rhew
Gwedd
Cymraeg
Cynaniad
- yn y Gogledd: /r̥eːu̯/
- yn y De: /r̥ɛu̯/
Geirdarddiad
Celteg *φreswos o'r gwreiddyn Indo-Ewropeg *preus- ‘rhewi’ a welir hefyd yn y Lladin pruīna ‘rhew’, y Saesneg freeze ‘rhewi’ a'r Sansgrit pruṣvā́, prúṣvā ‘diferyn dŵr; rhew’. Cymharer â'r Gernyweg rew ‘rhew’, y Llydaweg rev ‘oerfel rhewllyd’ a'r Wyddeleg reo ‘oerfel rhewllyd’.
Enw
rhew g (lluosog: rhewogydd)
- (meteoroleg) Crisialau bychan o iâ sy'n gorchuddio gwrthrychau sy'n agored i'w awyr. Gall rhew fod yn ysgafn neu'n drwm.
- (yn y Gogledd) Iâ.
Hyponymau
Termau cysylltiedig
- tarddeiriau: rheweiddio, rhewi, rhewllyd, rhewog
- cyfansoddeiriau: ewinrhew, glasrew, llwydrew, rhewbwynt, rhewfarcio, rhewfriw, rhewgell, rhewgist, rhewglai, rhewlin, rhewnodi, rhewsych, rhewynt, rhew-ysgythru
Cyfieithiadau
|
|