Neidio i'r cynnwys

Wicipedia:Cyflwyniad

Oddi ar Wicipedia
Cymorth:CynnwysCymorth:Cynnwys
Cymorth:Cynnwys
Cymorth:Cynnwys

Ydych chi'n gweld y botwm "Golygu"? Gallwch chi gyfrannu a chywiro gwallau yn y mwyafrif o erthyglau drwy glicio "Golygu"! Ewch ati i ychwanegu eich diddordebau neu eich gwybodaeth: fel bod ein plant, ein pobl ifanc ac oedolion yn cael rhodd amhrisiadwy gennych! Yn yr Adran: Tiwtorial, ceir dros 20 o fideos Cymraeg cam-wrth-gam yn eich harwain drwy'r sgiliau angenrheidiol.

Cliciwch "Golygu cod y dudalen" i newid erthygl
Beth yw Wicipedia?

Gwyddoniadur rhydd ydy Wicipedia, a ysgrifennir yn gydweithredol gan ei ddarllenwyr. Math arbennig o wefan ydyw, a elwir yn wici, sydd wedi ei gynllunio er mwyn sicrhau fod cydweithio'n hawdd. Mae nifer o bobl yn gwella Wicpedia'n barhaus, gan wneud miloedd o newidiadau bob awr. Cofnodir yr holl newidiadau hyn yn hanes yr erthygl a Newidiadau diweddar. Am fwy o fanylion am y prosiect, gweler Wicipedia:Ynglŷn â Wicipedia.

Sut alla i gyfrannu?

Peidiwch ag ofni golygu — gall unrhyw un olygu bron unrhyw dudalen, ac fe'ch anogir i i fod yn ddewr! Ffeindiwch rywbeth a ellir ei wella - er enghraifft, sillafu, gramadeg, ail-ysgrifennu er mwyn ei wneud yn fwy darllenadwy, neu ddileu golygiadau anadeiladol. Os hoffech ychwanegu ffeithiau newydd, darparwch ffynonellau fel y gellir eu gwirio, neu awgrymwch hwy ar dudalen sgwrs yr erthygl. Gan amlaf, dylid trafod newidiadau ar bynciau dadleuol a phrif dudalennau Wicipedia yn gyntaf.

Cofiwch - ni allwch dorri Wicipedia; gellir gwrthdroi, trwsio neu wella pob golygiad. Felly ewch ati, golygwch erthygl byddwch yn rhan o'r prosiect o wneud Wicipedia yr adnodd gwybodaeth mwyaf defnyddiol ar y we!

Cyfrannwch — Mae Wicipedia yn rhad ac am ddim i'w ddefnyddio, ond mae'n dibynnu ar roddion a grantiau er mwyn aros felly. Ystyriwch gyfrannu os gwelwch yn dda, drwy glicio ar y ddolen Rhoddwch nawr ar frig y dudalen er mwyn helpu cynnal a datblygu'r safle.

Pam na cheisiwch olygu nawr?

  1. Cliciwch fan hyn i olygu'r pwll tywod, sef lle i wneud golygiadau prawf. (Os oes ysgrifen ar y dudalen eisoes, ychwanegwch eich testun ar waelod y dudalen.)
  2. Teipiwch beth ysgrifen.
  3. Cliciwch Dangos rhagolwg er mwyn gweld eich newidiadau, neu Cadw'r dudalen pan rydych yn hapus gyda'r ffordd mae'r dudalen yn edrych.


Gweler hefyd

[golygu cod]