Top Gear
Top Gear | |
---|---|
Genre | Moduro Adloniant |
Serennu | Jeremy Clarkson (2002 - 2015) Jason Dawe (2002) Richard Hammond (2002 - 2015) James May (2003 - 2015) The Stig (2002 - presennol) Chris Evans (2016) Matt LeBlanc (2016 - presennol) Sabine Schmitz (2016 - presennol) Eddie Jordan (2016 - presennol) Chris Harris (2016 - presennol) Rory Reid (2016 - presennol) |
Gwlad/gwladwriaeth | Y Deyrnas Unedig |
Iaith/ieithoedd | Saesneg |
Nifer cyfresi | 21 |
Nifer penodau | 184 (gan gynnwys 11 rhaglen arbennig) |
Cynhyrchiad | |
Amser rhedeg | 60 munud ar gyfartaledd |
Darllediad | |
Sianel wreiddiol | BBC Two |
Rhediad cyntaf yn | 1977-2001 |
Darllediad gwreiddiol | 2002 - Presennol |
Dolenni allanol | |
Gwefan swyddogol |
Cyfres deledu'r BBC am gerbydau modur, ceir yn benodol, ydy Top Gear, a ddarlledwyd yn wreiddiol ar BBC Dau. Dechreuodd y gyfres ym 1977 fel rhaglen gylchgrawn gonfensiynol am foduro. Dros amser, ac yn enwedig ers i'r rhaglen gael ei hail-lansio yn 2002, mae ganddi arddull unigryw, ddoniol. Cyflwynid y fformat newydd gan Jeremy Clarkson, Richard Hammond a James May, ac mae hefyd yn cynnwys gyrrwr prawf a elwir "The Stig". Amcangyfrifir fod gan y rhaglen 350 miliwn o wylwyr yn fyd-eang. Yn aml, roedd yn torri tir newydd ac yn herio'r drefn 'wleidyddol gywir' arferol o chwaeth.[1] Caiff ei ffilmio ym Maesawyr Dunsfold, Waverley, Surrey. Hon oedd rhaglen geir mwyaf poblogaidd drwy'r byd.[2] Ers 2007 roedd nifer y gwylwyr oddeutu 6 - 7 miliwn.
Yn dilyn ffrae rhwng Clarkson ac un o gynhyrchwyr y sioe ym mis Mawrth 2015, ni estynnwyd contract Clarkson gyda'r BBC a phenderfynodd y tri phrif gyflwynydd adael i weithio i raglen newydd The Grand Tour ar gyfer Amazon. Darlledwyd y rhaglen gyntaf yng ngwledydd Prydain, yr UDA, yr Almaen a Japan ar 18 Tachwedd 2016.
Ym Mehefin 2015 cadarnhawyd mai Chris Evans fyddai'r prif gyflwynydd newydd ynghyd â Matt LeBlanc a sawl cyflwynydd ac adolygydd arall. Cafwyd ymgais i barhau gyda'r arddull a'r fformat a oedd yn ei le ond nid oedd yn apelio at y gynulleidfa, a syrthiodd y ffigyrau gwylio yn sylweddol. Wedi darlledu'r chwe phennod yng nghyfres 23, ar 4 Gorffennaf 2016, rhoddodd Chris Evans y ffidil yn y to fel cyflwynydd.
Car y Flwyddyn
[golygu | golygu cod]Ar ddiwedd pob tymor, cyflwynir Gwobr Car y Flwyddyn.
Blwyddyn | Car |
---|---|
2002 | Land Rover Range Rover |
2003 | Rolls-Royce Phantom |
2004 | Volkswagen Golf GTI |
2005 | Bugatti Veyron |
2006 | Lamborghini Gallardo Spyder |
2007 | Subaru Legacy Outback/Ford Mondeo
(cyfartal) |
2008 | Caterham Seven R500 |
2009 | Lamborghini Gallardo LP550-2 Valentino Balboni |
2010 | Citroën DS3 |
2011 | Range Rover Evoque |
2012 | Toyota GT86 |
2013 | Ford Fiesta ST |
2014 | BMW i8 |
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ "Top Gear India special criticised for 'toilet humour'". Bbc.co.uk. 12 Ionawr 2012. Cyrchwyd 11 Mawrth 2013.
- ↑ "Sir Bruce Forsyth becomes record breaker". BBC News Online. 7 Medi 2012. Cyrchwyd 7 Medi 2012.
motoring show Top Gear, is also recognised in the 2013 volume. The BBC Two fixture holds the record for the world's most widely-watched factual TV programme, having now been broadcast in 212 territories.