Felicity Evans appointed new BBC Cymru Wales Political Editor
BBC Cymru Wales has appointed Felicity Evans as its new Political Editor.
I’m delighted to welcome Felicity to this role. She is an outstanding journalist who will be fearless in asking questions on behalf of the audience.
Originally from Ebbw Vale, Felicity studied law at Oxford University before studying journalism at Cardiff University. She has worked as a journalist at BBC Wales since 1996.
Felicity currently presents Good Morning Wales and Good Evening Wales on BBC Radio Wales, as well as working on a range of current affairs programmes for BBC Wales and has previously worked on BBC Network programmes including Farming Today on Radio 4 and Newshour on World Service.
Garmon Rhys, Head of News and Current Affairs, BBC Cymru Wales, says: “I’m delighted to welcome Felicity to this role. She is an outstanding journalist who will be fearless in asking questions on behalf of the audience. She brings intelligence, curiosity and a passion for making politics engaging to audiences across Wales.”
Felicity Evans, Political Editor, BBC Cymru Wales, says: “I’m as excited as I am privileged to be appointed BBC Cymru Wales Political Editor. I have big shoes to fill but I’m lucky that I have so many talented and committed colleagues to work alongside in the political unit and across the newsroom. This is a time of great change in Welsh, British and International politics and, more than ever, our audiences need to know we’re going in to bat for them in scrutinising the people whose decisions affect all our lives. That’s exactly what we’re going to do.”
GE
Felicity Evans yw Golygydd Gwleidyddol newydd BBC Cymru Wales
Mae BBC Cymru Wales wedi penodi Felicity Evans yn Olygydd Gwleidyddol.
Yn wreiddiol o Lyn Ebwy, fe astudiodd Felicity y Gyfraith ym Mhrifysgol Rhydychen cyn astudio newyddiaduraeth ym Mhrifysgol Caerdydd. Y mae wedi gweithio i adran newyddion BBC Cymru ers 1996.
Mae Felicity yn cyflwyno Good Morning Wales a Good Evening Wales ar BBC Radio Wales, yn ogystal ag ystod o rhaglenni materion cyfoes ar gyfer BBC Cymru. Bu hefyd yn gweithio ar raglenni i rwydwaith y BBC, gan gynnwys Farming Today ar Radio 4 a Newshour ar y World Service.
Dywedodd Pennaeth Newyddion a Materion Cyfoes BBC Cymru Wales Garmon Rhys: “Rwy’n hynod o falch o groesawu Felicity i’r swydd hon. Mae hi’n newyddiadurwraig arbennig fydd yn ddi-ofn wrth ofyn cwestiynau ar ran y gynulleidfa. Mae hi’n ddeallus, yn chwilfrydig ac angerddol dros gyfathrebu’r byd gwleidyddol i gynulleidfaoedd ar draws Cymru.”
Dywedodd Golygydd Gwleidyddol BBC Cymru Wales Felicity Evans: “Rwy’n teimlo’n gyffrous ac yn freintiedig o gael fy mhenodi yn Olygydd Gwleidyddol BBC Cymru. Mae gennyf esgidiau mawr i’w llenwi ond rwy’n lwcus fod gen i gymaint o gydweithwyr talentog ac ymroddgar i weithio ochr yn ochr â mi yn yr uned wleidyddol ac ar draws yr ystafell newyddion. Mae hi’n amser o newid mawr i wleidyddiaeth Cymru, Prydain ac yn rhyngwladol, ac yn fwy nag erioed mae angen i’n cynulleidfaoedd wybod ein bod ni’n gweithio ar eu rhan wrth i ni graffu ar yr unigolion sydd yn cymryd y penderfyniadau sy’n effeithio eu bywydau. Dyna’n union rydym ni’n mynd i’w wneud.”
GE