'r awenau o'r naill i'r llall, gyda'r nod o wneud y trawsnewid mor llyfn a phosibl. Adroddodd y The New York Times i'r cyfarfod fod yn un cynnes iawn ("It was an extraordinary show of cordiality and respect between two men who have been political enemies and are stylistic opposites.")[26] Ond mynnodd y BBC fod y ffotograffau ohonynt yn dangos perthynas letchwith.[27]

Apwyntiadau

Ymhlith y swyddogion a apwyntiwyd i'r Tŷ Gwyn gan Trump mae: Reince Priebus (Pennaeth Staff y Tŷ Gwyn) a Steve Bannon fel ei Brif Strategydd.

Ar lefel Cabined, penododd Jeff Sessions fel y Twrnai Cyffredinol a Michael Flynn fel Ymgynghorydd Materion Diogelwch, Betsy DeVos fel Ysgrifennydd Addysg a Nikki Haley fel Llysgennad i'r Cenhedloedd Unedig.

Yn ôl Politico a Newsweek, mae cabined Trump yn dîm Ceidwadol iawn ("conservative dream team")[28] a'r "cabined mwyaf Ceidwadol yn hanes UNA".[29] Ar y llaw arall, dywedodd The Wall Street Journal ei bod yn amhosib deall yr ideoleg y tu ôl i benodiadau'r cabined.[30] Penodwyd nifer o gyn-weithwyr Goldman Sachs (Steven Mnuchin, Steven Bannon, a Gary Cohn) a sawl cadfridog (Michael T. Flynn, James Mattis, a John F. Kelly. Beirniadwyd hyn gan nifer o sylwebyddion gan fod rheol anysgrifenedig mai sifiliaid ddylai reoli'r corfflu milwrol.

Y 100 diwrnod cyntaf

Fel arlywydd, mae Trump wedi gwneud nifer o ddatganiadau anghywir, a hynny'n gyhoeddus.[2][3][4] Ynganodd o "leiaf un 'ffaith' anghywir neu a gamarweiniol pob dydd ar 91 allan o'r can diwrnod cyntaf".[2][3]

Yn ystod ei wythnos gyntaf fel arlywydd, arwyddodd chwech executive order. Y gorchymyn cyntaf oedd paratoad ar gyfer dileu Obamacare. Yn ystod yr un wythnos tynnodd allan o Bartneriaeth y Môr Tawel (Trans-Pacific Partnership), ail-gyflwynodd Polisi Dinas Mecsico, sefydlodd brosiectau pibell olew Keystone XL a Dakota ac arwyddodd orchymyn i ddechrau'r gwaith o gynllunio a chodi wal ar y ffin â Mecsico.

COVID-19

Dywedodd Donald Trump ei fod yn credu bod y coronafirws yn tarddu o labordy yn Wuhan, Tsieina. Fe'i galwodd yn "firws Tsieineaidd". Ym mis Hydref 2020 aeth Trump i'r ysbyty am rai dyddiad wedi dal y firws. Profodd Trump a'i wraig Melania yn bositif am Covid-19[31] Roedd Trump, ei ddirprwy Mike Pence a phobol sy’n dod i gysylltiad â nhw’n rheolaidd yn cael eu profi’n ddyddiol.

Yn y dyddiau wedi'r etholiad ar 3 Tachwedd 2020, gwnaeth Trump sawl honiad o dwyll etholiadol wrth i'r pleidleisiau gael eu cyfri, er na chyflwynodd unrhyw dystiolaeth o hyn. Bygythiodd gymeryd camau cyfreithiol mewn sawl talaith lle roedd cyfanswm y pleidleisiau i'w wrthwynebydd Joe Biden yn cynyddu. Ar 7 Tachwedd 2020 datganodd sawl sianel newyddion a dadansoddwyr ystadegol fod Biden wedi ennill digon o bleidleisiau, ond ni ildiodd Trump, gan barhau i ddadlau ei fod wedi 'ennill' yr etholiad.[32]

Uchelgyhuddo

golygu

Ar 12 Gorffennaf 2017 cyflwynodd Cynrychiolydd Califfornia, Brad Sharman, erthygl o uchelgyhuddiad (article of impeachment) yn ffurfiol, H. Res. 438,[33] gan gyhuddo'r arlywydd o geisio atal cyfiawnder parthed yr ymchwiliad i ymyrraeth honedig y Rwsiaid yn etholiad yr arlywydd yn 2016.[5]

Ar 18 Rhagfyr 2019, fe uchel-gyhuddwyd Trump gan Dŷ'r Cynrychiolwyr ar ddau gyfrif gyda pleidlais o 230-197 ar gyhuddiad o gamddefnyddio grym a 229-198 ar gyhuddiad o rwystro'r Gyngres. Roedd gan y Democratiaid fwyafrif yn y Tŷ yn dilyn etholiadau 2018, ond roedd gan y Gweriniaethwyr fwyafrif yn y Senedd. Aeth yr Arlwywydd ar brawf yn y Senedd lle'r oedd angen mwyafrif o 2/3 i'w gael yn euog. Wedi'r ddadl fe'i gafwyd yn ddi-euog o 52–48 pleidlais ar y cyhuddiad cyntaf a 53–47 ar yr ail. Yr unig Weriniaethwr a bleidleisiodd o blaid euog oedd Mitt Romney.

Ar 6 Ionawr 2021, roedd cyrch arfog a threisgar ar adeilad y Capitol yn dilyn araith Arlywydd Trump i'w gefnogwyr o flaen y Tŷ Gwyn. Ni gymerodd gyfrifoldeb am y digwyddiad ac roedd yn dal i wadu fod Joe Biden wedi ennill yr etholiad diweddar. Aeth y Democratiaid yn Nhŷ'r Cynrychiolwyr ati yn gyflym i drefnu uchel-gyhuddiad arall ar gyhuddiad o annog gwrthryfel, a cyhoeddodd rhai Gweriniaethwyr y bydden nhw yn cefnogi'r cais.

Wedi'r ddadl ar 13 Ionawr 2010, fe uchel-gyhuddwyd Trump eilwaith, y tro cyntaf i hynny ddigwydd i Arlywydd yr Unol Daleithiau. Y tro hwn, roedd 222 o blaid gan gynnwys 10 Gweriniaethwr a 197 yn erbyn.[34]

Ymgais i lofruddio

golygu

Ar 13 Gorffennaf 2024, gwnaed ymgais i saethu Trump, yn ystod rali Plaid Gweriniaethol. Roedd y fwled yn pori clust Trump. Yr un a ddrwgdybir oedd Thomas Matthew Crooks, yn 20 oed.[35]

Yn ystod ymgyrch etholiadol 2024, gwnaeth Trump lawer o sylwadau sarhaus am fewnfudwyr.[36][37] Dywedodd fod rhai ymfudwyr "Ddim yn Bobl" ac yn rhagweld "Gwaedlif" pe bai'n colli'r etholiad. Cafodd gefnogaeth y miliwnydd Elon Musk.[38]

Cyfeiriadau

golygu
  1. Donald Trump yn colli achos llys yn Wisconsin , Golwg360, 13 Rhagfyr 2020. Cyrchwyd ar 20 Ionawr 2021.
  2. 2.0 2.1 2.2 Linda Qiu, Fact-Checking President Trump Through His First 100 Days, New York Times (29 Ebrill 2017).
  3. 3.0 3.1 3.2 Glenn Kessler & Michelle Ye Hee, President Trump's first 100 days: The fact check tally, Washington Post (Dydd Calan 2017).
  4. 4.0 4.1 Linda Qiu, In One Rally, 12 Inaccurate Claims From Trump. New York Times (22 Mehefin 2017).
  5. 5.0 5.1 Marcos, Cristina (12 Gorffennaf 2017). "House Democrat files article of impeachment against Trump". The Hill. Cyrchwyd 12 Gorffennaf 2017.
  6. Enwebu Trump yn swyddogol gan y Gweriniaethwyr , Golwg360, 20 Gorffennaf 2016.
  7. Reid J. Epstein (June 16, 2015)."Donald Trump Enters 2016 Presidential Race". The Wall Street Journal.
  8. 8.0 8.1 John Santucci and Veronica Stracqualursi (16 Mehefin 2015). "Donald Trump Announces 2016 Presidential Campaign: "We Are Going Make our Country Great Again". ABC News.
  9. Full text: Donald Trump announces a presidential bid. The Washington Post, 16 Mehefin 2015.
  10. 10.0 10.1 Gass, Nick (20 Awst 2015). "Trump defends himself: I'm a conservative". Politico.
  11. Itkowitz, Colby (9 Rhagfyr 2015). "Donald Trump says we're all too politically correct. But is that also a way to limit speech?". The Washington Post.
  12. Krieg, Gregory (August 25, 2016). "Clinton is attacking the 'Alt-Right' – What is it?". CNN. Cyrchwyd August 25, 2016.
  13. Sevastopulo, Demetri. "'Alt-right' movement makes mark on US presidential election". Financial Times.
  14. "Trump supporter charged after sucker-punching protester at North Carolina rally". The Washington Post. 11 Mawrth 2016. Cyrchwyd 31 Awst 2016.
  15. "Ugly, bloody scenes in San Jose as protesters attack Trump supporters outside rally". The Washington Post. 3 Mehefin 2016. Cyrchwyd 31 Awst 2016.
  16. Stelter, Brian (26 Medi 2016). "The weekend America's newspapers called Donald Trump a liar". CNN.
  17. Flitter, Emily; Oliphant, James (August 28, 2015). "Best president ever! How Trump's love of hyperbole could backfire". Reuters. Trump's penchant for exaggeration could backfire – he risks promising voters more than he can deliver....Optimistic exaggeration...is a hallmark of the cutthroat New York real estate world where many developers, accustomed to ramming their way into deals, puff up their portfolios. 'A little hyperbole never hurts,' he wrote....For Trump, exaggerating has always been a frequent impulse, especially when the value of his Trump brand is disputed.
  18. Agence France-Presse (August 16, 2016). "Trump tics: Making hyperbole great again". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2017-04-29. Cyrchwyd 2016-11-02 – drwy Yahoo! News.
  19. Fahrenthold, David A. (October 8, 2016). "Trump recorded having extremely lewd conversation about women in 2005". The Washington Post.
  20. Burns, Alexander; Haberman, Maggie; Martin, Jonathan (7 Hydref 2016). "Donald Trump Apology Caps Day of Outrage Over Lewd Tape". The New York Times. Cyrchwyd 8 Hydref 2016.
  21. Blake, Aaron (October 8, 2016). "Here's the fast-growing list of Republicans calling for Donald Trump to drop out". Washington Post. Cyrchwyd 8 Hydref 2016.
  22. Nelson, Libby; Frostenson, Sarah (Oct 20, 2016). "A brief guide to the 17 women Trump has allegedly assaulted, groped or harassed". Vox Media. Vox. Cyrchwyd October 21, 2016.
  23. Byers, Dylan (12 Hydref 2016). "Donald Trump threatens to sue New York Times over sexual harassment report". CNNMoney. Cyrchwyd 13 Hydref 2016.
  24. "Trump demands NYT retracts 'libelous article' about alleged assault as new claims emerge". Fox News. 13 Hydref 2016. Cyrchwyd 13 Hydref 2016.
  25. Healy, Patrick; Rappeport, Alan (13 Hydref 2016). "Donald Trump Calls Allegations by Women 'False Smears'". The New York Times. Cyrchwyd 13 Hydref 2016.
  26. Davis, Julie (Tachwedd 2016). "Trump and Obama Hold Cordial 90-Minute Meeting in Oval Office". The New York Times. Cyrchwyd 10 Tachwedd 2016.
  27. "Donald Trump meets Barack Obama – five awkward photos". BBC. 10 Tachwedd 2016. Cyrchwyd 7 Ionawr 2017.
  28. Restuccia, Andrew; Cook, Nancy; Woellert, Lorraine (November 30, 2016). "Trump's Conservative Dream Team". Politico. Cyrchwyd 30 Tachwedd 2016.
  29. Cooper, Matthew (9 Rhagfyr 2016). "Donald Trump Is Building the Most Conservative Presidential Cabinet In U.S. History". Newsweek. Cyrchwyd 10 Rhagfyr 2016.
  30. Seib, Gerald (December 5, 2016). "Donald Trump Shuffles the Ideological Deck". The Wall Street Journal. Cyrchwyd 5 Rhagfyr 2016.
  31. "Donald Trump yn yr ysbyty". Golwg360. Cyrchwyd 6 Hydref 2020.
  32. Donald Trump yn dweud bod yr etholiad “ymhell o fod drosodd” , Golwg360, 7 Tachwedd 2020.
  33. "H Res 438 Article of Impeachment" (PDF). Cyrchwyd 13 Gorffennaf 2017.
  34. Trump's turbulent and lawless presidency will end with historic second impeachment (en) , CNN, 13 Ionawr 2020.
  35. BBC News. 13 Gorffennaf 2024 https://www.bbc.co.uk/news/articles/cd1d31jeyzlo. Cyrchwyd 14 Gorffennaf 2024. Missing or empty |title= (help)
  36. Oliphant, James (4 Hydref 2024). "Trump's already harsh rhetoric on migrants is turning darker as Election Day nears". Reuters. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 5 Hydref 2024. Cyrchwyd 5 Hydref 2024.
  37. Phifer, Donica (3 Hydref 2024). "Trump floats deporting legal Haitian migrants living in Ohio". Axios. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 5 Hydref 2024. Cyrchwyd 5 Hydref 2024.
  38. Durkee, Alison (25 Hydref 2024). "Elon Musk Is Now Trump's 2nd-Biggest Financial Backer: Donates Nearly $120 Million To Super PAC". Forbes (yn Saesneg).