Isaac Bashevis Singer
Gwedd
Ysgrifennwr straeon byrion a nofelau Americanaidd-Pwylaidd oedd Isaac Bashevis Singer (Hebraeg: יצחק באַשעװיס זינגער or יצחק בת־שבֿעס זינגער) (ganed 21 Tachwedd, 1902 fel Icek-Hersz Zynger, bu fawr 24 Gorffennaf, 1991]). Defnyddiodd enw ei fam, "Bashevis" (fab Bathsheba), pan yn ysgrifennu. Enillodd Wobr Nobel am Lenyddiaeth ym 1978.
Dyfyniadau gyda ffynhonnell
[golygu]- Rhaid i ni gredu mewn ewyllus rydd — nid oes dewis gennym.
- Datganiad eironig a wnaeth Singer mewn nifer o gyflweiadau; caiff ei ddyfynnu yma yn "Isaac Singer’s Promised City" City Journal ( Haf 1997)
- Nofel Duw ydy bywyd. Gadewch iddo ei ysgrifennu.
- Dyfynnwyd yn Voices for Life (1975) golygwyd gan Dom Moraes
- Pan rydych yn bradychu rhywun arall, rydych hefyd yn bradychu eich hun.
- The New York Times (26 Tachwedd 1978)
- Dadansoddi cymeriad yw'r adloniant dynol uchaf.
- The New York Times (26 Tachwedd 1978)
- I mi, stori ydy plot gyda rhai digwyddiadau annisgwyl… Oherwydd dyna sut y mae bywyd - yn llawn syndod.
- The New York Times (26 Tachwedd 1978)
- Mae amheuaeth yn ran o bob crefydd. Roedd pob myfyriwr crefyddol am amheuwyr.
- The New York Times (3 Rhagfyr 1978)
- Pan oeddwn blentyn, cefais fy ngalw'n gelwyddgi, ond nawr fy mod wedi tyfu i fyny, caf fy ngalw'n ysgrifennwr.
- TIME (18 Gorffennaf 1983)
- Ysgrifennwn nid yn unig ar gyfer plant ond ar gyfer eu rhieni hefyd. Maen nhw, hefyd, yn blant difrifol.
- Stories for Children (1984)
Dolenni allanol
[golygu]- Bywgraffiad byr o Kirjasto (Pegasos)
- 1978 Gwobr Nobel am Lenyddiaeth
- What Yiddish Says erthygl o'r The Weekly Standard (25 Hydref 2004)
- Isaac Bashevis Singer yn American Masters (PBS)]
- "Mad Yiddish Hurricane" gan Bill Marx (NPR)