William Stukeley
William Stukeley | |
---|---|
Ganwyd | 7 Tachwedd 1687 Holbeach |
Bu farw | 3 Mawrth 1765 Kentish Town |
Dinasyddiaeth | Teyrnas Prydain Fawr, Teyrnas Lloegr |
Alma mater | |
Galwedigaeth | anthropolegydd, archeolegydd, archaeolegydd cynhanes, meddyg |
Gwobr/au | Cymrawd y Gymdeithas Frenhinol, Cymrawd Gymdeithas yr Hynafiaethwyr, Cymrawd Coleg Brenhinol y Meddygon Llundain, Goulstonian Lectures |
Hynafiaethydd o Loegr oedd y Parch. Ddr. William Stukeley FRS, FRCP, FSA (7 Tachwedd 1687 – 3 Mawrth 1765). Ef oedd y cyntaf i wneud astudiaeth ysgolheigaidd o hynafiaethau megis Côr y Cewri ac Avebury, ac a ystyrir fel un o sylfaenwyr archaeoleg yn y maes. Roedd hefyd yn un o brif hyrwyddwyr y diddordeb newydd yn y Celtiaid yn ystod hanner cyntaf y 18g.
Ganed Stukeley yn Holbeach, Swydd Lincoln, yn fab i gyfreithiwr. Graddiodd yng Ngholeg Corpus Christi, Caergrawnt cyn mynd ymlaen i astudio meddygaeth. Bu'n gweithio fel meddyg mewn nifer o leoedd. Ymddangosodd ei weithiau enwocaf ar Gôr y Cewri ac Avebury yn 1740 a 1743. Syniad Stukeley oedd fod gan ddynoliaeth un grefydd "batriarchaidd" ar y cychwyn, oedd wedi dirywio yn ddiweddarach gyda datblygiad eilun-addoliaeth. Credai fod y Derwyddon a'r Cristionogion cynnar yn esiampl o'r grefydd yma. Ysgrifennodd lawer ar y derwyddon, gan ennill y llysenw the Arch-Druid. Yn 1729 daeth yn offeiriad, a bu'n dal dwy fywiolaeth yn Swydd Lincoln ac yn ddiweddarach yn Llundain lle bu farw ar y 3ydd o Fawrth, 1765.
Llyfryddiaeth
[golygu | golygu cod]- Stuart Piggott William Stukeley: An Eighteenth-Century Antiquary (1985) ISBN 0-500-01360-8
- David Boyd Haycock William Stukeley : science, religion and archaeology in eighteenth-century England (2002) ISBN 0-85115-864-1
- Aubrey Burl and Neil Mortimer (eds) "Stukeley's Stonehenge: An Unpublished Manuscript 1721-1724" (2005) ISBN 0-300-09895-2
- Neil Mortimer "Stukeley Illustrated: William Stukeley's Rediscovery of Britain's Ancient Sites" (2003) ISBN 0-9542963-3-8