Tosa Inu
Brid o gi ymladd o Japan yw Tosa Inu (Japaneg: 土 佐; hefyd Tosa), sy'n frid prin. Fel yr awgryma'r enw, cafodd ei fagu'n wreiddiol yn nhref Tosa (a elwir heddiw'n Kōchi) - a'i fagu fel ci ymladd. Caiff ei fagu i'r un pwrpas heddiw.[1]
Ymddangosiad
[golygu | golygu cod]Yn gyffredinol, mae'r ci a fegir yn Japan oddeutu hanner pwysau'r ci a fegir y tu allan i Japan. Mae'r brid Siapaniaidd hwn yn pwyso rhwng 36 and 61 kg, tra bod y bridiau a fegir y tu allan i'r wlad yn pwyso rhwng 60 to 100 kg a'i daldra'n 62 to 82 cm wrth ei war.
Nodweddir ei got gan ei ymddangosiad byr a llyfn o liw coch, gwinau neu elain. O bryd i'w gilydd gall fod o liw du diflas, ond mae hyn yn anghyffredin.[2]
Hanes
[golygu | golygu cod]Crëwyd y brîd hwn yn wreiddiol yn ail hanner y 19g yn Siapan. Tarddodd y brid o fath gwhahanol sef y Shikoku-Inu, ci sy'n pwyso'n tua 25 cilogram ac yn sefyll tua 55 centimetr o uchder ac sy'n debyg iawn i'r Spitz Ewropeaidd. Croeswyd y cŵn hyn gyda bridiau Ewropeaidd eraill, megis yr Hen Gi Tarw Seisnig ym 1872, y Gafaelgi ym 1874, y St Bernard a'r Pointer Almaeneg ym 1876, y Ci Mawr Denmarc ym 1924, a'r Daeargi Tarw hefyd ym 1924. Y nod wrth groesi'r cŵn hyn oedd magu ci ymladd, heini a chryfach. Heddiw, mae'n dal i gael ei ddefnyddio mewn rhai gwledydd fel ci ymladd, ond fel arfer fe'i cedwir fel anifail anwes. Yn yr amgylchedd teuluol mae Tosa yn amyneddgar ac yn addfwyn.[3][4]
Y gyfraith
[golygu | golygu cod]Yng ngwledydd Prydain a gogledd Iwerddon, caiff y brid hwn ei reoli gan Ddeddf Cŵn Peryglus 1991.[5] Mae'n rhaid cael caniatâd arbennig gan gwrt i gael yr hawl i fewnforio'r ci hwn.[6] Mae rhai cwmniau yswiriant yn gwrthod yswirio'r cartref ble ceir y brid hwn.
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ Gwefan ukcdogs.com Archifwyd 2009-02-23 yn y Peiriant Wayback adalwyd 6 Ionawr 2014
- ↑ "Gretabreeds.com". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2012-10-30. Cyrchwyd 2013-08-18.
- ↑ Gwefan You Tube; adalwyd 06 Ionawr 2014
- ↑ Gwefan You Tube; adalwyd 06 Ionawr 2014
- ↑ "Act No. 32 of 2000, Legal Supplement Part A" (PDF). Trinidad and Tobago Gazette (Fifth Session Fifth Parliament Republic of Trinidad and Tobago) 39 (156). 16 August 2000. http://www.ttparliament.org/legislations/a2000-32.pdf. Adalwyd 16 Mai 2013.
- ↑ "65". Dangerous Dogs Act 1991. London: HMSO/National Archives. 1991. http://www.opsi.gov.uk/acts/acts1991/Ukpga_19910065_en_1.htm. Adalwyd 8 February 2010.