Wicipedia:Ar y dydd hwn/Mawrth
1 Mawrth: Dydd Gŵyl Dewi; Diwrnod annibyniaeth Bosnia-Hertsegofina (1992)
- 86 CC – Cipiodd Lucius Cornelius Sulla ddinas Athen.
- 1244 – bu farw Gruffudd ap Llywelyn Fawr wrth geisio dianc o Dŵr Llundain
- 1633 – bu farw George Herbert o Drefaldwyn, bardd yn yr iaith Saesneg
- 1683 – ganwyd Caroline o Ansbach, Tywysoges Cymru a Brenhines Prydain Fawr (m. 1737)
- 1869 – gorffennodd y cemegydd Rwsiaidd Dmitri Mendeleev ei gynllun cyntaf ar gyfer tabl cyfnodol yr elfennau
- 1979 – gwrthodwyd cynlluniau datganoli'r llywodraeth ar gyfer Cymru a'r Alban mewn refferendwm
- 2015 – estynwyd Rheilffordd Llangollen i Gorwen.
2 Mawrth; Gŵyl Mabsant Santes Non (a'r 3ydd a'r 5ed) a Sant Gwrthwl
- 1822 – ganwyd Michael D. Jones, sefydlydd y Wladfa ym Mhatagonia
- 1855 – daeth Alecsander II yn tsar Rwsia
- 1930 – bu farw D. H. Lawrence, 44, nofelydd Seisnig
- 1958 – ganwyd y golffiwr Ian Woosnam, capten tîm Cwpan Ryder 2006, yng Nghroesoswallt
- 1972 – lawnsio'r chwiliedydd gofod cyntaf i ymweld â'r blaned Iau: Pioneer 10.
- 1284 – gweithredwyd Statud Rhuddlan
- 1875 – perfformiad cyntaf opera Georges Bizet, Carmen
- 1888 – llwyddodd Tîm pêl-droed cenedlaethol Cymru i sicrhau eu buddugoliaeth fwyaf erioed wrth drechu Iwerddon 11–0 ar Y Cae Ras, Wrecsam
- 1927 – lladdwyd Parry-Thomas yn ei gar 'Babs'; daliwr record cyflymder tir y byd
- 1941 – bomiwyd Caerdydd gan Awyrlu'r Almaen
- 1985 – daeth Streic y Glowyr i ben (cychwynwyd y streic ym Mawrth 1984)
4 Mawrth: Diwrnod Rhyngwladol Cancr
- 1193 – bu farw yr arweinydd Islamaidd Saladin
- 1828 – ganwyd y bardd a'r llenor Owen Wynne Jones (Glasynys)
- 1948 – ganwyd y canwr pop Michael Barratt, yn hwyrach Shakin' Stevens, yng Nghaerdydd
- 1980 – etholwyd Robert Mugabe yn Brif Weinidog senedd ddemocrataidd gyntaf Simbabwe
- 1963 – bu farw William Carlos Williams bardd o Americanwr.
5 Mawrth: Dydd Gŵyl Sant Caron a Sant Piran, un o nawddseintiau Cernyw
- 1295 – trechwyd Madog ap Llywelyn gan lu Iarll Warwig ym Mrwydr Maes Maidog, Caereinion
- 1512 – ganwyd y cartograffydd Gerardus Mercator yn Fflandrys
- 1850 – agorwyd Pont Britannia (neu ‘Bont Llanfair’)
- 1953 – bu farw'r cyfansoddwr Sergei Prokofiev a'r unben Joseff Stalin
- 1977 – mewn damwain car yn Grand Prix De Affrica 1977 bu farw Tom Pryce, Rhuthun, pan drawodd ei gar stiward a oedd yn croesi'r trac.
6 Mawrth: Diwrnod annibyniaeth Ghana o'r Deyrnas Unedig (1957)
- 1475 – ganwyd yr arlunydd Michelangelo
- 1800 – ganwyd Samuel Roberts, radicalydd ac awdur
- 1884 – ganwyd y bardd R. Williams Parry yn Nhal-y-sarn, yn Nyffryn Nantlle
- 1943 – bu farw John Daniel Evans, un o arloeswyr Y Wladfa ym Mhatagonia
- 1951 – bu farw'r difyrrwr, y dramodydd a'r actor Ivor Novello
7 Mawrth: Gŵyl mabsant Sannan, Brannog, Gwrddelw a Chwyllog
- 1274 – bu farw'r offeiriad, yr athronydd, y diwinydd a'r sant Eidalaidd Tomos o Acwin
- 1671 – ganwyd Ellis Wynne, llenor ac awdur Gweledigaethau y Bardd Cwsc
- 1804 – ffurfiwyd Cymdeithas y Beibl er mwyn cyflenwi copïau o'r Beibl trwy'r byd; Thomas Charles o'r Bala oedd un o'i sylfaenwyr
- 1876 – rhoddwyd breinlen i Alexander Graham Bell ar gyfer y teleffon
- 1999 – bu farw'r cyfarwyddwr ffilm Stanley Kubrick yn 70 oed
8 Mawrth: Diwrnod Rhyngwladol y Merched; Gŵyl Mabsant Sant Rhian
- 1899 – ganwyd yr awdur Albanaidd Eric Linklater ym Mhenarth
- 1939 – ganwyd y tenor Robert Tear yn y Barri
- 1966 – dinistriwyd Piler Nelson yn Nulyn gan fom
- 1971 – bu farw Harold Lloyd, actor Americanaidd o dras Cymreig
- 2001 – bu farw'r dawnswraig a choreograffydd o Wyddeles, Ninette de Valois
- 1841 – tynnodd Calvert Jones y ffotograff cyntaf i'w gymryd yng Nghymru, o Gastell Margam
- 1861 – bu farw Taras Shevchenko, a ystyrir yn fardd cenedlaethol Wcráin
- 1937 – dedfrydwyd tri Penyberth (D. J. Williams, Saunders Lewis a Lewis Valentine) yn yr Old Bailey i 9 mis o garchar am losgi adeilad hyfforddi Byddin Lloegr ger Pwllheli
- 1942 – ganwyd y cerddor a'r cynhyrchydd John Cale yng Nghwmaman, Sir Gaerfyrddin
- 1994 – bu farw'r llenor Americanaidd Charles Bukowski
- 60 – llongddrylliad yr Apostol Paul ar ynys Malta
- 1747 – ganwyd Iolo Morganwg ym Mhennon, Bro Morgannwg
- 1876 – Alexander Graham Bell yn gwneud yr alwad ffôn gyntaf, gan ddweud, "Mr. Watson, come here, I want to see you."
- 1946 – ganwyd y digrifwr Gari Williams
- 1986 – bu farw'r actor o Gastell-nedd Ray Milland
11 Mawrth: Diwrnod Rhyngwladol Diwylliant y Mwslemiaid; Diwrnod annibyniaeth Lithwania (1990)
- 1842 – ganwyd Sarah Edith Wynne (Eos Cymru), y Gymraes gyntaf i ddod i sylw rhyngwladol
- 1863 – bu farw'r arlunydd Hugh Hughes, o ardal Llansanffraid Glan Conwy
- 1941 – bu farw'r cyfansoddwr Walford Davies
- 1995 – bu farw'r actores Myfanwy Talog
- 2004 – Ffrwydrodd deg bom ar drenau ym Madrid
- 2020 – Cyfundrefn Iechyd y Byd yn codi statws yr 'Argyfwng Rhyngwladol' o'r Coronafirws COVID-19 i 'Bandemig'.
12 Mawrth: Gŵyl mabsant Pab Grigor I a Paulinus Aurelianus, sant Cymreig. Diwrnod annibyniaeth Mawrisiws (1968)
- 1626 – ganwyd yr hynafiaethydd ac awdur John Aubrey yn Wiltshire (m. 1697)
- 1881 – sefydlwyd Undeb Rygbi Cymru yn y Castle Hotel, Castell-nedd
- 1950 – bu farw 80 o gefnogwyr rygbi a chriw yr awyren yn Nhrychineb awyr Llandŵ, y ddamwain awyren waethaf yn y byd, ar y pryd
- 1989 – cyhoeddodd Tim Berners-Lee ddogfen ar gyfer CERN yn amlinellu system rheoli gwybodaeth a ddaeth i fod yn y we fyd-eang
- 1999 – bu farw'r fiolinydd clasurol Yehudi Menuhin
- 1639 – sefydlwyd Coleg Harvard, rhagflaenydd Prifysgol Harvard; dyma brifysgol hynaf yr Unol Daleithiau
- 1781 – darganfuwyd y blaned Wranws gan y seryddwr William Herschel
- 1884 – bu farw Margaret Davies arlunydd casglwr ac wyres David Davies (Llandinam)
- 1938 – yn Linz cyhoeddodd Adolf Hitler uniad gwleidyddol Awstria a'r Almaen, yr hyn a elwid yn Anschluss
- 1942 – ganwyd y canwr Meic Stevens
- 1954 – ymladdwyd Brwydr Dien Bien Phu, y frwydr a ddaeth â therfyn i Ryfel Indo-Tsieina
14 Mawrth: Gwylmabsant Cynog Ferthyr; Diwrnod Pi (y cysonyn mathemategol a fathwyd gan William Jones)
- 1471 – bu farw Syr Thomas Malory, awdur Le Morte d'Arthur
- 1879 – ganwyd y ffisegydd damcaniaethol Albert Einstein
- 1933 – ganwyd y cynhyrchydd recordiau Quincy Jones a'r actor Michael Caine
- 1936 – darllediad cyntaf o'r rhaglen deledu Noson Lawen, o Fangor
- 1986 – bu farw Syr Huw Wheldon, Cyfarwyddwr Teledu y BBC
- 2018 – bu farw'r ffisegydd damcaniaethol a'r cosmolegydd Stephen Hawking
15 Mawrth: Idiau Mawrth (Ides of March)
- 44 CC – trywanwyd Iŵl Cesar i farwolaeth gan Marcus Junius Brutus ac eraill
- 1493 – cyrhaeddodd Christopher Columbus Sbaen wedi ei daith gyntaf i'r Amerig
- 1545 – cyfarfu sesiwn gyntaf Cyngor Trent, a alwyd gan yr Eglwys Gatholig i wrthsefyll y Diwygiad Protestannaidd
- 1843 – ganwyd y cyfansoddwr o Norwy Edvard Grieg
- 1963 – dedfrydwyd Emyr Llywelyn i garchar am ffrwydro eiddo Dinas Lerpwl yng Nghapel Celyn
- 2012 – bu farw Mervyn Davies, chwaraewr Rygbi'r Undeb a enillodd 38 o gapiau dros Gymru
- 37 – bu farw'r Ymerawdwr Rhufeinig Tiberius, 77
- 1485 – bu farw Anne Neville, 28, Tywysoges Cymru fel gwraig Edward o Westminster a brenhines Lloegr fel gwraig Rhisiart III
- 1689 – sefydlwyd y catrawd a oedd yn rhagflaenydd i'r Ffiwsilwyr Brenhinol Cymreig
- 1939 – Yr Ail Ryfel Byd: meddiannodd lluoedd Adolf Hitler Tsiecoslofacia
- 1978 – drylliwyd y llong Amoco Cadiz ar greigiau gerllaw Ploudalmézeau yn Llydaw
- 2020 – y person cyntaf yng Nghymru'n marw o'r firws COVID-19, yn ardal Caerffili
17 Mawrth: Gŵyl Sant Padrig, nawddsant Iwerddon
- 180 – bu farw'r Ymerawdwr Rhufeinig Marcus Aurelius
- 1721 – ganwyd y bardd Jonathan Hughes, ym Mhengwrn, Llangollen
- 1909 – ganwyd y bardd, y nofelydd a'r darlunydd Margiad Evans
- 1943 – ganwyd y dylunydd ffasiwn Jeff Banks yng Nglyn Ebwy, Blaenau Gwent
- 1992 – mewn refferendwm pleidleisiodd mwyafrif o blaid cynigion i newid cyfansoddiad De Affrica er mwyn cael gwared ar apartheid.
18 Mawrth: Dydd Gŵyl Sant Ffinan
- 37 – cyhoeddwyd Caligula yn Ymerawdwr Rhufain
- 1316 – Llywelyn Bren yn ildio i Iarll Henffordd er mwyn arbed ei ddynion.
- 1949 – arwyddwyd Cytundeb Brwsel; dyma oedd rhagflaenydd y cytundeb i sefydlu NATO
- 1965 – dringodd y gofodwr Alexei Leonov o'r Undeb Sofietaidd allan o'i long ofod, y gŵr cyntaf i gerdded yn y gofod
- 2008 – bu farw'r ffotograffydd Philip Jones Griffiths
19 Mawrth: Gwylmabsant Cynbryd
- 1804 – bu farw'r hynafiaethydd Philip Yorke yn Erddig, Sir Ddinbych
- 1907 – arwyddwyd Siarter Frenhinol yn sefydlu Amgueddfa Genedlaethol Cymru a Llyfrgell Genedlaethol Cymru
- 1921 – ganwyd y consuriwr a'r digrifwr Tommy Cooper yng Nghaerffili
- 1932 – agorwyd Pont Harbwr Sydney yn Awstralia
- 1970 – bu farw Hywel Hughes (Bogotá), ranshiwr a chenedlaetholwr Cymreig.
20 Mawrth: Diwrnod annibyniaeth Tiwnisia (1956); Diwrnod Rhyngwladol Hapusrwydd
- 44 CC – ganwyd Ofydd (Publius Ovidius Naso), bardd ac awdur yn yr iaith Ladin
- 1727 – bu farw Syr Isaac Newton, ffisegydd, mathemategydd ac athronydd
- 1828 – ganwyd y dramodydd Norwyeg Henrik Ibsen
- 1881 – bu farw William Burges, y pensaer a atgyweiriodd Castell Caerdydd a Chastell Coch
- 1940 – bu farw Gwilym Deudraeth, bardd a chymeriad
- 1966 – cafodd Tlws Cwpan y Byd FIFA ei ddwyn o arddangosfa stampiau yn Llundain
21 Mawrth: Diwrnod annibyniaeth Namibia (1990)
- 1282 – cododd y Cymry dan faner Dafydd ap Gruffudd gan gipio Castell Penarlâg a gorfodi'i frawd Llywelyn II i ymuno yn erbyn y goresgynwyr Seisnig
- 1556 – llosgwyd Thomas Cranmer, Archesgob Caergaint, am ei syniadaeth Protestanaidd
- 1802 – ganwyd Augusta Hall, Arglwyddes Llanofer, noddwraig y celfyddydau a'r iaith Gymraeg
- 1924 – priodwyd Leila Megàne ac Osborne Roberts yn yr eglwys Gymraeg yn Efrog Newydd
- 1967 – ganwyd Prif Weinidog Cymru Carwyn Jones
- 1975 – ganwyd cyn bencampwr snwcer y byd Mark Williams
22 Mawrth: Diwrnod Dŵr y Byd; gwylmabsant Elwad
- 1312 – cyhoeddodd y Pab Clement V fwl i ddiddymu Urdd y Deml.
- 1599 – ganwyd yr arlunydd Antoon van Dyck yn Antwerp, Fflandrys (heddiw yng Ngwlad Belg).
- 1693 – ganwyd y bardd, y golygydd a'r cyfieithydd Hugh Hughes, a adnabyddir hefyd fel 'Y Bardd Coch o Fôn', ym mhlwyf Llandyfrydog, Ynys Môn.
- 1895 – dangoswyd ffilm i'r cyhoedd am y tro cyntaf, ym Mharis.
- 1963 – lansiwyd albwm cyntaf The Beatles, Please Please Me.
23 Mawrth: Diwrnod Meteoroleg y Byd
- 1901 – bu farw'r bardd, y nofelydd a'r newyddiadurwr Lewis William Lewis (Llew Llwyfo)
- 1910 – ganwyd y cyfarwyddwr ffilmiau Akira Kurosawa
- 1956 – cyhoeddwyd Gweriniaeth Islamaidd Pacistan
- 1972 – ganwyd pencampwr paffio'r byd, y Cymro Joe Calzaghe, yn Hammersmith, Llundain
- 2020 – am hanner nos cychwynodd y cyfnod clo cyntaf yng Nghymru (daeth i ben 1 Mehefin).
24 Mawrth: Diwrnod Rhyngwladol y Diciâu
- 1603 – bu farw Elisabeth I, brenhines Lloegr
- 1834 – ganwyd William Morris, awdur ac arlunydd
- 1848 – ganwyd Emrys ap Iwan, ysgrifennwr
- 1874 – ganwyd Harry Houdini (neu'r 'Brawd Hwdini' chwedl Meic Stevens)
- 1991 – bu farw Maudie Edwards, actores, digrifwraig a chantores o Gymraes
25 Mawrth: Gŵyl Fair (Cristnogaeth); Diwrnod annibyniaeth Gwlad Groeg (1821); Diwrnod Dante (yr Eidal)
- 421 – sefydlwyd dinas Fenis, yn ôl y chwedl
- 1876 – chwaraewyd gêm gyntaf Tîm pêl-droed cenedlaethol Cymru, a hynny yn erbyn yr Alban
- 1915 – ganwyd y gantores Cymreig Dorothy Squires (m. 1998)
- 1930 – bu farw John Gwenogvryn Evans, paleograffydd a golygydd hen lawysgrifau Cymreig a chladdwyd ef mewn ogof, gyda'i wraig
- 1957 – arwyddwyd Cytundeb Marchnad Gyffredin Ewrop yn Rhufain
26 Mawrth: Pen-blwydd traddodiadol y proffwyd Zarathustra (Zoroastriaeth); Diwrnod annibyniaeth Bangladesh (1971)
- 1856 – bu farw'r diplomydd Cymreig Henry Watkins Williams-Wynn
- 1911 – ganwyd y dramodydd Americanaidd Tennessee Williams
- 1923 – bu farw'r actores Ffrengig Sarah Bernhardt, un o arloeswyr y ffilmiau distaw
- 1945 – bu farw David Lloyd George, prif weinidog y Deyrnas Unedig
- 2021 – Alex Salmond yn cyhoeddi ffurfio'r Blaid Alba newydd yn yr Alban.
27 Mawrth: Diwrnod Rhyngwladol y Theatr
- 1854 – cyhoeddodd Ffrainc a Phrydain ryfel yn erbyn Rwsia yn Rhyfel y Crimea
- 1912 – ganwyd y gwleidydd James Callaghan yng Nghaerdydd
- 1935 – ganwyd dyfeisydd y swigan lysh (yr Alcolmeter), Thomas Parry Jones yn Nwyran, Ynys Môn
- 1950 – ganwyd cyn bêl-droediwr a chyn-reolwr Cymru Terry Yorath
- 1968 – bu farw'r dyn cyntaf i deithio'r gofod mewn roced: Yuri Gagarin, yn 34 oed.
- 1969 – bu farw'r tenor David Lloyd.
- 1846 – bu farw'r bardd Daniel Evans (Daniel Ddu o Geredigion)
- 1879 – ganwyd un o arwyr mwya Iwerddon: Toirdhealbhach Mac Suibhne a fu farw yng Ngharchar Brixton yn 41 oed.
- 1942 – ganwyd y gwleidydd a chyn-arweinydd y Blaid Lafur, Neil Kinnock, yn Nhredegar, Blaenau Gwent
- 1995 – bu farw Julian Cayo-Evans, cenedlaetholwr Cymreig ac aelod o Fyddin Rhyddid Cymru
29 Mawrth: Gŵyl Santes Gwladys a Sant Gwynllyw.
- 1406 – arwyddwyd Llythyr Pennal gan Owain Glyn Dŵr at y Pab yn mynegi ei weledigaeth am Gymru sofran, annibynnol
- 1848 – peidiodd yr afon â llifo dros Raeadr Niagara oherwydd iâ.
- 1869 – ganwyd y pensaer Edwin Lutyens
- 1913 – ganwyd y bardd Cymreig R. S. Thomas yng Nghaerdydd
- 2022 – bu farw Helen Griffin, actores, dramodydd a sgriptiwr Cymreig.
- 1555 – llosgwyd Robert Ferrar, Esgob Tyddewi, wrth y stanc, am ddangos gormod o gariad tuag at y Cymry
- 1822 – bu farw'r bardd Dafydd Ddu Eryri yn 62 (neu'n 63 oed)
- 1853 – ganwyd yr arlunydd o'r Iseldiroedd Vincent van Gogh
- 1899 – ganwyd Cyril Radcliffe yn Llanychan, cadeirydd Pwyllgor creu ffiniau newydd India, Pacistan a Bangladesh
- 1934 – ganwyd y Prifardd a'r ffermwr Dic Jones yn Nhre'r-ddôl yng ngogledd Ceredigion
- 1980 – cyrch 'Operation Tân' gan yr heddlu pan geisiwyd dal aelodau o Feibion Glyndŵr; arestiwyd dros hanner cant o bobl.
- 1276 – Ildiodd Castell Dolforwyn, castell Llywelyn ap Gruffudd, i'r Saeson
- 1406 – arwyddwyd Llythyr Owain Glyndŵr at Siarl VI o Ffrainc yn Eglwys Sant Pedr ad Vincula, Pennal
- 1717 – Y Ddadl Fangoraidd: mewn pregeth ym mhresenoldeb Siôr I, deadleuodd Esgob Bangor, Benjamin Hoadly, nad oedd cyfiawnhad beiblaidd i unrhyw lywodraeth eglwysig
- 1920 – Datgysylltwyd yr Eglwys Anglicanaidd yng Nghymru
- 1945 – Ganwyd yr actores Myfanwy Talog, yng Nghaerwys
|