Tynwald
Delwedd:Tynwald tingvollen.jpg, Old Tynwald site Isle of Man. . - geograph.org.uk - 31920.jpg | |
Math | dwysiambraeth |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Gwlad | Ynys Manaw |
Cyfesurynnau | 54.1508°N 4.4814°W |
Y Tynwald (Manaweg: Tinvaal) yw senedd ddeddfwriaethol Ynys Manaw (Ellan Vannin). Mae'n cynnwys dwy gangen sy'n eistedd ar y cyd neu'n annibynnol, sef y Kiare as Feed ("pedwar ar hugain", Tŷ'r Agoriadau) etholedig ac Yn Choonseil Slattyssagh (Y Cyngor Deddfwriaethol). Dywedir mai'r Tynwald yw'r corff deddfwriaethol hynaf yn y byd sydd wedi bodoli'n ddidor, am iddo gael ei sefydlu yn y flwyddyn 979.
Mae canghennau'r Tynwald yn eistedd ar y cyd ar 'Ddydd Tynwald' (Laa Tinvaal) yn St John's (Balley Keeill Eoin) i ddeddfu, ac ar achlysuron eraill yn y brifddinas Douglas (Doolish) i ddelio ag ariannu a pholisi'r llywodraeth. Fel arall maent yn eistedd yn annibynnol, gyda Tŷ'r Agoriadau yn ystyried cynigion deddfwriaeth y llywodraeth a'r Cyngor yn gweithredu fel siambr adolygol.
Daw'r enw Tynwald o'r Gwyddeleg Tine Bhál "Tan Balor".