asgell
Gwedd
Cymraeg
Cynaniad
- /ˈasɡɛɬ/, /ˈaskɛɬ/
Geirdarddiad
Benthycair o'r Lladin llafar ascella ‘adain’. Cymharer â'r Gernyweg askel ‘adain; asgell’ a'r Llydaweg askell ‘adain; asgell’.
Enw
asgell b (lluosog: esgyll)
- (anatomeg) Atodyn pilennog ar gorff llawer o anifeiliaid dŵr megis pysgod, morfilogion a morloi, a ddefnyddir i ymsymud ymlaen, llywio a chadw cydbwysedd.
- Estyniad ystlysol o awyren sy'n ei alluogi i godi i'r awyr.
- Gwelwyd mwg yn codi o asgell yr awyren.
- Ystlys, ochr, ymyl (am adeilad, byddin, cae chwarae, plaid wleidyddol).
Cyfystyron
Termau cysylltiedig
- tarddeiriau: asgellig, asgellog, asgellu, asgellwr, diasgell
- cyfansoddeiriau: asgell-gomander, asgellwynt, bronasgell
Cyfieithiadau
|
|