Uned sylfaenol y System Ryngwladol o Unedau yw'r amper (symbol: A), a ddefnyddir i fesur cryfder cerrynt trydanol.[1]

Amper
Enghraifft o'r canlynolunedau sylfaenol SI, uned sy'n deillio o UCUM, unit of electric current Edit this on Wikidata
Rhan osystem o unedau MKSA Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia
Defnyddir "galfanomedr" i fesur cerrynt trydanol, gyda nodwydd magnetig yn cael ei symud gan y cerrynt, ac felly'n rhoi darlleniad o'r ampers.

Tardd yr enw o enw tad electrodeinameg, sef André-Marie Ampère (1775–1836), mathemategydd a ffisegydd Ffrengig. Yn ymarferol, caiff yr enw'i dalfyru'n amp (lluosog Cymraeg: amps).

Diffiniad

golygu

Yn ymarferol, gellir diffinio amper fel mesur o hyn-a-hyn o wefr trydanol yn pasio heibio i ryw bwynt neu'i gilydd am rhyw gyfnod (neu uned) o amser h.y. mae tua 6.241 × 1018 o electronau'n pasio heibio rhyw bwynt penodol yn gyfystyr ag amp.[2]

Mae Deddf grym Ampere (Saesneg: Ampère's force law) yn hawlio fod grym atynol yn bodoli rhwng dwy weiren cyfochrog sy'n dargludo cerrynt trydanol. Cynhwysir y grym atynol hwn yn y diffiniad swyddogol o'r amper; sef "cerrynt cyson sy'n cynhyrchu grym atynol o 2 × 10–7 newton (uned) y fetr, o ran hyd, a hynny rhwng dau dargludydd syth, cyfochrog... wedi'u gosod un fetr oddi wrth ei gilydd mewn faciwm.[3]

Yn nhermau mathemateg, gellir diffinio Deddf Grymiant Ampere fel:

 

felly:

 

Diffinnir uned SI gwefr (sef y coulomb) fel, "hyn-a-hyn o drydan sy'n llifo mewn un eiliad gan gerrynt o un ampere."[4] Ar y llaw arall, mae cerrynt o un ampere yn wefr o un coloumb sy'n pasio rhyw bwynt neu'i gilydd am gyfnod o un eiliad:

 

I gyffredinoli, mae gwefr Q wedi ei ddiffinio gan gerrynt cyson I sy'n llifo dros gyfnod o amser t fel Q = It.

Cyfeiriadau

golygu
  1. Diffiniad swyddogol BIPM
  2. David Bodanis, Electric Universe (New York: Three Rivers Press, 2005)
  3. Paul M. S. Monk, Physical Chemistry: Understanding our Chemical World (John Wiley and Sons, 2004) gwefan
  4. Bureau International des Poids et Mesures, The International System of Units (SI) (8th ed., 2006), tud. 144
  Eginyn erthygl sydd uchod am ffiseg. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.