Y Pencampwriaethau, Wimbledon
Enghraifft o'r canlynol | digwyddiad rheolaidd ym myd chwaraeon |
---|---|
Math | twrnamaint tenis |
Rhan o | Y Gamp Lawn |
Dechrau/Sefydlu | 1877 |
Lleoliad | Clwb Tenis Lawnt a Croce Lloegr Cyfan |
Gwladwriaeth | y Deyrnas Unedig |
Rhanbarth | Wimbledon |
Gwefan | http://www.wimbledon.com |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Twrnamaint tenis hynaf y byd a ystyrir yn aml fel y gystadleuaeth denis uchaf ei fri yw Pencampwriaethau, Wimbledon neu Wimbledon.[1][2] Fe'i gynhelir yng Nglwb All England ym maestref Wimbledon, Llundain, ers 1877. Wimbledon yw'r hynaf o bedwar twrnamaint tenis y Gamp Lawn, a'r unig un a barheir i chwarae ar gyrtiau gwair.
Cynhelir y twrnamaint bob blwyddyn am 14 diwrnod o ddiwedd Mehefin i gychwyn Gorffennaf,[3] gyda rownd derfynol y senglau dynion, a chwaraeir ar Ddydd Sul, fel uchafbwynt y cystadlaethau. Chwaraeir pump prif gystadleuaeth yn y twrnamaint, yn ogystal â phedair cystadleuaeth iau a phedair cystadleuaeth wahoddiad.
Wimbledon yw'r drydedd twrnamaint yn nhymor blynyddol y Gamp Lawn; rhagflaenir gan Bencampwriaeth Agored Awstralia, ar gyrtiau caled, a Phencampwriaeth Agored Ffrainc, ar gyrtiau clai. Fe'i olynir gan Bencampwriaeth Agored yr Unol Daleithiau, ar gyrtiau caled. Mae Pencampwriaethau Clwb y Frenhines, a gynhelir ar gyrtiau gwair yn Llundain, hefyd yn dwrnamaint poblogaidd sy'n rhagflaenu Wimbledon.
Mae traddodiadau Wimbledon yn cynnwys bwyta mefus a hufen, nawddogaeth frenhinol, côd gwisg llym ar gyfer cystadleuwyr, a bechgyn a merched y bêl. Traddodiad arall sydd ddim mor boblogaidd yw galwadau "rain stops play" lle bo glaw yn rhwystro chwarae ac o ganlyniad mae gornestau yn cymryd mwy o amser neu'n rhedeg mewn i amser gornestau eraill; adeiladwyd to sy'n tynnu'n ôl ar y Cwrt Canolog er mwyn delio â'r broblem hyn yn 2009.
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ (Saesneg) Clarey, Christopher (5 Gorffennaf, 2008). Traditional Final: It’s Nadal and Federer. The New York Times. Adalwyd ar 28 Medi, 2008. "I love playing him, especially here at Wimbledon, the most prestigious tournament we have."
- ↑ (Saesneg) Wimbledon 2008. iloveindia.com. Adalwyd ar 28 Medi, 2008. "Wimbledon is the most prestigious tennis tournament in the world."
- ↑ (Saesneg) The Championships, Wimbledon 2008 — Provisional Programme of Play. Y Pencampwriaethau, Wimbledon. Adalwyd ar 28 Medi, 2008.
Dolenni allanol
[golygu | golygu cod]- (Saesneg) Gwefan swyddogol