Zip World
Math | busnes |
---|---|
Sefydlwyd | 1 Mawrth 2013 |
Pencadlys | Bethesda |
Gwefan | https://www.zipworld.co.uk/ |
Cwmni sydd yn cynnal sawl weiren wib mewn atyniadau twristaidd yng Nghymru yw Zip World. Mae un ym Methesda, Mlaenau Ffestiniog ac un ym Metws y Coed.
Cafodd maes chwarae Parc Eirias ei ail-enwi'n Stadiwm Zip World yn 2017.[1]
Zip World Velocity, Bethesda
[golygu | golygu cod]Zip World Velocity oedd yr atyniad cyntaf a greodd Zip World, ac agorodd i'r cyhoedd ym mis Mawrth 2013. Hon yw'r weiren sip hiraf yn Ewrop a'r gyflymaf yn y byd.[2]
Zip World, Blaenau Ffestiniog
[golygu | golygu cod]Mae Zip World Blaenau Ffestiniog yn cynnwys tri atyniad, sef Titan, Bounce Below a Caverns. Y weiren sip gyntaf yn Ewrop i bedwar person yw Titan. Maes trampolinau ar rwydiau tanddaearol yw Bounce Below. "Antur o dan y ddaear" yw disgrifiad Caverns.
Zip World, Coedwig Betws y Coed
[golygu | golygu cod]Chwe atyniad sydd yn Zip World, Coedwig Betws y Coed, sef Coaster (reid o gwmpas y goedwig), Plumet (tŵr sydd yn plymio), Skyride (siglen enfawr), Treetop nets (rhwydi yn uchel yn y coed), Tree hoppers (cwrs antur i blant) a Zip safari (gwifrau sy'n mynd o goeden i goeden).
Oriel Zip World, Chwarel Penrhyn
[golygu | golygu cod]Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ Newid enw Parc Eirias i ‘Stadiwm Zip World’, Golwg360 (9 Awst 2017). Adalwyd ar 28 Hydref 2017.
- ↑ "Gwfan Zip World". Zip World. 1/12/17. Check date values in:
|date=
(help)