Ynysoedd y Galapagos
Math | ynysfor, WWF ecoregion, atyniad twristaidd |
---|---|
Enwyd ar ôl | Chelonoidis nigra nigra |
Prifddinas | Puerto Baquerizo Moreno |
Poblogaeth | 25,000 |
Cylchfa amser | UTC−06:00, Pacific/Galapagos |
Daearyddiaeth | |
Sir | Talaith Galápagos |
Gwlad | Ecwador |
Arwynebedd | 7,880 km² |
Uwch y môr | 1,707 metr |
Gerllaw | Y Cefnfor Tawel |
Cyfesurynnau | 0.6667°S 90.55°W |
Ynysfor sydd yn perthyn i Ecwador yw Ynysoedd y Galapagos. Mae'r ynysoedd yn y Môr Tawel tua 1,000 km oddi ar dir mawr De America a maent yn enwog am y nifer enfawr o rywogaethau endemig ac ymchwil Charles Darwin ar gyfer detholiad naturol.
Mae nifer o'r ynysoedd i'r gogledd o'r cyhydedd a nifer i'r de ac mae'r cyhydedd yn croesi rhan ogleddodd yr ynys fwyaf sef Ynys Isabela.
Cadwraeth
[golygu | golygu cod]Sefydlwyd Ynysoedd y Galapagos yn Barc Cenedlaethol yn 1959 ac mae'n cynnwys 97.5 o arwynebedd yr ynysoedd ac ar weddill y tir y mae'r pedwar pentref oedd yn bodoli ar y pryd. Roedd tua 1,000 i 2,000 o bobl yn byw ar yr ynysoedd bryd hynny, ond yn y 1980au cododd y nifer i 15,000. Yn 1986 datganwyd bod y môr o gwmpas yr ynysoedd yn Warchodfa Forwrol. Yn 1978 cydnabuwyd yr ynysoedd gan UNESCO fel un o Safleoedd Treftadaeth y Byd, ac yn 2001 estynnwyd hyn i gynnwys y môr o'u cwmpas, y Warchodfa Forwrol. Sefydlwyd Cronfa Charles Darwin yn 1959 yng Ngwlad Belg gyda'r pwrpas o hybu cadwraeth yr ynysoedd.
Rhywogaethau arbennig:
- Igwana tir
- Crwbanod enfawr
- Nifer sylweddol o linosod
- Pengwin y Galapagos (mae'n brin iawn fod pengwin yn byw a'r cyhydedd)
-
Morlew bach
-
Crwban Galapagos
-
Cranc craig goch (Grapsus grapsus) yn Bahía Tortuga
-
Pelican brown America (Pelecanus occidentalis) yn Bahía Tortuga
-
Igwana morol (Amblyrhynchus cristatus) yn Bahía Tortuga
Hanes
[golygu | golygu cod]Darganfuwyd Ynysoedd y Galapagos gan Fray Tomás de Berlanga ym 1535. Doedd neb yn byw arnynt, er i Thor Heyerdahl gyhoeddi yn y 1950au ei fod wedi darganfod crochenwaith o Dde America sy'n awgrymu i bobl aneddu'r ynysoedd cyn hynny. Mae'r ddadl am y ddamcaniaeth hon yn parháu. Cyfeddiannodd Ecwador yr ynysoedd ar 12 Chwefror 1832.
Cyrhaeddodd Charles Darwin yr ynysodd ar y Beagle ym mis Medi 1835 gan dreulio tua 5 wythnos yn astudio daeareg a bioleg pedair ohonynt.