Y wermod lwyd I godi archwaeth; BYD NATUR.
D WI'N siwr eich bod chi'n gyfarwydd a 'Border Bach' Crwys, yn dydach?Mae'n gerdd sy'n dwyllodrus o seml, yn dydi? Nenwedig pan mae o'n cyfeirio at y
"Gwreiddyn bach gan hwn a hon
Yn awr ac yn y man
Fel yna'n ddigon syml
Y daeth yr Eden fach i'w rhan."
Ac yna mae o'n mynd ati i'w henwi nhw'n gelfydd iawn:
"Dwy neu dair briallen ffel
A daffodil bid siwr,
A'r cyfan yn y border bach
Dan ofal ryw hen wr."
Roedd yr hen wr yn blanhigyn yr arferid ei dyfu'n gyffredin mewn gerddi erstalwm. Yr enw gwyddonol arno fo ydi Artemisia abrotanum, 'Southernwood' yn Saesneg, a brytwn neu lysiau'r cyrff ydi enwau eraill arno fo yn Gymraeg.
Mi roedd pobl yn arfer defnyddio'r hen wr mewn oes pan oedd pawb yn gorfod talu am fynd i weld y meddyg, ac roedd pres yn brin. Roedd yr hen wr yn cael ei ddefnyddio fel perlysieuyn er mwyn cadw pryfetach i ffwrdd oddi wrth ddillad - a chadw gwyfynod draw yn benodol. Mae o hefyd wedi cael ei ddefnyddio at lyngyr yn y stumog - y llyngyr edau, ac mi fedrwch chi ychwanegu'r dail at ddwr y bath i drin anhwylderau'r croen. Dwi hefyd wedi clywed amrai yn gwneud eli drwy gymysgu'r dail wedi'u torri'n fan hefo lard, a'i ddefnyddio i wella briwiau.
Mae Meddygon Myddfai yn cyfeirio at 'lysiau'r corph' fel meddyginiaeth ar gyfer 'un a fo'n dywedyd yn ei gwsg': "Cymmer lysiau'r corph, a phwya hwy'n fal ag yn dda, yna dod atynt win neu hen fedd cadarn, a hidla'n galed, ag yfed y claf o hono'r bore ac wrth fyned i gysgu."
Un arall o'r planhigion roedd yr hen bobol yn gwneud defnydd helaeth ohono fo oedd y wermod lwyd. Dwi'n cofio cael hwn fy hun pan oeddwn i'n blentyn. A blas ofnadwy oedd arno fo hefyd. Roedd yn gas gen i'r trwyth - roedd o'n ddychrynllyd o chwerw. Os byddwn i'n fisi ac yn cau bwyta fy mwyd mi fyddai'n cael ei roi i mi i godi archwaeth at fwyd ac roeddwn i'n casau ei lyncu o. Artemisia absinthiumydi'r enw gwyddonol arno fo.
Mae'r wermod lwyd wedi'i ddefnyddio at drin anhwylderau'r stumog ag at drin llyngyr. Un defnydd sydd wedi cael ei wneud ohono fo ydi i gael gwared a'r llyngyren gron Ascaris lumbricoides o'r corff. Mae gwyddonwyr yn amcangyfrif fod tua 25% o boblogaeth y byd hefo'r llyngyren yma, sy'n byw yn y coluddyn bach.
Mae'r wermod lwyd yn ffordd gydnabyddedig o gael gwared a'r llynghyren gron o'r corff. Mae llysiau sy'n cael eu defnyddio fel hyn yn cael yr enw posh 'anthelmintics'. Y gair Groeg am lynghyren ydi 'helminth'. Mae 'na blanhigion eraill hefyd sy'n cael eu defnyddio 'run fath, er enghraifft y farchredynen gyffredin, garlleg a'r tansi. Y broblem fawr hefo defnyddio'r math yma o feddyginiaeth ydi fod yn rhaid i chi ofalu eich bod chi'n rhoi digon o ddos i gael gwared a'r llyngyr - ond dim gormod i wneud drwg i'r claf.
Ond mae 'na berygl wrth gymryd y wermod lwyd hefyd. Os ydach chi'n cymryd gormod ohono fo, mi lasa achosi poenau yn y stumog a thaflu i fyny. A ddylai oedolion ddim cymryd mwy na llond llwy fwrdd o'r stwff bob dydd.
Mae o wedi cael ei ddefnyddio fel pla laddwr, ac fel diheintydd. Mae 'na hanes amun ty lle roedd rhywun yno wedi dioddef o'r dwymyn goch ('y scarlet fever'), ac roedden nhw wedi rhoi'r wermod lwyd mewn dwr a defnyddio'r dwr wedyn i sgwrio'r llawr a phobman arall er mwyn diheintio.
Am ei fod o wedi cael ei ddefnyddio i godi archwaeth at fwyd, mae o wedi cael ei ddefnyddio i drin sawl anhwylder, gan gynnwys anorecsia. Mae o hefyd wedi cael ei ddefnyddio fel tonic, at anwyd, i drin colig ac i drin rhywun sy'n methu cysgu.
'Defnyddio'r hen wr mewn oes pan oedd pawb yn gorfod talu am fynd i weld y meddyg'
CAPTION(S):
PLANHIGION LLESOL: Yr Hen Wr (Artemisia abrotanum) ac (yn y llun bach) y Wermod lwyd (Artemisia absinthium). Lluniau: BETHAN WYN JONES
![]() ![]() ![]() ![]() | |
Publication: | Daily Post (Liverpool, England) |
---|---|
Date: | Aug 15, 2007 |
Words: | 677 |
Previous Article: | LLYTHYRAU: Atgofion melys o gloch y goleudy; BYD NATUR. |
Next Article: | Colli un o gymwynaswyr y Gymdeithas; BYD NATUR. |