Undeb Cenedlaethol y Glowyr
Undeb llafur yn cynrychioli glöwyr yn y Deyrnas Unedig yw Undeb Cenedlaethol y Glowyr (Saesneg: National Union of Mineworkers), a dalfyrrir yn aml i NUM.
Sefydlwyd yr undeb yn 1945, pan ail-drefnwyd Ffederasiwn Glowyr Prydain Fawr (Miners' Federation of Great Britain, MFGB). Roedd yr MFGB wedi ei sefydlu yn 1888. Nid oedd yn un undeb canolog, ond yn hytrach yn gorff oedd yn cyd-drefnu gweithgareddau sefydliadau lleol. Ffurfiwyd Ffederasiwn Glowyr De Cymru (South Wales Miners' Federation), "y Ffed", yn 1898.
Cymerodd yr undeb ran mewn sawl anghydfod diwydiannol, yn cynnwys Streic Genedlaethol y Glowyr 1912 a Streic Fawr 1926. Dan lywyddiaeth Arthur Scargill, daeth i amlygrwydd yn ystod Streic y Glowyr (1984-5), oedd yn brotest yn erbyn cynlluniau'r Bwrdd Glo a'r llywodraeth i gau pyllau glo. Wedi blwyddyn o streic, gorfodwyd y glowyr i ddychwelyd i'r gwaith, a thros y blynyddoedd nesaf, caewyd nifer fawr o byllau glo. Oherwydd hyn, collodd yr undeb ei ddylanwad.
Llywyddion
[golygu | golygu cod]- 1889: Ben Pickard
- 1904: Enoch Edwards
- 1912: Robert Smillie
- 1922: Herbert Smith
- 1929:
- 1931: Ebby Edwards
- 1932:
- 1938: Joseph Jones
- 1939: Will Lawther
- 1954: Ernest Jones
- 1960: Sidney Ford
- 1971: Joe Gormley
- 1982: Arthur Scargill (Llywydd Mygedol o 2002)
- 2002: Ian Lavery
Is-lywyddion
[golygu | golygu cod]- 1889: Sam Woods
- 1909: Robert Smillie
- 1912:
- 1917: Herbert Smith
- 1922: Stephen Walsh
- 1924:
- 1929: Ebby Edwards
- 1930:
- 1933: S. O. Davies
- 1934: Will Lawther
- 1939: Jim Bowman
- 1950: Ernest Jones?
- 1972: Mick McGahey
- 1987: Sammy Thompson
- 1989: Swydd yn wag
- 1992: Frank Cave
- 2002: Keith Stanley
Ysgrifenyddion Cyffredinol
[golygu | golygu cod]- 1889: Thomas Ashton
- 1919: Frank Hodges
- 1924: A. J. Cook
- 1932: Ebby Edwards
- 1946: Arthur Horner
- 1959: Will Paynter
- 1968: Lawrence Daly
- 1984: Peter Heathfield
- 1992:
- 2002: Steve Kemp