Y Flaengroen Bendigaid
Enwaedu Crist, Friedrich Herlin | |
Enghraifft o'r canlynol | blaengroen, crair sy'n gysylltiedig â'r Iesu |
---|---|
Rhan o | y baban Iesu, Iesu |
Lleoliad | Conques, Vebret, Calcata, Antwerp, Rhufain |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Mae'r Flaengroen Bendigaid yn un o nifer o greiriau a briodolir i fywyd daearol Iesu Grist gan rai enwadau Cristionogol; honnir ei fod yn gynnyrch enwaediad yr Iesu.[1]
Ar wahanol adegau, mae nifer o eglwysi yn Ewrop wedi hawlio eu bod yn berchen ar flaengroen yr Iesu, weithiau ar yr un pryd. Mae amryw o bwerau gwyrthiol wedi cael eu priodoli iddo.
Cefndir
[golygu | golygu cod]Yn ôl y gyfraith Iddewig mae'n ofynnol i bob bachgen Iddewig gael ei enwaedu ar yr wythfed dydd wedi ei eni; gan hynny mae Gŵyl yr Enwaedu, yn cael ei ddathlu gan nifer o eglwysi ar 1 Ionawr, wyth niwrnod wedi'r Nadolig (Gŵyl y Geni). Mae Efengyl Luc (2:21) yn adrodd bod yr Iesu wedi ei enwaedu yn unol a'r drefn: Pan ddaeth yr amser i enwaedu arno ymhen wyth diwrnod, galwyd ef Iesu, yr enw a roddwyd iddo gan yr angel cyn i'w fam feichiogi arno.[2]
Fel yr unig ddarn o gorff Crist i'w grybwyll yn y Beibl, fel darn o'r corff sanctaidd a adawyd ar y ddaear wedi ei atgyfodiad a'i esgyniad i'r Nef, byddai bod yn berchen ar yr wir flaengroen yn fraint aruthrol i gasglwyr creiriau.
Ymhonwyr am y wir grair
[golygu | golygu cod]Gwnaeth y Flaengroen Sanctaidd ei ymddangosiad cyntaf yn Ewrop yr Oesoedd Canol, tua 800 OC, pan y cyflwynwyd ef i'r Pab Leo III gan y Brenin Siarlymaen. Dywedodd Siarlymaen ei fod wedi ei dderbyn fel rhodd gan angel.
Wedi honiad Siarlymaen dechreuodd eglwysi ar hyd a lled Ewrop honni mai hwy oedd gwir berchenogion y flaengroen, gydag o leiaf un ar hugain o flaengrwyn go iawn yn cael eu heilun addoli ar yr un pryd. Gan fod gormodedd o flaengrwyn bendigaid, ymdrechodd eglwysi i gael eu blaengroen ei ddilysu gan arweinwyr yr Eglwys fel yr un gwreiddiol, a'r unig un!
Yn gynnar yn y 12g, methodd mynachod San Giovanni yn Laterano i berswadio'r Pab Innocentius III i reoli ar ddilysrwydd eu blaengroen hwy ond fe argyhoeddodd mynachod Charroux y Pab Clement VII (1523-1534) mai ganddyn nhw roedd y flaengroen dilys, gan nodi ei fod yn parhau i ollwng diferion o waed gwyrthiol o safle'r toriad.
Yn ystod ymosodiad Siarl V o'r Almaen ar Rufain ym 1527 cafodd y flaengroen a gyflwynwyd gan Siarlymaen ei ddwyn gan filwr Almaenig, cafodd ei gadw yn nhref Calcata, yr Eidal lle ail-ddarganfuwyd y crair ymhen 30 mlynedd a daeth Calcata yn lle pwysig i bererinion wedi hynny hyd 1983 pan gafodd y crair ei ddwyn.[3]
Modrwy Sadwrn
[golygu | golygu cod]Ceisiodd rhai diwinyddion canoloesol dorri'r ddadl am y gwir flaengroen gan honni ei fod yn amlwg bod pob un yn ffug, o reidrwydd, gan fyddai pob darn o gorff Crist wedi esgyn i'r nefoedd gydag ef. Cynigiodd diwinydd o'r 17g, Leo Allatius, brawf o hynny yn ei draethawd De Praeputio Domini Nostri Jesu Christi Diatriba gan amwgrymu fod y Flaengroen Bendigaid i'w weld yn eglur yn y nefoedd fel y modrwy o amgylch y blaned Sadwrn[4]
Diwedd y ddadl
[golygu | golygu cod]Ym 1900 penderfynodd Yr Eglwys Gatholig bod dadlau am ran mor bersonol o gorff Crist yn ei ddwyn i anfri, gan ddatgan bod pob un oedd yn ymgiprys drosti yn fasweddol a bod sôn neu ysgrifennu am y flaengroen yn drosedd y gellir ei chosbi drwy ysgymuno.[1]
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ 1.0 1.1 The Holy Foreskin
- ↑ Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)
- ↑ Leonard B. Glick, Marked in Your Flesh: Circumcision From Ancient Judea to Modern America, OUP, 2005, tud. 96
- ↑ "Are the Rings of Saturn Jesus' Foreskin?". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2016-08-21. Cyrchwyd 2016-07-13.